Â鶹Éç

Chris Cope: yn ateb ein holiadur

Chris Cope

21 Awst 2009

  • Enw: Chris Cope


  • Beth yw eich gwaith?
    Yfed cwrw. Breuddwydio. Rydw i'n awdur, felly.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Roeddwn i'n arfer bod yn newyddiadurwr. Dyna lle dysgais i fod yn ddiotwr ac yn freuddwydiwr. Roeddwn yn actor am sbel, hefyd. Dyna lle dysgais i osgoi gweithio.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Rydw i'n dod o Austin, Texas, yn wreiddiol. Ond hefyd rydw i wedi treulio llawer o amser yn byw yn St. Paul, Minnesota.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Caerdydd, y ddinas hudol-rhagorol.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do. Ac ydw. Rydw i am wneud MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr hydref.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
    Yn wreiddiol, roeddwn i'n ysgrifennu'r llyfr mewn ymdrech i ateb yr hen gwestiwn fy mod wastad yn ei glywed, sef: Pam ydw i wedi dysgu Cymraeg? Rydw i'n dod o'r Unol Daleithiau, ac nid oedd gennyf unrhyw gysylltiadau i Gymru, felly pam dysgu ei hiaith? Ar ôl ysgrifennu'r llyfr, rydw i'n sylweddoli nad ydw i wedi ateb y cwestiwn; does dim ateb 'da fi. Ond gobeithio bydd y llyfr yn ddigon hir i'r darllenwr anghofio'r cwestiwn.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Dyma fy llyfr cyntaf, heblaw am nofel (yn y Saesneg) na chyhoeddwyd.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Cyfres The Stupids, gan Harry Allard a James Marshall.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Heb os. Daw sail o'm hathroniaeth fyw o'r llyfrau hynny.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Ernest Hemingway.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    On The Road, gan Jack Kerouac. Fe'i darllenais am y tro cyntaf pan oeddwn yn 19 oed. Fel pob Americanwr, bron, ces i fy ysbrydoli ganddo. Yn enwedig, mae'n dylanwadu ar sut yr af ati i ysgrifennu.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Phil Lynott.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    "Stopping by Woods on a Snowy Evening" gan Robert Frost.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    "The woods are lovely dark and deep./ But I have promises to keep/ And miles to go before I sleep/ And miles to go before I sleep."


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Hoff ffilm, mae'n gyfartal rhwng Blues Brothers a The Tao of Steve. Hoff raglen deledu: Strictly Come Dancing, heb os nac oni bai.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Efallai taw Catherine Barkley (A Farewell to Arms, gan Ernest Hemingway) yw fy hoff gymeriad. Rydw i'n ei charu hi. Hynny yw, hoffwn i gael cariad fel hi. Gall meddwl am ddiwedd y nofel beri llefain ynof bob tro. O, Cat druan. "You dear, brave sweet."


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    "Guinness makes you drunk" - Brendan Behan.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Haberdashery.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Rydw i'n ceisio dysgu sut i ganu gitâr ar hyn o bryd, felly dyna ddawn fy mod yn ceisio ei datblygu.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Rhamantaidd dros ben.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Drwglecio? Dyna air da. Drwglecio. Rydw i'n ddrwglecio nad ydw i wedi creu'r gair "drwglecio." Rydw i'n wir ddrwghapus nad ydw i'n gallu hawlio bod yn ffynhonnell y gair 'na.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Fy nhad-cu. Mae'n ddyn caled sydd wedi byw bywyd diddorol a llawn. Oddi wrtho, rydw i wedi dysgu bod y pethau mwyaf pwysig yw'r pethau eich bod chi'n eu gwneud, yn hytrach na'r pethau eich bod chi'n dweud eich bod yn eu gwneud.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Hoffwn i gael cyfle i weld Cab Calloway yn perfformio ym mhen uchaf ei ddyddiau.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
    Hoffwn gwrdd â George Washington a chael peint neu chwech gyda fe. Dim ond er mwyn clywed ei straeon a'r hyn ei fod yn meddwl.


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Unrhyw daith sy'n gorffen gyda fi'n cyrraedd Austin, Texas. Oherwydd mae Austin yn fy hoff ddinas yn y byd.


  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?
    Mecsicanaidd.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    A bod yn onest, rydw i'n mwynhau ysgrifennu. Ond mae'n fwy cyffrous imi ddweud fy mod yn hoffi dringo mynyddoedd neu rywbeth. Felly, yn fy amser sbâr, rydw i'n hoffi ymgodymu ag eirth.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Gwyrdd.


  • Pa liw yw eich byd?
    Amryliw .


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Deddf i wneud y broses o fod yn ddinesydd Prydain yn haws i rywun sydd wedi dysgu'r Gymraeg.


  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
    Oes. Rydw i'n gweithio (i ryw radd) ar dair nofel, ynghyd â chyfrol ffeithiol arall ar hyn o bryd. Ond pwy a ŵyr pryd y deuant nhw allan. Yn ogystal â hynny, mae gennyf syniadau ar gyfer tri llyfr rhagor.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    "Roedd Sue yn noeth y bore 'na. Nid fy mod yn cwyno, ti'n deall, ond roedd yn rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl ei weld. Yn enwedig wrth agor yr oergell."

Colofnydd: Daeth gair Medi 2 oddi wrth Vaughan Hughes, Golygydd Barn yn dweud, "Fe ellir hefyd ddarllen colofn fisol Chris Cope yn y cylchgrawn rhagorol Barn!"


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.