Adolygiad Gwyn Griffiths o Mab y Mans - Hunangofiant Arfon Haines Davies gyda chymorth Alun Gibbard. Y Lolfa. £9.95
Mae un bennod ardderchog yn Hunangofiant Arfon Haines Davies, sef Ofn a'r Briodas Fawr - pennod yn dilyn ei hanes yn dysgu hedfan hofrennydd er mwyn cludo priodfab i'w briodas.
Dysgu peilot sy'n ofni uchder ac awyrennau mewn cyfnod o fisoedd. Pennod lawn cynnwrf, emosiwn a sgrifennu difyr.
Yn anffodus, dyma bennod olaf ond un y gyfrol. Oni bai i mi gael cais i adolygu'r gyfrol a 'mod i, beth bynnag arall ydw i, yn adolygwr cydwybodol, fuaswn i byth bythoedd wedi darllen cyn belled â thudalen 185 lle mae'r bennod honno'n cychwyn.
Yr hyn a gawn yw darlun o berson cwbl gyffredin nad yw'n arddangos fawr o ddoniau arbennig ond a aeth yn bell iawn a mwynhau gyrfa digon anghyffredin.
Gan nad ydw i erioed wedi cyfarfod Mr Davies fedra i wneud dim ond ei gymryd ar ei air a'i fod yn berson "lwcus" iawn.
Di-liw a di-fflach yw'r disgrifiadau o'i fywyd fel mab y mans a'i ddyddiau yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Ramadeg Ardwyn.
Er nad yw'n dweud hynny, cawn yr argraff na chafodd fwynhad, na disgleirio, yn yr ysgol gynradd Gymraeg, ac yn bendant ddim yn Ardwyn. Sy'n cryfhau fy rhagfarn, fel un o Dregaron, am ysgol ramadeg enwog Aberystwyth.
Treuliodd flwyddyn yng Nglan Clwyd, lle hapusach - "Butlins wedi Colditz" ond heb fod yno'n ddigon hir i ddylanwadu fawr arno, gallwn feddwl.
Aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle bu, mae'n amlwg, yn un o ffefrynnau Norah Isaac. Faint o niwed wnaeth hi drwy ddysgu myfyrwyr mai peth derbyniol yw cael ffefrynnau a hynny heb gelu'r ffaith wn i ddim. Cafodd Arfon yrru ei char!
Aiff y gyfrol rhagddi linc-di-lonc, heb fawr o sbarc. Diddordeb mewn trenau a chwarae tenis a phêl-droed heb arbenigedd mawr ond rywsut yr oedd yn llwyddo i lanio ar ei draed. Yr acen iawn, yn Gymraeg a Saesneg, ar yr adeg iawn yn y lle iawn
Yn dilyn secondment i'r Central School of Speech and Drama yn Llundain o fod yn athro yng Nghlwyd ni ddychwelodd i ddysgu wedyn fel y byddai disgwyl.
Yn hytrach, aeth i HTV yn gyhoeddwr - sef y person sy'n dweud gair neu ddau rhwng rhaglenni a phwyso'r botymau priodol. Mae hanes ei gyfweliad am y swydd yn ddifyr, sbarc cynta'r gyfrol.
Erbyn hynny, bydd y darllenydd wedi cyrraedd hanner ffordd.
Mae'n amlwg yn berson diymhongar iawn - onidê a fuasai'n cyfaddef mai ei gwestiwn pan gyflwynwyd ef gyntaf i Gwynfor Evans oedd, "Sut olwg sydd ar y tomatos eleni?" A chael cythgam o stŵr gan Gwilym Owen wedyn.
Dylwn nodi mai yn y stafell goluro y bu iddo holi'r cwestiwn, nid ar yr awyr! Ac o sôn am domatos. Fel sy'n amlwg i'r sawl sy'n gwylio teledu Cymraeg / Cymreig dioddefodd dynged llawer cyflwynydd arall - gorfod cyflwyno rhaglenni am bynciau yr oedd ei wybodaeth amdanynt yn simsan a'i ddiddordeb ynddynt yn llai fyth.
Un o'r rheini oedd Get Gardening a phan oedd y gyfres honno ar ei hanterth bu'n ofynnol iddo ymweld â stondin blanhigion yn Ffair Haf Rheilffordd Gwili lle camgymrodd blanhigyn tomato am geranium!
Ofnaf bod llawer o hunangofiannau'r cyfryngi-selebs - wedi eu sgrifennu gyda chymorth gan amlaf - yn mynd yn dipyn o fwrn erbyn hyn. Tebyg eu bod yn talu'n iawn i gyhoeddwyr ond prin yw'r rhai ag iddyn nhw werth llenyddol ac yn aml iawn mae hunangofiant ambell i fet meddyg neu ffermwr yn llawer difyrach!
Cofiaf lyfrgellydd Ceredigion, Alun R. Edwards, yn annog ffermwyr a siopwyr a hen fwynwyr yn y Pumdegau i sgrifennu hanes eu bywydau. Profodd eu gwaith yn ddiddorol ac yn gofnod gwerthfawr o ffordd o fyw oedd ar ddarfod.
Tybed a fydd darllenwyr yn edrych yn yr un modd ar gyfrolau diweddar rhai fel Jenny Ogwen, Sulwyn Thomas neu Arfon Haines Davies ymhen hanner canrif?