Â鶹Éç

Daniel Davies - Tair Rheol Anhrefn

09 Medi 2011

Adolygiad Ian Gill o Tair Rheol Anhrefn nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2011 gan Daniel Davies. Lolfa. £8.95.

Adolygiad Ian Gill o Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies

Wrth iddynt feirniadu'r gystadleuaeth am wobr goffa Daniel Owen eleni cyfeiriodd Emyr Llewelyn ac Elin Llwyd Morgan ill dau at botensial ffilmig y nofel fuddugol, Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies.

O'i darllen hi, mae rhywun yn gweld yr hyn oedd gan y ddau dan sylw.

Mae'n stori am ddarganfyddiadau gwyddonol a chyfrinachau masnachol. Stori am ysbiwyr diwydiannol. Am gliwiau cryptig i'w datrys - a chymeriadau, sy'n troi allan i fod yn fwy enigmatig na'r un cliw.

Clawr y llyfr

I grynhoi'r stori; mae'r gwyddonydd, Mansel Edwards, wedi darganfod ffordd chwyldroadol o greu'r genhedlaeth nesaf o sgriniau teledu - ond yn sylweddoli bod yr wybodaeth hon yn ei thro yn rhoi ei fywyd ei hun mewn perygl.

Felly, mae'n gadael cyfres o gliwiau ar ffurf posau i'w gyd wyddonydd, Paul Price, eu datrys gyda'r ateb i'r darganfyddiad o fewn y cliwiau rheiny.

Wrth gwrs, mae peryg i wybodaeth fel hyn droi'r drol a chynhyrfu'r dyfroedd - ac fe fyddai'n fanteisiol i ambell un pe na byddai darganfyddiadau Mansel yn gweld golau dydd...

A dyna chi'r stori'n fras.

Yn carlamu

Oherwydd y dyfeisiadau naratif sy'n cael eu defnyddio gan yr awdur - y cliwiau a'r ras rhwng y prif gymeriad a'r ysbiwyr i gyrraedd y cliw nesaf, ac yn y blaen - does dim dwywaith fod y stori'n carlamu o le i le ac i Daniel Davies gael hwyl yn plethu'i gymeriadau i mewn ac allan o wead y stori wrth iddi fynd yn ei blaen ar hyd llwybrau troellog arfordir Sir Benfro.

Mae'n debyg mai'r elfennau hynny o'r nofel oedd wedi dal dychymyg sinematig beirniaid y gystadleuaeth. A phe byddai yna ddarpar gynhyrchwyr a'u bryd ar addasu'r nofel ar gyfer y sgrîn, yna mae'r awdur yn cynnig help llaw efo'r castio...

Wrth gyflwyno'r cymeriad Lotte Spengler dywed ei bod yn edrych yn "syndod o debyg i'r cymeriad Rosa Klebb yn ffilm James Bond, From Russia with Love."

Yn nes ymlaen, mae tri asiant /ysbïwr yn cael eu cyflwyno, gyda'r cyntaf yn atgoffa'r prif gymeriad o "hoff actor ei dad - Alec Guinness".

Mae'r ail yn ei atgoffa "o fersiwn trymach o'r canwr Sting" tra bo'r trydydd yn "ddigon tebyg i gyflwynydd rhaglen deledu'r X Factor, Dermot O'Leary."

Digon o awgrymiadau castio felly ac yn enghreifftiau byr o arddull smala'r awdur o sgwennu.

Meddai Chandler

Ond, mae'n rhaid i minnau rannu'r pryderon y cyfeiriodd Emyr Llewelyn atynt yn ei feirniadaeth o, sef y rhuthr i egluro pawb a phopeth, yn arbennig yn Rhan 3 a 4 o Tair Rheol Anhrefn.

Mae hanesyn am Raymond Chandler, awdur The Big Sleep a nofelau eraill yn rhoi cyngor i awdur oedd wedi sgwennu ei hun gornel.

Cyngor Chandler iddo oedd "cyflwyno dyn efo gwn yn ei law yn y drws..."

