28 Tachwedd 2011
Adolygiad Gwyn Griffiths o Pafaroti Llanbed, hunangofiant Timothy Evans. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50.
Fe'i clywais yn canu yn gyson iawn ar Radio Cymru. A chael fy swyno ganddo. Timothy Evans yw eilun ffyddloniaid Ar Eich Cais a Dai Jones - ei hun yn denor digon derbyniol yn ei ddydd - a'i bedyddiodd yn Pafaroti Llanbed.
Chlywais i erioed mohono'n canu yn y cnawd a wyddwn i ddim llawer amdano heblaw fod ganddo lais hyfryd a rhyw gysylltiad â'r Post Brenhinol. Rwy'n siŵr bod ei edmygwyr niferus yn gwybod llawer mwy na mi amdano.
Bydd yr edmygwyr hynny yn awr yn croesawu'n gynnes y gyfrol hon. Mae'n stori am un sy'n meddu ar dipyn o dalent ond a gadwodd y ddawn honno i raddau helaeth yn y dirgel. I'w fro y mae'r diolch i'w ddawn ddod i olau dydd.
Er cymaint y gefnogaeth gan ei fam a'i chwaer, ennill yn Eisteddfod Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan ac anogaeth y Clwb Ffermwyr Ieuanc fu ei ysbrydoliaeth.
Oherwydd yr oedd ganddo ddiddordebau eraill, fel tyddynna a magu da pluog, merlod a defaid a'u harddangos mewn sioeau.
Dyna ddiléit ei dad fyddai'n mynd ag e i ragbrawf eisteddfod a'i adael yno, a mynd ar sgawt o gwmpas yr ardal i gael golwg ar y stoc.
Mae'n debyg mai'r diddordeb hwnnw a etifeddodd gan ei dad a'i cadwodd yn ei filltir sgwâr ac, er gwaethaf y cynigion, nid aeth i goleg cerdd na bwrw ymlaen gyda gyrfa gerddorol. Wedi'r cwbl fe enillodd wobr Canwr y Fwyddyn yn Llangollen, 1991.
Daeth yn ail am wobr Canwr ifanc y Flwyddyn yn Llangollen ym 1984 a Bryn Terfel yn drydydd! Enillodd y Rhuban Glas dan 25 oed yn y Genedlaethol. Digon o brawf, pe byddai'i angen, y gallai fod wedi naddu gyrfa iddo'i hun ar lwyfannau mawr y byd.
Er iddo fynd i Awstralia a gogledd America, yn Llanbed mae ei galon.
Diddorol sylwi ar rai o'r cantorion y bu'n cystadlu yn eu herbyn yn yr eisteddfodau yn ei flynyddoedd cynnar: Huw Evans, Tregaron, Delyth Hopkins, Pontrhydygroes - am ardal gynhyrchiol - Mari Ffion Williams, Synod Inn. a Meinir Jones Williams o Gwmann. Buase'n werth dilyn eisteddfodau bach Sir Aberteifi i glywed rheinia'i gyd ar yr un noson.
Ond i grwt a fagwyd yn siop Silian, canolfan y pentref "lle'r oedd cloch y drws yn canu'n amlach na chloch y til" yr oedd gyrfa arall yn cymell. Cafodd waith yn Swyddfa'r Post yn Llanbed a dod, maes o law, yn bostfeistr y dref.
Mae Llanbed yn dref o anghysondebau - tref Gymraeg ond tref gyda choleg a "myfyrwyr a staff ... yn alltudion Seisnig sy'n ymgasglu at ei gilydd fel petai nhw ar ynys unig gan hiraethu yn eu meddwdod dagreuol am fwyd Gwlad Thai a ffilmiau tramor."
Dyna farn yr Americanes Pamela Petro awdures Travels in an Old Tongue - cyfrol am ei phrofiadau'n dysgu Cymraeg yn y coleg ac sy'n sôn am Timothy.
Aeth Americanes arall yn y coleg, Harrison Solow, hon eto wedi dysgu Cymraeg, cyn belled â sgrifennu traethawd doethuriaeth cyfan am y "reclusive, stunningly talented and almost magical tenor, the Postmaster of a little town in Wales ..."
Dweud go dda.
Ar hyn o bryd mae Timothy wedi rhoi'r gorau i ganu mewn cyngherddau ond yn casglu caneuon ar gyfer Cryno Ddisg arall y gallwn fentro fydd mor boblogaidd a'i hunangofiant.