麻豆社

Enid Pierce Roberts - teyrnged Gwyn Thomas

Gwyn Thomas - ar y chwith

Fel eglwyswraig ddefosiynol allai fod wedi gwneud ffortiwn yn chwarae pocer y disgrifiwyd yr ysgolhaig Enid Pierce Roberts gan un o'i chyn fyfyrwyr.

15 Gorffennaf 2010

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yr oedd yr Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno teyrnged iddi ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ychydig wedi ei marwolaeth yn 91 oed.

Bu'r Dr Enid Pierce Roberts yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, lle bu'n fyfyrwraig, o 1946 tan ei hymddeoliad yn 1978.

Disgrifiodd Gwyn Thomas hi fel "addysgwraig wrth reddf" a oedd yn ofalus iawn o les myfyrwyr yn eu bywyd personol hefyd.

O'r holl ysgolheigion Cymraeg dywedodd yr Athro Thomas mai ei harwr oedd Syr Ifor Williams y bu'n un o'i fyfyrwyr.

Maes ei harbenigedd oedd Barddoniaeth yr Uchelwyr ac yn arbennig Sion Tudur. Rhoddai bwyslais mawr hefyd ar sgrifennu Cymraeg cywir ac osgoi "sgwennu Saesneg yn y Gymraeg".

Y tu allan i ysgolheictod rhestrodd ymhlith ei diddordebau chwarae cardiau, Chinese Checkers a chwaraeon bwrdd eraill gan ychwanegu y gallai fod wedi gwneud ffortiwn o chwarae pocer.

"Yr oedd hefyd yn "eglwyswraig ddefosiynol a gweithredol" ac yn arbenigwraig ar hanes yr eglwys.

  • Gellir gwrando ar deyrnged Gwyn Thomas trwy glicio ar y blwch llwyd uchod a darllen rhagor am Enid Pierce Roberts a theyrnged yr Athro Branwen Jarvis iddi trwy glicio

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.