Â鶹Éç

Ifan Gruffydd - Pwy Faga Ddefed?

Llun ar glawr y llyfr

15 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Pwy Faga Ddefed? gan Ifan Gruffydd. Lolfa. £4.95.

Mae'r llyfr hwn yn cael ei ddisgrifio fel "Cyfuniad o rants Jeremy Clarkson a hiwmor cefn gwlad."

Does dim dadlau â'r ail gymal ond rwy'n cael Ifan Gruffydd yn llawer addfwynach a hynawsach dyn na'r Clarkson cegog, powld, ac yn llai o figot - a thybed nad yw hynny yn ei wneud fymryn yn llai diddorol hefyd.

Clawr y llyfr

Mewn cyfrol denau o 93 o ddalennau mae Ifan Gruffyddyn traethu am 13 o bynciau yn amrywio o'r ffermwr ei hun, ei hwrdd, ei geffyl, ei dractor, ei feic cwad, ei gŵn a'i Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Yn y ddwy bennod olaf mae cerdd dalcen slip am amaethu ac 11 o orchmynion i ffermwr sy'n cychwyn gyda;

"Na ladd unrhyw swyddog Defra neu fe golli dy daliad sengl."

Ac yn gorffen gyda'r gorchymyn:

"Paid â wincio ar ferch mewn unrhyw farchnad, rhag ofn iti fynd adref â buwch yn gwmni."

'Standyp'

Nid yn annisgwyl casgliad o'r hyn fyddwn i'n dybio sy'n eitemau 'standyp' sydd yma gyda'r rhan fwyaf ohonynt, fel sy'n gweddu i ddigrifwr o amaethwr, yn terfynu gyda jôc.

Gallaf ddychmygu rhai sy'n gyfarwydd â bywyd cefn gwlad ac ag Ifan yn cael orig ddigon difyr yn ei gwmni tra'n treulio'r cinio mawr yna bnawn Nadolig.

Y meddwl ar grwydr

Gadael i'w feddwl grwydro hyd llwybrau troellog y mae o. Am y Royal Welsh, dywed;

"Fe fydda i'n gweld y sioe yn debyg iawn i'r Nadolig achos mae pawb yn edrych mla'n i fynd iddi, ac ar ôl pedwar diwrnod, neu un yn fy achos i, ma'r rhan fwya'n dweud, 'Diolch byth! Ma hi drosodd am flwyddyn arall'. O ie, ac ychwanegu, 'Bydd yn rhaid gwario llai y flwyddyn nesa'."

Am y sioe hefyd mae'n holi beth sydd i'w gyfrif bod y chips yno "mor ofnadw o ofnadw".

Dirgelwch arall iddo yw'r amgylchedd a chynhesu byd-eang:

"Os bydd hi'n bwrw mwy o law nag arfer, cynhesu byd-eang sy'n gyfrifol. Ar y llaw arall, os bydd hi'n dwymach nag arfer am rai wythnose, a'r dŵr yn dechre prinhau, wel yr un ateb gewch chi - cynhesu byd-eang," meddai.

Y defed

Mae'r "defed" yn y teitl yn cael cryn sylw wrth gwrs ac y mae'r gyfrol yn llawn o gartwnau ohonyn nhw gan Anthony Kelly.

Ond efallai mai'r sylw clyfraf amdanyn nhw yw'r limrig y daeth Ifan ar ei draws mewn Eisteddfod Ddwl:

O ben mynydd Tychrug rwy'n gweled
Defed, a defed a defed,
A defed a defed
A defed a defed
A defed a defed a defed.

Clyfar iawn.

Llusgo i'r Orsedd

Molawd i drelars Ifor Williams yw un bennod gydag awgrym "bod y treilars o Gorwen yn cael eu gwneud yn aelodau o'r Orsedd".

A pham lai mae yna bethau rhyfeddach a llawer mwy di-fudd yno . . . ond nid Ifan sy'n dweud hynny!

Gwerth cyfeirio at gyfarfyddiad difyr â'r Tywysog Charles hefyd pan oedd hwnnw'n fyfyriwr yn Aberystwyth.

Oes, mae rhywbeth difyr, diri dano, i wrêng a bonedd fan hon. Cyfrol hosan Dolig hwylus iawn a chydymaith hwyliog i Hiwmor Ifan Tregaron yn y gyfres Ti'n Jocan a gyhoeddwyd beth amser yn ôl, hefyd gan y Lolfa.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.