麻豆社

W Arvon Roberts: Lloffion M么n

llun oddi ar glawr y llyfr

14 Tachwedd 2011

Adolygiad Glyn Evans o Lloffion M么n gan W Arvon Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. 拢8.50. Tud. 250.

Monysion mawr a m芒n

Mae'n beth od i'w ddweud efallai ond ceisiais ddarllen cyn lleied 芒 phosib o'r llyfr hwn ar gyfer llunio'r sylwadau hyn.

Hynny, oherwydd fy mod yn edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig yn ei gwmni a heb fod eisiau difetha'r pleser hwnnw i mi fy hun. Ac mi fydd yn bleser.

Mae Lloffion M么n y trydydd llyfr mewn cyfres gan yr awdur W Arvon Roberts a Gwasg Carreg Gwalch - cyhoeddwyd yn barod Lloffion Ll欧n a Lloffion Eifionydd ac mae'r awdur olygydd o Bwllheli yn dilyn yr un patrwm ar 么l croesi'r Fenai.

Fel un o'r ynys yr oedd gen i, yn naturiol, ddiddordeb yn syth.

Clawr y llyfr

Casgliad yw'r gyfrol o bob math o eitemau amrywiol y mae'r awdur wedi dod o hyd iddyn nhw mewn papurau, llyfrau a chylchgronau. Ambell i ddarn yn ychydig linellau o hyd eraill yn ymestyn dros nifer o ddalennau.

Fel i芒r yn pigo; am y crystiau bychain y mae rhywun yn mynd yn gyntaf ac y mae yna ddigonedd ohonyn nhw yn ymwneud a lleoedd, pobol, arferion, digwyddiadau, hynodion ac yn y blaen.

Mae'r awdur ar yr wyneb ddalen yn crynhoi'r casgliad fel, "detholiad o ryddiaith, barddoniaeth a cherddoriaeth, wedi eu casglu o hen bapurau newydd, llyfrau a chylchgronau, ynghyd ag ambell i erthygl a nodiadau gan yr awdur".

Lobsg贸ws o lyfr mewn gwirionedd - a beth well na'r hen lobsg贸ws yr adeg hon o'r flwyddyn a hynny'n egluro fy awydd i'w chadw tan y Nadolig cyn llowcio gormod.

Wedi gair gyflwyniad - canmoliaethus;
Hyfrydwch pob rhyw frodir
Mirain wyt ymysg moredd
-
mewn rhagair mae'r awdur yn cynnwys ei dorion fesul ardal megis Aberffraw, Afon Menai, Bae Trearddur, Biwmares, Bodedern ac yn y blaen gydag adran Amrywiaeth i gloi.

Mae'n cychwyn gyda dyfyniad gan Gerallt Gymro yn dilyn ei daith o amgylch Cymru yn y ddeuddegfed ganrif:

Y mae M么n," meddai, "yn ddaear sych a charegog, yn aflunaidd ac anhyfryd yr olwg".

Ond y mae hefyd yn nodi ei bod "yn anghymharol fwy cynyrchiol mewn grawn gwenith na holl ardaloedd Cymru" ac o'r herwydd yn haeddu, wrth gwrs, yr enw, "M么n Mam Cymru".

"Oherwydd pan fyddo'r holl ardaloedd eraill ymhobman yn methu, y mae'r wlad hon, ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd 芒'i chnwd bras a thoreithiog o 欧d," meddai.

Dim byd newydd yn hynny wrth gwrs - ond y mae tameidiau bychain o gigoedd dieithr y hynod o flasus yn y gyfrol o'r dibwys ddifyr i'r hanesyddol bwysig. O hanes ci call i'w ryfeddu yn ardal Bodorgan i ddrylliad y Royal Charter ger Moelfre.

A hanes un a wyddai'n well na neb am lobsg贸wsiau, Myfanwy Eames hyddysg yn "yr hen ddull syml, bonheddig, cwbl Gymreig o fyw a chadw t欧, o ardal Brynteg; a'r "gyntaf i weld yr angen am lyfr coginio yn y Gymraeg".

Cyhoeddodd hi ei Llyfr Prydiau Bwyd yr oedd "cymaint o fynd arno ymhlith merched" yn 1932.

Tybed ai'r bwyta'n iach yma oedd i gyfrif am hirhoedledd rhai Monwysion dros y blynyddoedd megis bugail a oedd yn 107 oed pan fu farw yn 1771.

"Cafodd bedair gwraig, yr olaf ohonynt 芒 briododd wedi iddo gael ei benblwydd yn 90 oed, a chafod blant ohoni," meddir. A dyna'r telynor Hugh Llewelyn o Langadwaladr yn canu ei delyn o fewn pythefnos i'w farwolaeth yn 115 yn 1790.

Ac wele Winifred Rees o Lanbedrgoch yn 119 oed pan fu farw yn 1809 - y flwyddyn y cerddodd "bellter o wyth milltir ac yn 么l mewn diwrnod, i ymweld a'i pherthnasau, gan gario gyda hi fwndel oedd yn pwyso bron i wyth bwys".

A phwy a 诺yr na fyddai hi wedi gweld 1810 hefyd pe byddai hi wedi aros adref o flaen t芒n!

Wrth gwrs mae cyfrol fel hon yn un y gallai rhywun fynd yn ei flaen yn dyfynnu'n ddiderfyn ohoni ond gwell ffrwyno'r demtasiwn.

Cyfrol, wrth gwrs, a fydd o ddiddordeb yn bennaf i Fonwysion a rhai 芒 chysylltiad uniongyrchol 芒'r ynys ond y mae digon ynddi hefyd i ennyn diddordeb rhai o'r tu allan i'r sir hefyd.
Mae'n cynnwys nifer o luniau.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.