Â鶹Éç

Eigra Lewis Roberts - awdur 'Hi a Fi'

Eigra Lewis Roberts - noson cyhoeddi Hi a Fi

01 Rhagfyr 2009

  • Enw:
    Eigra Lewis Roberts.


  • Beth yw eich gwaith?
    Awdur.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Athrawes.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Blaenau Ffestiniog.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Dolwyddelan.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Yn rhannol.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
    Darllen gormod o hunangofiannau. Nofel o fewn nofel yw Hi a Fi, yn cydio'r heddiw a'r ddoe, ffaith a dychymyg.


  • Eigra Lewis Roberts noson cyhoeddi Hi a Fi
  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Pob math o lyfrau, yn cynnwys nofelau, storïau byrion, cyfieithiadau. Dros ddeg ar hugain i gyd.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
    Llyfr Mawr y Plant a llyfrau Enid Blyton.


  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
    Anaml iawn,


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond William Trevor sy'n dal ar y brig.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Wedi gwneud argraff do; dylanwadu - naddo.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    T.H. Parry-Williams.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Ar hyn o bryd - 'Y ferch ar y Cei yn Rio' (T.H.P.W) a'r gerdd 'Gwanwyn' (R.Williams Parry)


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    'Tybed fy mod i O Fi fy hun/ Yn myned yn iau wrth fyned yn hÅ·n'.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    The Killing of Sister George, Ryan's Daughter, The Full Monty, ac yn Gymraeg, Dau Frawd, Wil Sam a Con Passionate.


  • Pa un yw eich hoff gymeriad a chas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Sawl hoff gymeriad. Cas gymeriadau, Lora Ffennig, Y Byw sy'n Cysgu a George Owen, Y Trydydd Peth, oherwydd eu hunanoldeb.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Y brycheuyn a'r trawst.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Heddwch.


  • Pa ddawn yr hoffech ei chael?
    Y ddawn i ganu.


  • Pa air sy'n eich disgrifio chi orau?
    Diffuant, goddefgar, gweithgar.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Oes, ond a' i ddim i'w datgelu!


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Iesu Grist, am fod mor ddynol.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Rydw i'n ddigon bodlon bod yn rhan o'r heddiw.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
    Lloyd George. Ni fyddai angen geiriau.


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Yr un sy'n dod â fi adra.


  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?
    Mae'n dibynnu ar yr hwyl, y tywydd, a maint yr eisiau bwyd.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Darllen, sudoku, croeseiriau, arlunio, garddio, carafanio.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Lliwiau llachar, cynnes.


  • Pa liw yw eich byd?
    Cymysg iawn.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Unrhyw ddeddf a allai sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg.


  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
    Oes. Nofel a chyfrol o storïau byrion.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Mae hynny'n gyfrinach ar hyn o bryd.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.