Â鶹Éç

Lloyd Jones - Y Daith (adolygiad)

Rhan o glawr y llyfr

13 Hydref 2011

Adolygiad Janice Jones o Y Daith gan Lloyd Jones. Y Lolfa. tt.188. £7.95

Y Daith ydi ail nofel Gymraeg Lloyd Jones ac er bod y gyfrol hon, yn ymddangosiadol o leiaf, yn dipyn ysgafnach na'i nofel Gymraeg gyntaf - Y Dŵr - mae hon hefyd yn trafod pynciau o bwys.

Yn y gyfrol dilynwn Mog ar ei daith i chwilio am ei wraig, Meg, sydd wedi diflannu.

Ond mae Mog, mewn gwirionedd, yn chwilio am lawer mwy na'i gymar: mae'n chwilio amdano ef ei hun ac am yr hyn sydd arno ei angen i roi ystyr i'w fywyd.

Fel fframwaith, mae taith yn cynnig llawer o sgôp i awdur ac mae Lloyd Jones yn gwneud yn fawr o'r ystwythder hwn yn y nofel hon ac mae'n bur debyg y bydd nifer o ddarllenwyr sydd yn llechu yn nhir neb canol oed, fel Mog ei hun (heb sôn am yr adolygwraig bresennol!), yn deall ei awydd am atebion, hyd yn oed os nad ydynt hwythau ychwaith, yn sicr iawn o'r cwestiynau.

Clawr y llyfr

Mae'r bennod gyntaf yn ein cyflwyno i Mog, yn ei eiriau unigryw ei hun, wrth iddo stelcian dros y golchi llestri yn y gegin.

Mae'n cyflwyno ei hun mewn modd pytiog iawn sy'n adlewyrchiad argyhoeddiadol o'r modd y mae'r meddwl yn sboncio, fel sioncyn y gwair, o'r naill beth i'r llall.

Defnyddir nifer o dechnegau megis geiriau mewn cromfachau, ôl-nodiadau, rhestrau a chwestiynau i fynegi'r aflonyddwch meddyliol hwn yn llwyddiannus.

Mae dyfodiad cwpwl ifanc, Dewi a Catrin, yn torri ar draws synfyfyrio Mog, a gydol eu harhosiad, mae presenoldeb y bobl ifanc fel petai'n atgoffa Mog a Meg o'r hyn na phrofasant yn eu perthynas eu hunain.

Ymhen amser, mae'r cwpwl ifanc yn gadael gan fynd â'r haf gyda hwy. Ar yr un pryd mae Meg yn diflannu ac wedi cyfnod o ogor-droi i ryfeddu ato, penderfyna Mog fynd i chwilio amdani.

Cychwyn y daith

A dyma ble mae'r daith gorfforol, ddaearyddol yn cychwyn. Ni fyddai datgelu gormod am y daith ei hun yn gwneud unrhyw ffafr â darpar ddarllenydd ond teg dweud ei bod yn gymysgedd fyrlymus a phleserus o realiti, ffantasi, breuddwyd a mytholeg.

Ceir hefyd drafodaethau deifiol am y berthynas rhwng y Gymru gyfoes a'i phreswylwyr ac am y pwnc oesol gymhleth hwnnw, y berthynas rhwng dynion a merched.

Eto, annheg fyddai dadlennu'r hyn sy'n digwydd erbyn diwedd y gyfrol, dim ond dweud bod y diweddglo yn cynnig rhwydd hynt i ddarllenydd ddefnyddio'r dychymyg ac yr oedd hynny yn plesio'r adolygwraig hon, er na fydd, efallai, yn bodloni llawn gymaint ddarllenydd sydd am weld canlyniad twt a theidi.

Fel y soniwyd uchod, mae elfennau digon afreal yn perthyn i nifer o ddigwyddiadau'r nofel ond mae llais y prif gymeriad yn argyhoeddi a chynnal diddordeb y darllenydd drwy'r cwbl.

Ac er nad ydym yn berffaith sicr a yw pob cymeriad yn berson go iawn o gig a gwaed, mae'r rhain hefyd yn grwn a chredadwy.

Ategir hyn wrth i'r digwyddiadau gael eu disgrifio mewn iaith hygyrch a naturiol sydd yn sicr â'i thraed ar y ddaear.

Cynhwysa'r gwaith doreth o gyfeiriadaeth sy'n ymestyn o gymeriadau adnabyddus o draddodiad llenyddol Cymru megis Dafydd ap Gwilym a Heledd, hyd at y canibal Cymreig, Hannibal Lecter, fel y'i portreadwyd gan Anthony Hopkins.

Realaeth hudol

Petai diben gosod y nofel o fewn genre penodol, yna mae'n debyg mai fel esiampl o realaeth hudol y byddai'n cael ei disgrifio.

Y thema o fewn y gyfrol a amlygodd ei hun i'r adolygwraig hon oedd y thema o berthyn, neu o beidio â pherthyn, boed hynny i gymar, i deulu, i ardal neu i genedl. A phwysigrwydd y 'perthyn' i'r syniad o'r hunan.

Yn sicr, mae gan y nofel hon rywbeth i'w gynnig i ddarllenwyr o bob oed a bydd pob darlleniad, dybiwn, yn peri i ddarllenwyr ofyn cwestiynau gwahanol, a chanfod atebion unigryw. Janice Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.