Â鶹Éç

D Geraint Lewis

D Geraint Lewis

18 Mawrth 2011

Geiriadurwr ac awdur llyfr enwau lleoedd a thesawrws i blant

  • Enw?
    D. Geraint Lewis


  • Beth yw eich gwaith?
    Rwyf wedi ymddeol.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Llyfrgellydd yr hen Geredigion a Chyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol yn gyfrifol am y gwasanaethau diwylliannol yn y Ceredion ôl-'94.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Ynys-y-bwl (nid wyf yn gwbl argyhoeddedig am y 'bŵl').


  • Lle¹r ydych chi'n byw yn awr?
    Llangwrddon (dyma enw'r brodorion ar y lle) ond Llangwyryfon sydd ar yr arwyddion ffyrdd (wrth odre'r Mynydd Bach, Ceredigion).


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do ar y cyfan - pe bawn i ond yn gwybod y pryd hynny yr hyn rwy'n argyhoeddedig ohono nawr, sef ei fod yn iawn i ddweud ‚'dydw i ddim yn deall hynny.'


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?Dwedwch ychydig amdano.
    Yr oedd y Cyd-bwyllgor Addysg yn chwilio am gyhoeddwr i lunio Thesawrws Ysgol Gynradd. Yr oeddwn i wedi llunio Geiriadur Cynradd Gomer a Geiriadur Gomer yr Ifanc ac yr oedd y syniad o Thesawrws yn pontio'r cyfrolau hyn yn apelio'n fawr.

    Hefyd yr oeddwn yn gwybod sut oeddwn am fynd ati.

    Pwrpas Thesawrws yw cynorthwyo rhywun i ddod o hyd i eiriau anghofiedig neu eiriau efallai nad oedd yn gwybod am eu bodolaeth. Mae'n waith anodd ei lunio i gynulleidfa ifanc uniaith, ond o leiaf mae gyda chi syniad o amrediad eu geirfa. Beth fyddai amrediad geirfa Gymraeg plant cynradd dwyieithog yn y Gymru sydd ohoni?
    Fy syniad i oedd cychwyn gyda chnewyllyn o eiriau syml/adnabyddus allan o'r Geiriadur Cynradd gan dynnu ar y ddau eiriadur i adeiladu corff o eirfa ar sgerbwd o ryw 500 o eiriau sylfaenol.

    Er mwyn sicrhau bod perthynas ddilys rhwng gair y pennawd, a'r rhestr o eiriau cyfystyr lluniwyd brawddegau enghreifftiol yn cynnwys geiriaunad oeddynt yn gynwysedig yn y Geiriadur Cynradd lle y gellid gosod gair y pennawd yn lle'r gair cyfystyr yn y frawddeg. Ond hefyd rhestrir geiriau symlach heb frawddegau ac mewn blychau coch, ac y mae'r geiriau hyn yn gallu cael eu gosod yn lle'r gair yn y frawddeg enghreifftiol sy'n cynnwys y pennawd.

    Fel gyrru beic mae'n haws ei wneud na'i ddisgrifio! Ond mae'n dangos bod cryn ddisgyblaeth yn y dewis, a'r canlyniad yw Thesawrws gwreiddiol nad yw'n efelychiad o ddim. Ar ben hyn yr oeddwn yn awyddus i gyflwyno enghreifftiau o gyfoeth a phrydferthwch yr iaith yr oeddwn wedi'u casglu yn ystod fy ngwaith geiriadura, rhestri e.e. o wahanol cystadlaethau, geiriau am digio', storm, ystafelloedd, dynion a merched a.y.b. Yr allwedd technegol sy'n datgloi'r rhain i gyd yw'r Mynegai ar y diwedd.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Ydych chi'n siŵr eich bod eisiau gwybod? (Gwasg Gomer yw'r cyhoeddwr ac eithrio'r rhai a nodir):
    Mynd Drot Drot (i'r plant bach lleiaf) Gwynedd (yn y wasg)
    Fy Llyfr Geiriau Cyntaf (CLCeredigion) 1993
    Geiriadur Cynradd Gomer 1999
    Thesawrws Plant Gomer 2011
    Geiriadur Gomer yr Ifanc 1994
    Welsh English/English Welsh Dictionary (Geddes & Grosset) 1997 A Shorter Welsh Dictionary 2006
    Geiriadur Cymraeg Gomer (yn y wasg)
    Y Treigladur 1993
    Y Llyfr Berfau 1995
    Termau Llywodraeth Leol 1996
    Y Geiriau Lletchwith 1997
    Pa Arddodiad 2000
    Y Llyfr Ansoddeiriau 2005
    Welsh Names (enwau pobl) (Geddes & Grosset) 2001
    Y Llyfr Enwau (enwau'r wlad) 2007
    Y Llyfr Ymadroddion (yn y wasg)
    Awn i Fethlem (carolau) (Pantycelyn) 1983
    Wrth y Preseb (carolau) 1985
    Clychau'r Nadolig (cyfuno'r cyfrolau) 1992
    Clywch Lu'r Nef (carolau) (Pantycelyn) 2001
    Cân Di Bennill (caneuon traddodiadol) 2002
    Lewisiana (CLCeredigion) 2005
    Geiriau Gorfoledd a Galar 2007


