- Adolygiad Glyn Evans o Ar Ddannedd y Plant gan Elfyn Pritchard. Gwas Gomer. £6.99.
Mae teitl y nofel hon yn allweddol i'w stori. Er mai Beiblaidd ydi tarddiad yr ymadrodd, Ar Ddannedd y Plant nid stori Feiblaidd ydi hon ond un gyfoes.
Daw'r ymadrodd o adnodau a welir yn llyfr Jeremeia (31:29) ac Eseciel (18:2) lle dywedir: "Y tadau a fwytasant rawnwin surion ac ar ddannedd y plant y mae dincod" neu yn y Beibl Cymraeg Newydd "Y tadau fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod."
Bosib y bydd y gair 'dincod' yna yn peri trafferth ond ei ystyr yw yr hadau, bychain, surion, yna sy'n glynu wrth y dannedd pan yn bwytau rhai ffrwythau gan adael blas chwerw yn y geg.
Yr un syniad sydd i'r ddelwedd hon ag i addewid Duw yn y Deg Gorchymyn y bydd "yn ymweld ag anwiredd y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt".
I ymhelaethu mae'r awdur yn dyfynnu o waith y seicolegydd Alice Miller ar gychwyn y gyfrol;
"The damage done to us during our childhood cannot be undone, since we cannot change anything in our past. We can, however, change ourselves."
Ac ar y clawr hefyd ymddengys y geiriau:"Ni all unrhyw un newid ei orffennol ond fe all geisio dygymod a'i bresennol . . ." sy'n dweud rhywbeth digon tebyg er nad yn union yr un peth.
Mae Elfyn Pritchard yn cyfeirio at Miller - awdur adnabyddus yn ei maes - yn ystod y stori hefyd a mynd i'r afael â'r gosodiad hwnnw y mae yn y nofel a thrwy gyfrwng y ddau brif gymeriad Trefor Puw a Meilir Parry - y ddau a dincod grawnwin surion eu rhieni ar eu dannedd i wahanol raddau.
Mae "anodd tynnu dyn o'i dylwyth" yn ymadrodd sy'n mynnu dod i'n meddwl hefyd wrth ddarllen.
Yn addawol
Mae'r nofel yn cychwyn yn addawol gyda disgrifiad o ddigwyddiad dirgel ddiwedd y Saithdegau mewn math o brolog. Yna, ailafaelir yn y stori yn Ebrill 2009 gyda dychweliad Trefor Puw i Gymru i ymddeol ar ddiwedd gyrfa o newyddiadura o'r radd flaenaf yn Lloegr - adlais, bwriadol efallai, o ddyfais yr hen nofelau datrys Cymraeg a'u ditectif blaenllaw yn Scotland Yard, yr adeg honno, yn dychwelyd am wyliau neu i sgota yn eu cynefin ar yr union adeg gyfleus y darganfyddir corff!
Yn naturiol yr oedd rhywun fel fi'n cynhesu'n syth at y nofel o weld mai newyddiadurwr fyddai'r prif ysgogydd ac wrth gwrs yr oedd diddordeb mewn gweld sut mae rhywun sydd ddim yn newyddiadurwr, fel yr awdur, yn gweld rhai fel ni a sut y byddai'n ein darlunio - er, cofiwch isel iawn ar yr ysgol yw'r rhelyw ohonom o'n cymharu â Threfor Puw!
Mae sawl cyfeiriad (cyfrais o leiaf wyth) - gormod efallai nes i'r peth ymylu ar fod yn ddoniol - at yr hyn a ystyrir yn gyneddfau newyddiadurol allweddol.
Ymddengys sawl amrywiad o'r frawddeg "ymgripiodd chweched synnwyr fy ngreddf newyddiadurol drosof . . .".
Clymu wrth ei gilydd
Anhawster pennaf adolygu'r nofel hon yw gwneud hynny heb ddifetha'r stori i'r darllenydd. Er enghraifft byddai egluro sut y daw Trefor a Meilir, sydd mewn cartref i rai a thrafferthion meddyliol, at ei gilydd a beth sy'n eu clymu wedyn a'i gilydd yn gwneud hynny.
Ond mae'n deg rhybuddio nad fel mae'r cychwyn yn ei awgrymu y mae'r nofel yn datblygu. Arlliw nofel ddatrys sydd i'r penodau agoriadol ond mae'r awdur yn datgelu gormod yn rhy gynnar i'r darllenydd i'r elfen o ddatrys fod yn gymhelliad i barhau ac rwy'n rhyw amau y byddai'r nofel wedi bod ar ei hennill o'n cadw ninnau mewn cymaint o 'dywyllwch' a Threfor.
Mae is stori am John Richards yn chwythu ei phlwc yn rhy sydyn hefyd.
Y gwir amdani yw mai yn nhrafod gosodiad Alice Millar y mae diddordeb pennaf yr awdur. Hynny, a dadberfeddu damcaniaeth effeithiau seicolegol ein magwraeth arnom a tharddiad y "fath gymhlethdodau mawr" yng nghyfansoddiad dyn yn hytrach na ffureta dirgelwch.
Yn hynny o beth cefais i fy siomi rywfaint ond go brin y gellir beio'r awdur am fy ngham ddisgwyliadau i!
Mewn blwyddyn
Mae'r cyfan yn digwydd rhwng Ebrill a Hydref 2009 gyda Trefor Puw yn adrodd ei ran ef o'r stori yn y person cyntaf ond y rhannau sy'n ymwneud â Meilir pan nad yw'r ddau efo'i gilydd yn cael eu hadrodd yn y trydydd person.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl gan awdur mor brofiadol mae'r arddull yn rhwydd, llithrig, cyfforddus a digon gafaelgar hyd yn oed yr adegau hynny pan yw'n gwyntyllu syniadau seicolegol.
Ond ni allaf yn fy myw beidio â chredu y gallai nofelydd mor brofiadol fiod wedi gwneud mwy o safbwynt stori gyda'r elfennau sy'n ei ddwylo ac i gyfle gael ei golli o'r safbwynt hwnnw.