Mae Y Graig gan Haf Llewelyn yn nofel sydd yn ceisio creu darlun o'r gwrthdaro a'r tensiwn ymysg tair cenhedlaeth o deulu fferm Y Graig gan ddatgelu sawl cyfrinach sydd yn bygwth chwalu'r aelwyd a dinistrio'r teulu.
O'r cychwyn cyntaf mae'r darllenydd yn cael ei sugno i fyd y nofel oherwydd crefft Haf Llewelyn i lunio cymeriadau.
Mae pob cymeriad yn berchen ar lais unigryw, clir. Mae pob cymeriad yn gredadwy; nid ffermwyr ystrydebol yw cymeriadau'r nofel hon, yn hytrach mae'r nofelydd wedi llwyddo i greu cymeriadau o gig a gwaed sydd yn llawn teimlad a thensiwn.
Felly, mae'r darllenydd eisiau gwybod beth ddaw o bob cymeriad oherwydd ein bod ni'n cydymdeimlo â hwy ac, yn fwy na hynny, rydym ni'n malio beth sydd yn digwydd i bob cymeriad.
Sawl llygaid
Mae Haf Llewelyn wedi cryfhau'r nofel a chryfhau perthynas y darllenydd â'r cymeriadau drwy adael i nifer o gymeriadau adrodd y stori yn eu tro sy'n golygu ein bod ni'n clywed am gefndir y teulu a digwyddiadau yng ngorffennol y cymeriadau mewn ffordd naturiol heb i'r awdur draethu.
Yn ogystal â chael sawl gwahanol farn am yr un digwyddiad rydym ni'n cael darlun cynhwysfawr, crwn, o'r berthynas rhwng y cenedlaethau, y materion sydd yn creu tensiwn a phroblemau'r teulu, a hynny heb i'r awdur syrthio i'r fagl o ail-adrodd yr un rhan o'r stori droeon.
Mae arddull Y Graig yn hyfryd gyda phob cymeriad â'i lais a'i ymadroddion unigryw ei hun. Llwydda i bortreadu cymeriadau o'r gwahanol genedlaethau yn effeithiol iawn gan greu pwyll ac urddas yr hen ŵr yr un mor gywrain ag egni, llawenydd a thor calon y cymeriadau iau.
Mae hyd yn oed fwy o geinder yn y disgrifiadau a'r delweddau o fferm Y Graig a'r tirwedd :
"Mae yna fwy o eiriau heb gael eu dweud yn y Graig nag sydd o ddafnau glaw yn y niwl," meddai.
Y stori
Er cyfoeth yr iaith a'r cymeriadau nid yw'r nofel heb ei beiau a'r bai mwyaf i mi yw'r stori ei hun neu, efalla, y diffyg stori.
Ychydig iawn sydd yn digwydd ac mae'r rhan fwyaf o'r stori yn ymwneud â phethau'r gorffennol; nid bod hynny yn ddrwg ynddo'i hun ond, ar adegau, mae'r darllenydd eisiau gweld mwy yn digwydd, eisiau gweld y cymeriadau yn gwrthdaro, eisiau eu gweld yn ffraeo, dadlau neu golli limpyn, yn hytrach na hel meddyliau yn unig.
Does dim un prif linyn storïol ond, yn hytrach, haenau o straeon llai sy'n gwneud y nofel ar brydiau, yn dameidiog a phytiog.
Tra bo'r we o straeon yn llwyddo i ddangos y gwahanol berthynas rhwng aelodau teulu Y Graig a gweddill y gymuned nid yw'n creu cyfanwaith.
Yn ogystal, mae'r diffyg stori yn bendant yn creu peth dryswch sydd yn effeithio ar allu'r darllenydd i ddeall beth yn union sy'n digwydd a sut yn union mae popeth yn dod at ei gilydd. .
Heb dorri tir newydd
Nid yw'n nofel sy'n torri tir newydd o ran ei chynnwys. Mae nofelau Cymraeg eraill am drafferthion a thensiynau teuluoedd amaethyddol wrth i genhedlaeth iau geisio herio'r drefn. .
Ac yn wir, nid yw'r cyfrinachau a ddaw i'r amlwg na gorffennol cudd y teulu mor annisgwyl â hynny a synnwn i ddim na fydd sawl darllenydd eisoes wedi rhagweld. .
Nerth Y Graig yw ei hysgrifennu celfydd, ei chymeriadau byw, ei delweddau disglair a'i gallu gwirioneddol i ddisgrifio teulu cyffredin ar ei orau ac ar ei waethaf.
Oherwydd hynny mae'n nofel gwerth ei darllen.