Â鶹Éç

Lewis Edwards - adolygiad o'i gofiant

Lewis Edwards

29 Ionawr 2010

  • Adolygiad Richard Glyn Roberts o Lewis Edwards gan D. Densil Morgan. Cyfres Dawn Dweud, Gwasg Prifysgol Cymru.

Arweiniad newydd

Cyfrol i'w chroesawu'n fawr yw hon sy'n cynnig arweiniad newydd i hanes bywyd a dylanwad un o ffigurau amlycaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a thrwy hynny'n cyflwyno cyfran dda o hanes cymdeithasol ac enwadol y cyfnod yng Nghymru.

Clawr y gyfrol

Olrheinir yn y penodau cyntaf ymdrech y Lewis Edwards ieuanc i ymddiwyllio, o'i fachgendod yng Ngheredigion, lle bu dan addysg mewn aml i ysgol cyn mynd yn athro ei hun, i Brifysgol Llundain ac oddi yno'n genhadwr cartrefol i eglwys Saesneg Talycharn lle bu hefyd yn cadw ysgol.

Yng Nghaeredin

Neilltuir pennod gyfan i drafod y tair blynedd ffurfiannol a dreuliodd yng Nghaeredin cyn iddo ddychwelyd i Gymru ac i'r Bala i sefydlu'r athrofa y bu'n brifathro arni am hanner can mlynedd.

Yno yr ysgrifennodd ei weithiau diwinyddol, Athrawiaeth yr Iawn (1860) a Hanes Diwinyddiaeth y Gwahanol Oesoedd (1861), ac yr ymroes i gyfoethogi'r byd deallusol Cymraeg drwy gyfrwng Y Traethodydd, a sefydlwyd ganddo yn 1845, a'r cyfnod hwn a drafodir yng nghorff y llyfr.

Yn y bennod olaf ystyrir yr ymateb amrywiol i'w waith ers ei farw yn 1887.

Syched am addysg

Gwerthfawrogol yw naws y cofiant ac y mae'r hanes ar dro'n awgrymu dehongliadau amgen na rhai'r adroddwr.

Esbonnir syched Lewis Edwards am ddysg a'i benderfyniad i geisio addysg brifysgol fel adwaith yn erbyn pietistiaeth ei fagwraeth a chan fod ymwrthod â diwylliant seciwlar yn nodwedd ar Fethodistiaeth Galfinaidd hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gellid casglu mai adwaith cyffelyb a barodd i John Parry (Manceinion) ac Owen Thomas (Lerpwl), y naill yn weithiwr mewn ffowndri ac yn saer coed a'r llall yn saer maen, geisio hyfforddiant yn athrofa newydd Lewis Edwards.

Yr un modd, y cywion pregethwyr eraill o'r un genhedlaeth â hwy a fu'n mynychu'r un sefydliad yn nhridegau'r ganrif.

Gwrthwynebiad

Mae'r gwrthwynebiad i'w gynlluniau i ddilyn cwrs prifysgol a wynebodd Lewis Edwards o du ei hynafiad ymysg y Methodistiaid - rhai cyfyngach eu gorwelion diwylliannol - a'r rhagfarn gyfundebol yn erbyn gweinidogaeth ddysgedig yn thema gyson yn y gyfrol.

A dengys y detholion o lythyrau Lewis Edwards ei fod yntau wedi teimlo cryn rwystredigaeth, o Sasiwn Wystog ymlaen.

Eithr, er ei athrylith neilltuol, mae gyrfa Lewis Edwards yn enghreifftio newid torfol amgen nas ymchwilir yn ei gyflawnder gan Densil Morgan.

Yn yr un cyfnod ar y Cyfandir deffroasai'r mudiad llafur eisoes ac yr oedd eraill o gefndir cyffredin nad oeddent am ymfodloni ar drin caib a rhaw neu gÅ·n a morthwyl.

Chwyldro deallusol

Cynrychiolwyr Cymreig chwyldro deallusol ehangach hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw Lewis Edwards a'i gymheiriaid ac o'u gosod yn y cyd-destun lletach hwn gwelir nad adwaith yn erbyn y genhedlaeth a'u rhagflaenodd ydoedd eu hawch am addysg yn gymaint ag ymwrthod bwriadus â threfn gymdeithasol ormesol a ganiatâi i rai y fraint o arfer eu cyneddfau deallol ac a dynghedai eraill i fywyd o lafur.

Mab tyddynwr nad âi â'r gwartheg i'r cae heb lyfr yn ei law oedd Lewis Edwards. Dichon mai hynny sydd wrth wraidd amwysedd ei agwedd tuag at y dosbarth y cododd ohono: bu ar y naill law yn lladmerydd i'r werin ac arddelai ei chrefyddolder ond ar y llall coleddai werthoedd bonheddig, gan feithrin moesau a chofleidio diwylliant bwrdais.

"Every minister of the gospel must be a gentleman," meddai. Hynny yw, yr oedd gofyn iddynt ymddieithrio.

Ymestyniad o hyn yw ei amwysedd tuag at y Gymraeg ac nid yw'n annisgwyl ei weld yn gohebu â'i rieni yn Gymraeg ac â'i blant yn Saesneg.

Yn Saesneg

Anos egluro ei ymroddiad i sefydlu cylchgrawn Cymraeg ar batrwm cyhoeddiadau fel y Blackwood's Magazine ar gyfer é±ô¾±³Ù±ð y rhoddai addysg i gyfran dda ohonynt yn Saesneg yn y Bala.

Yn Saesneg y gohebai Lewis Edwards a Roger Edwards â'i gilydd i drafod cyhoeddi'r Traethodydd a phair hynny i'r darllenydd ofyn beth a'u cymhellodd i gyhoeddi'r cylchgrawn yn Gymraeg, a hwnnw'n gylchgrawn pur gyfyng ei apêl at hynny.

Dyna fesur o gymhlethdod Lewis Edwards a'i gyfnod ac yn y cyswllt hwn y mae'r awdur ar ei fwyaf treiddgar pan ymwrthyd â'r deuoliaethau arferol a atgynhyrchir mewn ysgrifeniadau ar hanes rhagflaenwyr cenedlaetholdeb politicaidd yng Nghymru:

"'Os bu i genedlaethau diweddarach roi y clod i radicaliaid eirias fel Henry Richard, Michael D. Jones ac eraill am greu'r 'genedl' boliticaidd hon, roedd a wnelo pwyll, ymroddiad a dycnwch Lewis Edwards â'r peth yn ogystal."

Nid ailgloriannu cyfraniad Lewis Edwards a wneir yn y frawddeg hon ond yn hytrach addasu paradeim gorsyml ac y mae hynny hefyd i'w groesawu.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.