Ffydd, dadrith ac anghred
Mae bardd y Goron Eisteddfod Y Bala 2009 wedi disgrifio y cerddi a enillodd y wobr fel rhai sy'n archwilio natur ffydd, dadrith ac anghred.
Dan y teitl Yn y Gwaed mae cerddi Ceri Wyn Jones yn codi'r cwestiwn difyr a yw cred grefyddol yn rhywbeth sy'n rhan o gyfansoddiad unigolyn ac yn aros yno er gwaethaf pob amheuaeth a all godi.
Dywed iddo ddod yn ymwybodol o hyn pan gaeth ei hun yn trosglwyddo straeon Cristnogol i'w fab bychan er ei fod ef ei hun wedi troi cefn ar y gredfydd honno.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bu'n trafod ei gerddi gyda Karen Owen ar y rhaglen radio Bwrw Golwg y Sul wedi ei goroni yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.
Wrth gyflwyno'r sgwrs holodd cyflwynydd y rhaglen, John Roberts, ai'r hyn a gafwyd gan y "simsanwr" o ran cred a hannai o deulu crefyddol iawn oedd "cerdd grefyddol gan agnostig ynteu cerdd grefyddol gan anffyddiwr"
Disgrifiodd Ceri Wyn Jones ei gerddi fel rhai yn archwilio natur ffydd, dadrith ac anghred "yn enwedig yn wyneb y ffaith fy mod i yn ŵyr ac yn nai i weinidogion".
Magwraeth gapelog
"Ac fe ges i'r fagwraeth gapelog debyg [i'r cenedlaethau o'i flaen] ond fy mod i bellach braidd byth, byth, yn mynd i'r cwrdd.
"Ond yr eironi erbyn diwedd y dilyniant yw fy mod i'n awyddus i'm dau grwt i gael magwraeth gapelog debyg i'r un ges i er fy mod i'n gwybod fod hynny wedi creu anawsterau emosiynol a deallusol imi dros y blynyddoedd ond rwy'n dal i fod eisiau iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle gallan nhw ymhen amser ddod i'w penderfyniadau nhw eu hunain yn gam neu'n gymwys," meddai.
Ymhlith yr "anawsterau" y mae'n eu hystyried mae'r "teimlad o euogrwydd nad yw dyn yn gwneud yr hyn yr oedd ei dad a'i daid ac yn y blaen wedi wneud - yn enwedig ar amser pryd mae'n argyfyngus o ran cymaint o bobl sy'n mynd i'r cwrdd ," meddai.
Eisiau bod yn onest
"Ond wedyn mae yna elfen hefyd o fod eisiau bod yn onest efo chi eich hunan ac un o'r pethau oedd wastad yn fy anesmwytho i am y capel neu am y pregethau oeddwn i'n eu clywed oedd nad oedden nhw braidd byth yn ymdrin gyda ffydd neu anffyddiaeth [ond] i gyd yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn credu ond roedd yn eithaf amlwg i mi efo cyn lleied o bobl oedd yn y cyrddau hynny na allai fod yna cyn gymaint a hynny sy'n credu a beth sydd eisiau, os oes eisiau pregethu, yna pregethu efengyl i gael pobl i gredu," meddai.
Ond wrth fynd yn hŷn dywed fod sylweddoli; "er mwyn cael y pethau da sy'n dod mas o'r fagwraeth honno fod rhaid derbyn y pethau mae dyn yn llai bodlon â nhw".
Canu clychau
Ac er mor bersonol yw ei gerddi dywedodd ei fod yn gobeithio'n fawr " y byddan nhw'n brofiadau sy'n canu clychau gyda phobl eraill o nghenhedlaeth i a chenhedlaeth yn hÅ·n sydd hwythau efallai wedi cael magwraeth gapelog ond sydd wedi troi cefnau ar y peth ac eto sydd nawr yn rhieni ac yn ystyried bod da nhw ddyletswydd ysbrydol tuag at eu plant beth bynnag yw eu amheuon nhw - er mor bersonol ydyn nhw [y cerddi] dwi'n gobeithio bod digon yn ddyn nhw sydd yn brofiadau cyffredin a chyffredinol i nghenhedlaeth i."
Dywedodd mai sbardun y cerddi fu gwylio ei ewythr a oedd yn marw o glefyd motor niwron yn tyfu o ran ffydd wrth ddirywio'n gorfforol.
"Yr oedd yn beth arswydus i'w wylio," meddai a hynny oherwydd na allai ef ei hun er yn byw bywyd cyfforddus dderbyn y ffydd honno.
"Yr oedd yna edmygedd ohono fe ond hefyd yr anirnadaeth yma," meddai.