麻豆社

Angharad Price

Angharad Price

31 Mawrth 2010

Awdur 'Caersaint' yn ateb ein holiadur

  • Enw

  • Angharad Price

  • Beth yw eich gwaith?

  • Darlithydd yn y Gymraeg yng ngholeg Bangor.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Gweithio yn nhafarn yr Anglesey, Caernarfon.
    Gweithio mewn siop ddillad dynion yn yr Almaen.
    Dysgu Cymraeg yn Fienna.
    Darlithio yn y Gymraeg yn Abertawe a Chaerdydd.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Bethel, Caernarfon.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Caernarfon.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do, yn fawr iawn - o'r ysgol gynradd hyd at y brifysgol.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?

  • Mae Caersaint yn adrodd hanes Jaman Jones sy'n dychwelyd i'w dref enedigol wedi saith mlynedd i ffwrdd. Daw i adnabod ei gymdogion a chymeriadau'r dref, a syrthio mewn cariad 芒 gwraig y darpar- Faer, a chael ei hun yn sefyll yn yr etholiad...

    Nofel hwyliog (gobeithio) ac iddi gyffyrddiad cartwnaidd. Mi gefais fy ysbrydoli i'w sgwennu gan dref Caernarfon, a chan ffraethineb a dyfeisgarwch y Cofis wrth drin iaith (er enghraifft, mae enw 'Jaman' ei hun yn air tafodieithol sy'n golygu anffawd ac embaras. Roeddwn eisiau mynegi fy ngwerthfawrogiad o'r cyfoeth hanesyddol a chyfoes sydd yn y dref.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Tania'r Tacsi, stori fer hir a sgwennais pan oeddwn yn byw yn Fienna. O! Tyn y Gorchudd, sef nofel yn seiliedig ar hanes teulu fy mam ym Maesglasau. Llyfrau academaidd ar ryddiaith Gymraeg gyfoes, ac ar y Cymry alltud yn yr Eidal.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Roeddwn yn hoff iawn o gyfresi 'Y Llewod' gan Dafydd Parri a 'Criw Crawia' gan Emily Huws. Yn Saesneg, The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Byddaf yn prynu Y Llewod a Criw Crawia ar gyfer fy mhlant fy hun pan welaf nhw mewn siopau ail-law, ac mae The Secret Garden yn dal i wneud i mi grio.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Dwi'n edmygu llawer iawn o sgwenwyr, ond Tolstoy ydi'r ffefryn ar y funud.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Oes, gormod o lawer i'w henwi.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Patrick McGuinness. (Ymhlith llu o rai eraill...)

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Mae rhai o emynau Ann Griffiths yn fy nghyffwrdd, i'r byw.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Mae gwahanol linellau yn dod i'm pen ar yr adegau rhyfeddaf.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Fy hoff ffilm ydi Singing in the Rain

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Levin yn y nofel Anna Karenina - hunanbortread (caredig) o Tolstoy ei hun.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • O natur, dydyn nhw ddim yn agos iawn at y gwir

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Awel.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Medru wfftio barn pobl eraill.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Mam. Sgwennwr. Cymraes .

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Mae fy mogail fy hun yn beth reit anniddorol ac amherthnasol...

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Dwi'n fwy tebygol o edmygu rhywun byw gan fy mod yn gallu eu hadnabod; byddaf yn edmygu rhywun newydd bob dydd, bron.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Nid digwyddiad - ond byddwn wedi gwerthfawrogi cael cyfarfod fy nhaid, peiriannydd morwrol a dreuliodd ei fywyd yn teithio moroedd y byd. Bu farw rai misoedd cyn i mi gael fy ngeni.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?

  • Y Cymry alltud yn yr Eidal adeg Elisabeth I - Gruffydd Robert (Milan), Morys Clynnog, Owen Lewis a Sion Dafydd Rhys: Cymry a ddaeth i gyffyrddiad 芒 digwyddiadau tyngedfennol eu hoes.

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Dwi'n hoff iawn o fynd ar hyd y Foryd, Caernarfon ar fy meic: mae gweld y m么r a'r mynyddoedd yr un pryd yn wefreiddiol.

  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?

  • Pryd bwyd yng nghwmni enaid hoff cyt没n.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Chwarae gyda fy mhlant neu fynd am dro. Ac mae 'na eiliadau o dangnefedd i'w cael weithiau wrth roi dillad ar lein.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Gwyrddlas / glaswyrdd.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Mae'n dibynnu ar y tywydd.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Mi hoffwn i'r Cynulliad gael rhwydd hynt i gyflwyno deddfau newydd!

  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?

  • Llyfr ar y cyfnod a dreuliodd T.H. Parry-Williams yn yr Almaen a Ffrainc cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Mae'n dibynnu'n union ar yr hyn a ddaw wedyn.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.