麻豆社

Bedwyr Rees

Enw?
Wiliam Bedwyr Rees

Beth yw eich gwaith?
Sgriptio ar hyn o bryd.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyflwyno

O ble'r ydych chi'n dod?
Moelfre ar Ynys M么n.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caernarfon.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do a naddo.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Gwneud gwaith ar gyfer cwrs yn Nhy Newydd.

Dwedwch ychydig amdano.
Hanes ydyw am elyniaeth a direidi un haf mewn pentref arfordirol.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Jibar.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Dirgelwch yr Ogof.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Dim ers tro byd.

Pwy yw eich hoff awdur?
Tony Parsons,
Nick Hornby,
David Baddiel,
Twm Miall.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
'Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun' - Aled Jones Williams.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. S. Thomas.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Plentyn yn Angladd ei Fam' - Gerallt Lloyd Owen.

Pa un yw eich hoff linell neu ddarn o farddoniaeth?
There is no other sound
In the darkness but the sound of a man
Breathing, testing his faith
On emptiness, nailing his questions
One by one to an untenanted cross.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Gormod ohonynt i ddewis.
Teledu : The Office, The Fast Show, I'm Alan Partridge.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Dwnim.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Heb ei fai, heb ei eni.

Pa un yw eich hoff air?
Colbar.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hoffwn fod yn gerddorol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Ella na dim fy lle i ydi disgrifio fy hun!

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dwi'n poeni am bob dim dan haul.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham?
Muhammed Ali.
Anodd dychmygu'r 20fed ganrif hebddo.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Mi faswn wedi hoffi gweld rhai o gampweithiau pensaerniol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cael eu hadeiladu - llongau mawr Brunel, Pont Borth ayb.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Mi faswn i'n deud wrth Gapten y 'Royal Charter' i chwilio am loches yng Nghaergybi yn hytrach na mynd yn ei flaen am Lerpwl.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar hyd yr arfordir o draeth Moelfre i draeth Lligwy wedyn i fyny heibio Din Lligwy. Does unman tebyg yn y byd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Sd锚c a Chips.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota, chwarae pel droed a mynd am dro efo Eleri.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Amrywio o ddydd i ddydd.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mae angen deddfau i reoli prisiau'r farchnad dai mewn cymunedau cefn gwlad.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, ond dim llawer o amser.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Fe gafodd John lwmp o fraw o ffeindio bod yna alarch yn ei ystafell wely.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.