Â鶹Éç

Eigra Lewis Roberts: Paid â Deud

14 Tachwedd 2011

Adolygiad Joanna Davies o Paid â Deud gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer. £7.99.

Pan oeddwn yn ifanc ac yn ffôl, roeddwn bob amser yn meddwl bod ysgrifennu stori fer yn dipyn haws nag ysgrifennu nofel. Ond nawr wedi arbrofi gyda'r ddau genre, rwy'n gwerthfawrogi bod ysgrifennu stori fer yn dipyn o her.

Y sialens o greu'r 'seren wib' yna sy'n mynd â'r darllenydd ar siwrne foddhaol ac yn cloi popeth yn dwt o fewn ychydig iawn o dudalennau.

Felly, pwy well i daclo stori fer neu gyfrol o straeon byrion nag un o hoelion wyth ein llên, Eigra Lewis Roberts? Mae ei chyfrol diweddaraf, Paid â Deud', (Gomer) yn gasgliad o straeon byrion unigol sydd ar yr olwg gyntaf yn hollol ar wahân i'w gilydd ond sy'n uno hefo'r un thema; cyfrinachedd teuluol, a'r gwrthryfel rhwng yr hyn sydd ar yr wyneb a theimladau mewnol ei chymeriadau.

Clawr y llyfr

Mae Eigra Lewis Roberts yn llwyddo i'ch tynnu i fydoedd y cymeriadau yn syth gyda'i dawn ddisgrifiadol.

Nid yw hon yn gyfrol 'ysgafn' na doniol; yn wir mae llawer o'r cymeriadau yn bodoli dan ryw gwmwl du.

Yn y stori Bofe da gwelir rhwystredigaeth gwraig sy'n ymdopi â mewnfudwyr Saesneg yn ei hardal a'r newid sy'n dod wrth iddynt ymgartrefu yn ei phentref. Mae'r coed gyferbyn â'r tŷ yn cael eu torri i lawr gan ei chymdogion Seisnig a hynny'n ergyd fawr iddi. Nid oherwydd y 'coed' eu hunain ond oherwydd be mae hyn yn ei feddwl yn go iawn - bod ei byd yn newid, bod dim byd yn medru aros 'run fath er iddi ddymuno hynny.

Defnyddia'r awdur benillion o flaen pob stori i gyfleu'r 'thema' - yn achos Bofe Da, "Aros mae'r Mynyddau Mawr" sy'n effeithiol iawn ac yn cyfoethogi'r gyfrol.

Cawn weld safbwyntiau cymeriad arall yn y stori Bofe Da sef merch y prif gymeriad sydd wedi cefnu ar ei magwraeth Gymreig ac ymweld â'i mam ond yn anaml.

Llwydda'r awdures i bortreadu'r pellter rhwng y ddwy yn gelfydd trwy fynegi eu meddyliau cudd ac mae'r thema o bellhad rhwng perthnasau agos yn rhedeg drwy'r casgliad cyfan o straeon.

Yn y stori, Di-deitl does gan y darllenydd fawr o gydymdeimlad, ar y cychwyn, â'r prif gymeriad, Cit, gwraig ganol oed sy'n difaru nad yw wedi gwneud mwy o'i haddysg coleg ond a ddewisodd fod yn wraig tŷ a chefnogi ei gŵr, postmon sydd newydd ymddeol, a magu eu plentyn yn lle cael gyrfa.

Nawr bod ei gŵr adre mae'r deinamig yn y cartref wedi newid. Mae e ishe dilyn ôl traed ei daid, y bardd, 'Eos y Nant' a barddoni ond does gan Cit fawr o gefnogaeth i'w gynnig.

Ni sylweddolwn tan ddiwedd y stori y gwir reswm tu ôl i'w diffyg cefnogaeth ac mae'r ffordd mae Eigra Lewis Roberts yn datgelu hyn yn llwyddo i ennyn ein cydymdeimlad tuag at y cymeriad gan ddysgu'r wers bwysig inni; pan fo cymeriad yn ymddwyn mewn ffordd annymunol, mae yna bob amser reswm, rhyw ofn neu friw sydd wedi achosi iddynt godi amddiffynfeydd.

Mae'r straeon yn llawn ymadroddion cyfoethog tafodiaith yr awdures. Fel "hen dderyn corff" a cherddi fel "pentwr o gerrig beddau" yn y drôr a'r disgrifiad o berthynas newydd gŵr a merch yn "Ddim rhy Hwyr" fel petai'r "ddau yn sglefrio ar rew tenau", yn mynegi llawer mewn ychydig eiriau, sy'n hanfodol mewn stori fer.

Mae hefyd yn ysgrifennu mewn gwahanol dafodieithoedd gan gynnwys tafodiaith y de yn y stori Mor Browd sy'n dangos ei dawn fel llenor ac yn rhoi amrywiaeth i leisiau'r gyfrol.

Mae yna fflachiadau o hiwmor sych, fel yn y stori, Cyw o Frid lle ceir doniolwch yn enw "Tomos William Arthur Thomas", (TWAT) ond cynildeb yr emosiwn yn ei dweud sy'n hoelio sylw. Gallai cariad Florence at ei mab sâl yn Mor Browd fod wedi gwyro at sentiment hen-ffasiwn ond bod yr awdures yn llwyddo i osgoi'r trap hwnnw.

Fy hoff stori, a'r un sy'n pryfocio'r meddwl fwyaf ac yn aros yn y cof am dipyn wedi ei darllen, yw Ddim Rhy Hwyr.

Darlun o rwystredigaeth gwraig sy'n gweithio mewn swyddfa yw hi. Does neb o'i chydweithwyr yn ei hadnabod hi; dyw hi ddim eisie iddyn nhw ei hadnabod chwaith. Mae'r awdures yn disgrifio rhigol ei bywyd yn hynod gelfydd wrth i'r blynyddoedd wibio heibio a hithau'n dal yn ei hunfan, yn unig ac ynysig mewn ystafell llawn o bobl.

Dyma brif thema'r gyfrol, unigrwydd, rhwystredigaeth mewnol a chyfrinachau cymeriadau bob dydd gan beri i'r darllenydd deimlo fel voyeur o fath.

Dyw hon ddim yn gyfrol ysgafn na hwyliog a gellid dadlau ei bod yn fwy addas i ddarllenwyr hÅ·n. Ond wedi ei darllen, fe ddown i'r casgliad bod gan bob un ohonom ein stori a'n cyfrinachau mewnol ein hunain.
Joanna Davies


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.