Cefais y profiad braf o dreulio tair blynedd a hanner yn Sir Benfro ddechrau'r Chwedegau a dod i adnabod y rhan ogleddol, Gymraeg, yn bur dda, goelia i.
Llwyddais i gadw rhywfaint o gysylltiad gyda'r ardaloedd hynny hyd heddiw ac yn fy marn i, y mae yn un o ardaloedd mwyaf diwylliedig Gymreig ein gwlad.
Ac y mae'r Prifardd Eirwyn George yn un o oreuon y gymdeithas ddifyr hon acm er dringo i dir uwch na'i gyfoedion fel bardd a llenor, y mae'n nodweddiadol o'r gymdeithas a'i magodd a'i feithrin.
A mae e wedi aros yno.
Yr oeddwn yn gyfarwydd a'i enw rai blynyddoedd cyn meddwl am fynd i fyw i Sir Benfro. Cafodd lwyddiant yn adran lên Eisteddfod yr Urdd a gwelswn englynion ganddo yn Blodau'r Ffair - cylchgrawn yr aeth ei gyfraniad gwiw i boblogeiddio Cerdd Dafod yn angof.
Ffermwr diymhongar
O dipyn i beth deuthum i adnabod y ffermwr diymhongar, ifanc, gyda'r wên ddireidus. Bûm yn ffermdy Castell Henri, ger Tufton, droeon a'r lle'n llawn cadeiriau eisteddfodol.
A chofiaf yn arbennig am dafodiaith ei fam gyda'r enwau Cymraeg am y pentrefi Seisnig cyfagos yn llithro'n hyfryd oddi ar ei thafod. Oherwydd y mae Tufton yn ymylu ar y ffin ieithyddol.
Gwyddwn fod ei dad, T E George, yn ymddiddori yn y pethe ond ni sylweddolais faint ei ddylanwad ar ei fab awengar nes darllen yr hunangofiant hwn.
Adrodd a barddoniaeth
Ef a'i dysgodd i adrodd ac i ymddiddori mewn barddoniaeth a phan enillodd Eirwyn ei gadair gynta yn Eisteddfod Clunderwen roedd pobol yn cyhuddo'i dad o fod wedi ei helpu!
Wyddwn i ddim chwaith mai'r rheswm y gadawodd Eirwyn Ysgol Ramadeg Arberth a mynd adre i ffermio yn bymtheg oed oedd y ddamwain ddifrifol gafodd ei dad pan gwympodd oddi ar das wair un cynhaeaf.
Roedd ei ddiddordeb mewn bocsio - ac nid diddordeb academig yn unig - yn syndod mawr i mi.
Ni chlywais ef erioed yn trafod y gelfyddyd hon. Gyda llaw, nid paffiwr pwysau trwm oedd Randolph Turpin (t. 66).
Onest a chignoeth
Y cof sy gen am ein sgyrsiau oedd Eirwyn yn siarad yn ddi-baid am ddelweddau barddoniaeth Gwenallt.
Mae ei atgofion o'r bywyd gwledig yn onest - a chignoeth weithiau fel ei ddisgrifiad o ddynion "parchus" yn dod i'r fferm i ladd moch daear.
Diddorol darllen am yr ysbrydoliaeth a gafodd o wrando ar Sêr y Siroedd ar y radio. Ymysg y gwahanol gystadlaethau bu, ar un adeg, gystadleuaeth llunio cerdd fwy neu lai ar y pryd.
Pan gafodd triban Eirwyn ei guro gan englyn Desmond Healy, penderfynodd fynd ati i ddysgu'r cynganeddion drwy gyfrwng Odl a Chynghanedd Dewi Emrys.
Dylanwad arall arno oedd cymdeithas Fforddolion Dyfed, lle'r oedd y Prifardd W J Gruffydd (Elerydd) yn teyrnasu ac rwy'n hynod falch iddo sôn am un cyfarfod yn ffermdy Dyffryn Mawr - rhaid nad oeddwn yno neu mi fuaswn yn cofio. Yn sicr, ni wyddwn am y ffaith hon:
T E Nicholas oedd y gŵr gwadd a chyhoeddwyd bod pum aelod o'r Fforddolion wedi ennill cadair yn ystod y mis blaenorol - Eirwyn yn Abercuch, Idwal Lloyd yn Rhoshirwaun, fi yn Nhrewyddel, Dafydd Henri Edwards ym Mancyfelin a T R Jones ym Mryngwenith.
Dyddiau da.
I'r coleg
Wedi deuddeng mlynedd o ffermio aeth Eirwyn i Goleg Harlech am flwyddyn ac oddi yno i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Wedi graddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg a threulio blwyddyn yn gweithio ar y Geiriadur Termau - hyn oll adeg yr arwisgo a phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith - dychwelodd i Sir Benfro.
Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Arberth ac wedi hynny yn Ysgol Gyfun y Preseli, lle'r oedd James Nicholas yn brifathro.
Am y pymtheg mlynedd olaf cyn ymddeol bu'n Llyfrgellydd Gweithgareddau y sir yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol.
Ynghanol hyn oll enillodd ddwy goron genedlaethol a llu o wobrau eraill yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r gyfrol yn frith o straeon doniol ac ambell dro trwstan.
Defnyddiodd y ffugenw Cassius Clay yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Bancyfelin un flwyddyn. Canmolodd T. Llew Jones y gerdd ond nid y ffugenw.
Yr wythnos wedyn y pennawd yn y Carmarthen Journal oedd "Cassius Clay wins chair at Bancyfelin Eisteddfod".
Tra'n godro
Dro arall, ac yntau'n godro, cafodd deligram i ddweud ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Penrhiw-llan - y noson honno. Râs wyllt wedyn heb wybod yn iawn ble'r oedd Penrhiw-llan a'r dyn ar y drws yn gwrthod ei adael i mewn am fod y seremoni wedi dechrau!
Cyfrol hyfryd. Diolch am yr atgofion, Eirwyn, ac am ddeffro rhai eraill mewn un darllenydd o leiaf. Boed iti ddal i lenydda am flynyddoedd lawer eto.