01 Medi 2011
Adolygiad Joanna Davies o Neb ond Ni gan Manon Rhys. Nofel Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Gomer. £7.99.
Fel mae gan actor siawns go dda o ennill Oscar am bortreadu cymeriad anabl, falle gellid ddadlau fod pwnc nofel Manon Rhys, Neb ond Ni, sef anabledd dau blentyn, yn sicr wedi helpu iddi ddod i'r brig i gipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Ta waeth am y sinigrwydd hwnnw, mae gan Neb ond Ni nifer o gryfderau eraill sy'n esbonio ei llwyddiant gyda'r beirniaid - er nad oedd un ohonynt, Grahame Davies, mor sicr bod y nofel wedi 'taro deuddeg'.
Siriol a Dewi yw'r ddau brif gymeriad yn y stori. Siriol mewn cadair olwyn a bron yn ddall a Dewi'n awtistaidd.
Mae'r ddau yn ffrindiau clos, yn deall ei gilydd ac yn mynd i 'ysgol arbennig' ddiwedd y Saithdegau.
Ni fyddai Neb ond Niyn un o'r nofelau hynny y byddwn yn ei darllen fel arfer gan fy mod yn dueddol o osgoi pynciau trwm a worthy a ffoi i fyd comedi ac ysgafnder am ddiddanwch ond es ati i ddarllen gyda meddwl agored serch hynny.
Cyfres o ymsonau
Dyma nofel sy'n dilyn strwythur llai confensiynol na'r arfer, yn gyfres o ymsonau mewnol nifer o wahanol gymeriadau. Nid yn unig y ddau brif gymeriad, Dewi a Siriol, ond y rhai hynny sydd yn rhan o'u byd o'r Prifathro, Mr Flowers, i Dai, sy'n gofalu am Dewi.
Mae'r ymsonau wedi eu hysgrifennu mewn tafodiaith ogleddol a deheuol sy'n dipyn o gamp ar ran yr awdur, deheuwraig sydd wedi treulio amser yn byw yn y gogledd.
Ac fel deheuwraig fy hun, roedd hi'n haws imi ddarllen y darnau yn fy nhafodiaith i ond yn sicr llwyddodd Manon Rhys i symud yn esmwyth o un dafodiaith i'r llall.
Mae ymsonau Dewi wedi eu gosod ar ffurf 'penillion' barddonol ond nid barddonllyd.
Gan fod Dewi yn fachgen awtistig galluog (yn nhraddodiad Rainman a'i debyg), roedd y 'rhestri' yma yn gweddu i'w bersonoliaeth ac yn fwriadol yn torri ar lif y stori, fel Dewi ei hun, yn torri ar gonfensiwn 'pobol normal' gyda'i ymddygiad.
Gellid dadlau ei bod hi'n anos darllen darnau Dewi oherwydd bod y fformat hwn yn torri ar lif y stori, ond yn sicr mae'n ddyfais storïol diddorol.
Cwm Rhyd y Rhosyn
Un o obsesiynau Dewi yw caneuon Dafydd Iwan, (nid y Jackson 5 fel y byddwn efallai'n disgwyl am y cyfnod!) ac mae hyn yn esbonio clawr trawiadol y gyfrol, sef heulwen gyfeillgar clawr yr albwm Cwm Rhyd y Rhosyn Dafydd Iwan.
Mae Cwm Rhyd y Rhosyn yn lle delfrydol a diogel lle mae popeth yn hyfryd. Rhyw 'Shangri-la' os hoffech chi.
Mae Dewi yn uniaethu gyda'r syniad ac yn amlwg am ddianc i'r cwm lledrithiol hwn.
Gellid ddadlau trwy ffoi i'w fyd ei hun, ei fod yn llwyddo i wneud hynny i ryw raddau. Mae teitl y nofel yn dod o un o'r caneuon ar y record, A neb yn gwybod dim am hyn, neb ond ni ein dau, a'r ddau yw Dewi a Siriol.
Hoffais y defnydd hwn o'r gân a Chwm Rhyd y Rhosyn fel thema yn y nofel, roedd yn ychwanegu swmp a dyfnder iddi.
'Rwy'n edmygu'r awdures am ddewis tasg mor anodd iddi ei hun. Sut mae rhoi eich hun yn sgidie cymeriadau sy'n dioddef o anableddau fel hyn, pan ydych chi fel awdur yn abl?
Fel dywedodd Laurence Olivier, wrth iddo wylio Dustin Hoffman yn mynd trwy'i bethau 'method' ar set Marathon Man, "Try acting dear boy!"
Ac yn wir does dim angen profiad uniongyrchol o anabledd i fedru ei bortreadu ar bapur yn fy marn i. Darn dychymyg yw nofel a gresyn bod cymaint o feirniaid yn anghofio hynny!
Osgoi gor sentiment
Sut hefyd mae osgoi gor sentimentaleiddiwch ac i fod yn onest, undonedd pan yn portreadu isymwybod a meddyliau cudd plant unigryw ac "arbennig" fel Siriol a Dewi?
Dwi'n meddwl bod y ddyfais o ddefnyddio ymsonau amrywiaeth o gymeriadau yn help mawr gyda hyn ac yn cynnig safbwyntiau eraill heblaw am fewnblygedd y ddau brif gymeriad, yn enwedig o ran stori Dewi.
Mae gweld ymateb Dai, fy hoff gymeriad i yn y nofel, i Dewi, gyda'i gariad tuag ato a'i rwystredigaeth mor gryf â'i gilydd, yn rhoi dimensiwn ychwanegol i'r naratif.
I mi, Dai yw'r everyman, yn 'gwndit' i ni y darllenwr i afael yn y stori.
Ar yr wyneb, nid nofel yn llawn cyffro a bwrlwm yw hon ond mae yna densiwn a drama ddigon yn ei hanfod. Dyw hi ddim yn nofel 'ffwrdd a hi', mae'n gyfrol i'r rhai ohonoch sy'n mwynhau llenyddiaeth fwy difrifol a meddylgar ac sydd â diddordeb byw ym mhwnc y stori.
Nid oedd y diweddglo wedi plesio un o Feirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol, Grahame Davies, ond gellid ddadlau bod ei 'ddryswch' yn adlewyrchu thema'r nofel, nad yw'r byd go iawn, yn wahanol i Gwm Rhyd y Rhosyn, bob amser yn cynnig ateb cymen a thwt i dreialon bywyd.
Joanna Davies