12 Awst 2011
Adolygiad o Tua'r Gorllewin . . . cofiant T. Llew Jones gan Idris Reynolds. Barddas. £9.95.
Er mai fel "cofiant" T. Llew Jones mae'r gyfrol ddifyr hon yn cael ei disgrifio nid cofiant yn yr ystyr arferol yw hi.
Ydi, mae hi'n dilyn y llwybrau bywgraffyddol ond mae'n fwy o deyrnged mewn gwirionedd, yn folawd, yn wir, i lenor a bardd ac yn werthfawrogiad twymgalon o awdur sy'n cael ei gyfrif yn un o'n cewri llên.
Wedi ei saernïo yn gelfydd gan fardd arall, Idris Reynolds, i gyfuno hud awdur go arbennig a lledrith y gorllewin daearyddol a olygai gymaint iddo mae'n gyfrol haeddiannol sy'n ateb ei diben i'r dim ac yn un hawdd ac yn un ddifyr i'w darllen.
Dilyniant sydd yma o ysgrifau sy'n gyfuniad o gofio ac o ddehongli ac o egluro a mawrygu gyda nifer o ddyfyniadau o waith T Llew Jones. Mae'n gyfrol deilwng o gamp y gwrthrych.
Gwir nad oes datgeliadau mawr newydd yn null cofiannau Saesneg ac yn wir, y mae rhywun wedi darllen neu glywed o'r blaen lawer os nad y cyfan o'r hyn sydd yma ond dyw hi ddim tlotach cyfrol oherwydd hynny ac y mae elfen farddol i'r gweu sy'n digwydd o'r gwrthrych a'i gynefin.
"Bro'rysbryd anturus oedd bro T. Llew. 'Tua'r gorllewin' oedd ei anogaeth. Yno, dros Bont-dŵr bach, mae byd o ryfeddodau a than yr eithin mae cawg o aur," meddai Idris Reynolds wrth gau pen ei fwdwl.
A'i gamp ef yn y dalennau blaenorol fu troi'r rhyfeddodau a'r aur yn sylwedd yng nghyd-destun dychymyg T Llew Jones.
Teitlau awgrymog
Saernïwyd y 'cofiant' yn ofalus gydag adleisiau awgrymog o weithiau T Llew Jones yn deitlau'r penodau, yn eu plith; Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan . . .? y bennod gyntaf, Y ffordd beryglus, Un noson dywyll, Y ceiliog mwyalch, Sŵn y malu a Fy mhobl i - lle gwrthgyferbynnir ef yn dreiddgar ag un arall o'r fro y llenor dadleuol Caradoc Evans.
Cychwynnir gyda'r dyddiau cynnar a gwaddol ei fam a fu'n ei ddifyrru yn blentyn "o gyfrolau ei dychymyg".
Dylanwadau
Dylanwad ac anogaeth Dewi Emrys wedyn a'i golofn farddol yn Y Cymro - a phwy fyddai wedi meddwl y byddai'r crwt T Llew yn cynnal y golofn honno ei hun ymhen blynyddoedd - er dydw i ddim yn cofio imi weld hynny'n cael ei ddweud yn y gyfrol.
Dylanwad pwysig arall oedd T Ll Stephens a T Llew wedi cyfansoddi englyn coffa iddo sy'n ddisgrifiad yr un mor berffaith ohono'i hunan hefyd:Ar hyd ei oes carai dant - carai'r iaith,
Carai'r hen ddiwylliant,
Carodd Gymru'n ddiffuant;
A'i gwbl oedd addysg ei blant.
Olrheinir hefyd gyfraniad allweddol y chwyldroadwr dylanwadol hwnnw Alun R Edwards a sut y sicrhaodd i T Llew y cyfle i sgrifennu.
Ond yn fwy na hynny, "mynnai T. Llew mai gweledigaeth a brwdfrydedd Alun Edwards a daniodd gynifer o awduron i baratoi deunydd darllen ar gyfer plant Cymru gan sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw am genedlaethau i ddod".
Danteithion
Mae'n gyfrol aml ei danteithion. Hanes brwydr styfnig T Llew yn erbyn 'Cymraeg Byw' - ac ar nodyn personol coffa da am baratoi ei erthygl rymus i'w gosod ar un o ddalennau'r Cymro a'r argraff a wnaeth.
Cawn ein hatgoffa mai ef roddodd y gadair i'r bardd ifanc Gerallt Lloyd Owen am ei gerddi ysgytwol yn Eisteddfod yr Urdd 1969.
"Fe geir ambell flwyddyn yn hanes gwinllannoedd Ffrainc pan fo haul a gwynt yn cydweithio â'i gilydd i roi grawn a gwin arbennig. Gelwir blwyddyn fel yna yn 'vintage year' yn Saesneg. Blwyddyn felly yw hi wedi bod yn hanes Cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Ni fu nemawr erioed fwy o deilyngdod," meddai o'r llwyfan ar y pryd.
Yn y bennod Lleuad yn olau olrheinir ei ddiddordeb angerddol mewn chwedloniaeth a hynafiaeth ac olion hynny yn ei waith.
Cawn hefyd rai o gyfrinachau difyr 'y Rŵm Fach a datgelir iddo ar ddau achlysur wrthod gwahoddiad i fod yn Archdderwydd - ond bod yn edifer pan yn rhy hwyr. Gwrthododd hefyd ymuno â'r Academi am na hoffai "elitaeth academaidd y "clic llenyddol" hwnnw ond yn y diwedd fe gytunodd i fod yn gymrodor anrhydeddus am oes.
Bydd, rhwng popeth bydd Tua'r Gorllewin yn plesio o ran ei chynnwys, ei dehongliadau a hefyd o ran brwdfrydedd ac edmygedd diderfyn a di-gwestiwn Idris Reynolds o wwrthrych y mae ganddo gymaint o feddwl ohono.
Glyn Evans