Â鶹Éç

Eirwyn George - ateb ein holiadur

29 Mehefin 2010

Cyhoeddi ei hunangofiant Mehefin 2010

  • Enw Eirwyn George.


  • Beth yw eich gwaith? Wedi ymddeol.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Ffermio. Athro ysgol. Llyfrgellydd.


  • O ble rydych chi'n dod? Ardal Tufton yng ngogledd Sir Benfro.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Pentre Maenclochog. Dwy filltir o'r tÅ· lle'm ganed.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Cynradd, na. Uwchradd a choleg, do.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano. Ar ôl cael gyrfa amrywiol a diddorol iawn ni fedrwn beidio â rhoi rhywfaint o'r hanes ar gof a chadw. Dyma'r sbardun i fynd ati i ysgrifennu dilyniant o ysgrifau hunangofiannol. Cefais fwynhad anghyffredin wrth ail-fyw profiadau drwy eu rhoi ar bapur a methu â rhoi'r gorau iddi ar ôl dechrau.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Pymtheg i gyd yn cynnwys Cân yr Oerwynt (barddoniaeth), Meini Nadd a Mynyddoedd (llyfr taith) a GwÅ·r Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif (ysgrifau).


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Uncle Tom's Cabin (Saesneg), Luned Bengoch (Cymraeg).


  • A fyddwch yn edrych arnynt nawr? Na.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Un Nos Ola Leuad(Caradog Pritchard). Gwneud argraff ond dim dylanwad.


  • Pwy yw eich hoff fardd? Gwenallt.


  • Pa un yw eich hoff gerdd? Cymru 1937 (R. Williams Parry).


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "A feddo gof a fydd gaeth" (T. Gwynn Jones).


  • Pa un yw eich hoff raglen deledu? Country File a Y Byd ar Bedwar.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Dafydd'r Efailfach (D. J. Williams), hoff. Paul Rushmere (Islwyn Ffowc Elis), cas.


  • Pa ddywediad, dihareb adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Nid yn y bore y mae canmol diwrnod teg.


  • Pa un yw eich hoff air? Diolch.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael? Canu.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio orau? Gweithgar.
    Goddefgar.
    Penderfynol.


  • Pa arddull ydych chi'n ei hoffi fwyaf? Mynegiant ystwyth, iaith raenus a naws agos-atoch-chi.


  • Pa gymeriad o lyfr neu nofel ydych chi'n gallu uniaethu ag o/hi orau? Heb ddod o hyd iddo eto.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.