麻豆社

Richard Williams - Hanes Mynydd Parys

Rhan o glawr y llyfr

25 Awst 2011

Wrth gwrs, rhaid croesawu cyfrol newydd J Richard Williams. Dyma'r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Llafar Gwlad (rhif 79) ac mae'n rhaid dweud fod logo Gwasg Carreg Gwalch r诺an yn prysur dyfu i fod yr un mor adnabyddus ym myd cyhoeddi Cymraeg a logo'r Penguin ar gyfrolau clawr papur Saesneg.

Mae cyfres Llafar Gwlad hithau yn wledd o gyfres a'r gyfrol 145 o dudalennau hon gan J Richard Williams yn ychwanegiad teilwng.

Ond mae Mr Williams yn sgwennu dan anfantaisgan fod hanes cloddfeydd copr Mynydd Parys eisoes wedi ei ysgrifennu a'r gyfrol Copper Mountain gan John Rowlands yn glasur o'i bath.

Cafodd pwysigrwydd y gyfrol ei gydnabod wrth i Gymdeithas Hynafiaethwyr M么n ail gyhoeddi'r llyfr rai blynyddoedd yn 么l.

Mynydd Parys yn ei ddydd, ac ar ei orau, oedd safle mwyngloddio copr mwya'r byd . . . safle diwydiannol hanesyddol o bwys a fu'n fyd enwog gan arwain y Chwyldro Diwydiannol yn ei dro.

Hawdd anghofio bod llawer o'r F么n wledig, amaethyddol, wedi ei britho yn yr oes o'r blaen 芒 gweithfeydd diwydiannol - gweithfeydd glo ar gyrion Pentre Berw, chwareli calch Trwyn Penmon yn ogystal 芒'r gweithfeydd brics ar yr arfordir gogleddol.

Nid ar y tir yr oedd pawb yn gweithio.

Ond yr oedd gweithfeydd copr Mynydd Parys gryn dipyn mwy na gweithfeydd eraill yr Ynys.

"O'r anialdir hwn, y rheolwyd y fasnach fyd eang mewn copr a hynny yn sicr yn sgil un o fentrwyr mawr byd busnes ei gyfnod- un a gai ei adnabod fel Twm Chwara Teg gan ei weithwyr," meddai Richard Williams.

Hoffwn fod wedi cael mwy o hanes Thomas Williams.

Cwyn gyson amdanom fel Cymry yw honno am ein diffyg mentergarwch - yr amharodrwydd honedig i gamu i fyd busnes.

Nid felly Thomas Wiliams y cyfreithiwr o Lanedwen a dorrodd ei g诺ys ei hun ym myd busnes.

Crybwyllir cymeriadau difyr eraill hefyd yn hanes Mynydd parys. Cadi Rondal a helynt yr Hwntw Mawr. Y Copor Ledis fel Phebi Morus a Siani Roland.

Ychwaneger at hyn straeon am dylwyth teg a bwganod' pytiau am arlunwyr ac awduron enwog a ddaeth i weld rhyfeddodau'r mynydd.

Bu cloddio ar Fynydd Parys ers cyn cyfnod y Rhufeiniaid ond daeth y traddodiad i ben yn 1917 er bod yr Anglesey Minning Company yn dal yn benderfynol fod modd ailagor y gweithfeydd.

Cynhyrchu ynni ydi'r flaenoriaeth ar Ynys M么n erbyn hyn a'r Cyngor Sir wedi bathu'r enw, Ynys Ynni a heb fod ymhell o Fynydd Parys mae Atomfa'r Wylfa a'r dadleuon yn erbyn codi Wylfa newydd oherwydd y gwastraff ymbelydrol.

Mae Richard Williams yn ein hatgoffa o stori ymddangosodd yn y cylchgrawn Private Eye ar gychwyn y nawdegau am fwriad honedig i ddefnyddio ceudwll Mynydd Parys i gladdu'r gwastraff!

Iws pellach i `Le Melltith M么n'?
John Stevenson


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.