Mae'n bosib mai gelynion ymarferol fel amser a gofod a'i trechodd yn y diwedd ond y teimlad a gefais i ar adegau oedd bod Daniel Davies hefyd wedi cael ei glymu gan ei linynnau storïol ac mai'r unig ffordd allan o'i bicil creadigol ac yn ôl ar drywydd ei stori oedd drwy cael un o'r cymeriadau i esbonio rhyw agwedd o'r stori.

Dyna ei 'wn yn y drws'.

Ceir esiampl o'r esbonio hwn ar dudalen 237: "dyw'r Llywodraeth ddim yn rheoli bellach. Mae'r gwir rym yn nwylo'r cwmnïau rhyngwladol ..." ac yn y blaen.

Ac mae'n debyg mai dyma un o'r syniadau mwyaf diddorol i'r awdur gynnig ond bod y cyfan yn cael ei drafod a'i roi o'r neilltu mewn dim o dro.

Wrth feddwl eto am gyngor Chandler; unwaith mae'n dechrau mae'n drafferth i'r awdur roi taw ar yr egluro a'r saethu a chyn pen dim, rydym ni wedi symud (yn feddyliol) o Sir Benfro i fyd afreal, cartwnaidd, James Bond a'i debyg.

Cofiwch chi, mae'n bosib iawn mai dyna oedd bwriad yr awdur o'r cychwyn; mai dyma yw jôc fawr y nofel; bod y prif gymeriad diniwed yn cael ei daflu i fyd o ysbïwyr didrugaredd efo gynnau a hynny'n digwydd mewn lleoedd annisgwyl fel Abergwaun.

Os felly, yna rwyf innau'n euog hollti blew a derbyn mai romp hawdd-i'w- darllen a'i mwynhau yw Tair Rheol Anhrefn a dim arall.

Syrthio i fagl

Ond, mewn nofel oedd yn bygwth cyflwyno cwestiynau diddorol am hunaniaeth a phwy sydd â grym a ballu, roeddwn i'n teimlo fod y nofelydd galluog hwn wedi syrthio i'r fagl o boeni mwy am be sy'n debygol o blesio'r darllenydd, yn hytrach na dilyn ei reddf ei hun - a mynd ar ôl y cwestiynau yma'n ddyfnach, yn ogystal a'r sbort.

Roedd hi'n ddiddorol sylwi bod Elin Llwyd Morgan yn teimlo fod Daniel Davies wedi gor ymestyn 'y jôc' ambell dro; gan gyfeirio'n benodol at olygfa'r parti gwisg ffansi yn gynnar yn y nofel.

Cytunwn â'i sylwadau ynglŷn â'r pwynt yma ond, o'i chymharu a'i nofel cynt, Hei ho mae Tair Rheol Anhrefn yn gweld Daniel yn ffrwyno rhywfaint ar y duedd honno - sy'n arwydd o gryfder yn y marn i.

Tra'n cytuno â'r broliant fod Tair Rheol Anhrefn yn brawf o alluoedd Daniel Davies i lunio plot troellog, hoffwn i ei weld yn mentro o gynfas mawr y 'romp' a'i chymeriadau 2D yn ei lyfrau nesaf, a'n harwain at fydoedd mwy naturiol, os mynnwch chi.

Hynny, oherwydd bod yr awdur ar ei orau pan nad yw'n tynnu sylw ato'i hun - a'i glyfrwch, a'r abswrd a'r zany.

Yn y dweud syml a'r hiwmor tawel, bachog, hwnnw, dych-chi-prin-yn-sylwi-arno y mae cryfderau'r nofelydd.

Cofiwch chi, pe byddai rhywun wedi awgrymu y byddai "gwibdaith 'da gynnau", fel y cyfeiriodd Jon Gower ati, wedi rhoi cymaint o fwynhad i mi ac a wnaeth, fuaswn i ddim wedi credu'r peth.

Felly, be wn i ?
Ian Gill


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.