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Cyfrolau antur Enid Blyton.


  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
    Na


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Beirdd rwy'n ofni Gwenallt, T.H.Parry Williams.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Do , Surely You're Joking Mr. Feynman, casgliad o ysgrifau ar bopeth ond Ffiseg gan y gwyddonydd Richard P. Feynman a Blue Sky July gan Nia Wyn.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    gw. Uchod.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Glannau John Roderick Rees.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    'Mae alaw pan ddistawo
    Yn mynnu canu'n y co'
    Dic Jones.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Rygbi.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hyd y gwelaf i, mae yna fath arbennig o arwr Cymraeg, y tu hwnt i gonfensiynau, direidus, oriog ond sy'n gyfaill i'r carn i rai - Taliesin, Cei Gwyn yn y Pedair Cainc, Dafydd ap Gwilym y bardd a Twm Siôn Cati ei hun er enghraifft. Syr Herbert Lloyd Ffynnon-Bedr yn nofelau Twm Siôn Cati T. Llew Jones fel dihiryn.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Mae pob peth yn bod,
    ac ni all un ochenaid
    na gwên na deigryn,
    na blewyn na dernyn o lwch -
    ni all yr un ohonynt-
    ddarfod.
    William Blake.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Anasbaredigaethus.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Y ddawn i chwarae cerddoriaeth cystal â'm merch.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    brwdfrydig,
    dyfal,
    hastus.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Rwy'n tueddu i boeni mwy am fy ngwaith nac am bobl.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
    Gwelais raglen ar y bugail Erwyd Howells a adawodd gryn argraff arnaf.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Bod ar y sgwâr yng Nghaerfyrddin pan etholwyd Gwynfor Evans.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Rwy'n ymwybodol o'r rhybudd ‚ Never try to meet your heroes, you'll find they are just guys with problems!


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    I ben y Mynydd Bach 'uwch llonyddwch Llyn Eiddwen'.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Cinio Nadolig fy ngwraig.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Chwarae sboncen.
    Canu corn mewn cerddorfa.
    Mynd i'r cwrdd.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Glas golau.


  • Pa liw yw eich byd?
    Lliw fy wyres fach Nia, pinc.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Cydbwysedd a geirwiredd mewn unrhyw ddatganiad sy'n effeithio'r cyhoedd gan gorff proffesiynol / cyhoeddus gan gynnwys gwleidyddion.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Rwy'n casglu straeon y Mynydd Bach mewn gobaith. Prosiect hir-dymor ar y cyd gyda'm mab, Geiriadur VI Dosbarth Cymraeg i'r Cyd-Bwyllgor Addysg. Rwy'n gobeithio cyhoeddi When All Else Fails! A Horn Player's Vade Mecum cyfrol yn egluro paham y mae mor anodd i ganu'r corn Ffrengig - fel e-lyfr.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Ni allaf feddwl am ddim i guro un Anthony Burgess a welais flynyddoedd mawr yn ôl ond sydd wedi glynu, I had just got out of bed after celebrating my 70th birthday with my catamite when the archbishop called.

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.