麻豆社

Dilwyn Morgan: Ti'n jocan

Rhan o glawr y llyfr

04 Medi 2009

Adolygiad Lowri Rees-Roberts o Hiwmor Dilwyn Morgan Lolfa. 拢3.95.

Does na ddim byd gwell na diogi o flaen tanllwyth o d芒n yn darllen nofel dda meddan nhw!!

Ond meddyliwch amdanaf i o flaen t芒n ar brynhawn gwlyb o haf, yr hen blant yn yr ysgol a finne'n chwerthin fy ffordd drwy lyfr j么cs newydd sbon. Gobeithio na fydd neb yn galw a minnau mor segur!

Clawr y llyfr

Mae'r digrifwr Dilwyn Morgan yn dweud bod angen llawer iawn mwy o chwerthin yn yr hen fyd ma a dyna'i gymhelliad yn dod a'i straeon a'i j么cs at ei gilydd mewn un llyfr, Hiwmor Dilwyn Morgan - y ddiweddaraf mewn cyfres faith erbyn hon o lyfrau 'Hiwmor' gan Y Lolfa.

Ac mae'n lyfr a hanner yn un y dylai ddoctoriaid gael llond bocs ohono i'w rhannu yn lle pils a thabledi. Mae'n donig!

Mae'r gyfrol yn perthyn i gyfres Ti'n Jocan y Lolfa a llawer o'r hiwmor yn deillio o atgofion a throeon trwstan ond dwi'n amau tybed ai wedi breuddwydio'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau mae Dilwyn - wedi'r cyfan rydym ni'n rhai da am wneud storis ym Mhenllyn ma.

A hyd yn oed cyn cyrraedd y j么cs mae'r rhagair ei hun yn beth digon doniol wrth i Dilwyn bendroni sut lyfr fyddai hwn.

. " A oedd i fod yn llyfr bwrdd coffi? Wel, mae'r clawr wedi'i wneud o bapur caled arbennig gyda chanran isel o asbestos ynddo, fel ei fod yn dal gwres 99% o ddiodydd poeth heb adael cylch ar farnish y bwrdd," meddai.

A chan gyfeirio at y cynnwys dywed:

" Dwi ddim wedi s么n am Ellis Wynne, Lasynys, nac ychwaith Cynddelw Brydydd Mawr, a hynny'n fwriadol - ges i ddim mensh ganddyn nhw yn Gweledigaethau Bardd Cawsg na Llyfr Coch Hergest."

A wrth ystyried beth sydd yn gwneud i chi chwerthin, dywedodd Dilwyn i'r cwestiwn yma gorddi meddwl dyn ers y dyddiau cynnar pan ddywedwyd y j么c gyntaf honno mewn ogof ar Fannau Frycheiniog.

"Ygg ygg ygg," meddai'r un epa ddyn.
"Dwi di chlywad hi o'r blaen," meddai'r llall.

Ar ddechrau'r llyfr cawn ddarnau dwy neu dair tudalen o hyd yn s么n am Hen Ddiwrnod digon diddim, Noa, C芒n yr Ymgymerwr, Y Bwtshar, Yncl Dic, Dameg y ddau bowdwr golchi, Trafferth mewn tafarn, ac Immac - darnau doniol iawn drwyddyn nhw.

Wedyn, ymlaen i lwythi o j么cs byrion ac er imi ofni y byddwn wedi clywed y rhan fwyaf o'r rheini'n barod cefais fy siomi'r ochr orau ac un mor dda di Dil, (Dilwyn ni 'lly) mae wedi dewis rhai newydd - a rhai mwy chwaethus na rhai a glywais ganddo mewn noson unwaith.

Cefais i gigl fach wrth ddarllen y rhai nesa ma:

  • " Daeth Wili Jones adra rhyw noson wedi cynhyrfu'n l芒n a chyhoeddodd wrth ei fam ei fod wedi syrthio mewn cariad ac am briodi.

    "Am hwyl, Mam, dwi am ddod a thair merch adre nos fory a dwi am i chi ddyfalu pa un dwi am briodi."

    Cytunodd y fam a'r noson wedyn daeth a thair merch ifanc hynod o dlws a siapus adre i'w chyfarfod. Eisteddodd y tair ar y soffa a bu pawb yn sgwrsio am ychydig cyn i'r mab ofyn i'w fam ddyfalu pa un o'r tair yr oedd am ei phriodi.

    "Yr un ganol," meddai ei fam.

    "Anhygoel!" meddai'r mab. "Sut oeddech chi'n gwybod?"

    " Hawdd," atebodd y fam. "Dwi ddim yn i lecio hi!"

  • Roedd g诺r a gwraig yn mynd am dro drwy gefn gwlad bnawn Sul. Yn anffodus, roedd na ffrae wedi bod ac ni dorrwyd gair am tua ugain milltir. Wrth basio cae yn llawn o foch, geifr a dau ful dyma'r gwr yn gofyn i'r wraig.

    " Dy deulu di?"

    "Ia," meddai'r wraig, "yng nghyfraith".

  • Doedd g诺r a gwraig heb siarad ers rhai misoedd pan gofiodd y g诺r fod ganddo gyfarfod pwysig iawn y bore canlynol. Roedd mor bengaled a ddim am fod y cyntaf i dorri ar y tawelwch fel y gadawodd nodyn ar y ffrij cyn mynd i'w wely. "Fedri di alw arna i am bump bore fory."

    Bore wedyn ddeffrodd am naw wedi cysgu'n hwyr ac wedi colli ei gyfarfod pwysig. Pan aeth at y ffrij gwelodd nodyn; "Deffra! Mae'n bump o'r gloch."

Mae Dilwyn hyd yn oed yn gweld ei hun fel dipyn o gyhoeddwr ac am greu sticeri cefn car gyda'r canlynol arnyn nhw:

  • Os ti'n gallu darllen hwn dwi di colli'r garafan.
  • Ysgub 'di cerbyd arall y wraig
  • Safle gwe y wraig: www.ywrach.co.uk

Fel y gwelwch cefais brynhawn a hanner o chwerthin yn uchel - gan ddiolch nad oes t欧 drws nesa. Mae gan Dilwyn ddawn gynhenid i ddweud j么cs a'i hiwmor naturiol a chynnes yn rhan annatod o'i gymeriad ac rwy'n edrych ymlaen at ei nofel tro nesaf (J么c Dilwyn, j么c - ond pwy a 诺yr!)


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.