麻豆社

Cwpan rygbi'r Byd 2011

12 Awst 2011

Adolygiad Bethan Clement, 麻豆社 Cymru, o Cwpan Rygbi'r Byd 2011 gan Lynn Davies. Rhagair gan Gareth Edwards. Y Lolfa. 拢4.95.

  • Pa chwaraewr sydd wedi sgorio'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau yng ngemau Cwpan y Byd?
  • Faint o beli rygbi fydd yn cael eu defnyddio yng Nghwpan y Byd 2011?
  • Pa record Cwpan y Byd fydd Caerdydd yn ei dal yn 2015?

Na, dwi ddim am ddatgelu'r atebion i chi yn y fan hon ond dyna dair enghraifft o'r math o ffeithiau y deuwch o hyd iddyn nhw yn y llyfr lliwgar a llawn ffeithiau Cwpan Rygbi'r Byd 2011 a gyhoeddir gan y Lolfa.

Llyfr sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i unrhyw gefnogwr brwd ar drothwy prif gystadleuaeth y gamp. Ac am lai na phum punt, mae'n fargen!

Bydd yn gwmni i mi drwy gydol y gystadleuaeth rhwng Medi 9 a Hydref 23.

Mae'r llyfr yn llawn ffeithiau diddorol am y gwledydd fydd yn cystadlu; pwy yw'r chwaraewyr y dylid cadw llygad barcud arnyn nhw; hanes taith pob un o'r ugain gwlad i Gwpan y Byd 2011 a record y wlad honno yn y gystadleuaeth ers ei dechre n么l yn 1987.

Yn ogystal, cewch hanes y g锚m a Chwpan Webb Ellis - fydd yn cael ei godi gan y t卯m buddugol wedi'r deg wythnos o gystadlu.

Seland Newydd

Ynddo hefyd, mae gwybodaeth am Seland Newydd - y wlad lle bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal - a'r holl baratoi sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers iddi gael ei dewis i lwyfannu'r Cwpan.

Hefyd mae yna wybodaeth am y meysydd y bydd Cymru yn chwarae ei gemau rhagbrofol arnyn nhw ac mae'n si诺r y bydd hi'n ddigon emosiynol i hyffroddwr Cymru, Warren Gatland, ddychwelyd i Stadiwm Waikato yn Hamilton lle bydd Cymru'n wynebu Samoa a Ffiji.

Dyma hefyd gartref t卯m taleithiol Waikato y bu Gatland yn chwarae iddo am wyth mlynedd hyd 1994.

Gareth Edwards

Gareth Edwards, un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed, yw awdur y rhagair i'r llyfr a diddorol ei weld yn cydnabod, er i'r gamp fod yn garedig iawn wrtho mai'r un gystadleuaeth nad yw ar ei 'CV' yw Cwpan y Byd ac y byddai wedi bod wrth ei fodd petai wedi cael y cyfle i chwarae ynddi.

Nid ef yw'r unig Gymro sy'n cyfrannu i'r llyfr. Bydd y dyfarnwr Nigel Owens yng nghanol y cyffro gan ei fod e'n un o'r deg dyfarnwr a ddewiswyd i gadw trefn - heb anghofio Tim Hayes sydd wedi'i ddewis yn un o'r llumanwyr.

Dyma'r eildro i Nigel ddyfarnu yng Nghwpan y Byd ar 么l cael y fraint am y tro cyntaf yn Ffrainc bedair blynedd yn 么l.

Ond er ei fod e'n edrych ymlaen yn fawr, mae'n cyfaddef ei fod e'n fwy pryderus eleni, gan ei fod e'n teimlo y bydd yna fwy o bwysau arno y tro hwn i wneud yn dda.

Wedi chwarae

Un sydd wedi cael y profiad o fod yn rhan o Gwpan y Byd fel chwaraewr ac yn aelod o d卯m hyfforddi yw Robin McBryde, hyfforddwr blaenwyr Cymru ac y mae yntau hefyd wedi sgrifennu am ei brofiadau a thynnu sylw at Gwpan y Byd 2003 yn Awstralia.

Er i Gymru fethu 芒 mynd ymhellach na'r rownd go-gynderfynol, fe chwaraeon nhw rygbi cyffrous ac ef a ddewiswyd yn Chwaraewr Gorau Carfan Cymru.

Bydd g锚m gyntaf Cymru y tro hwn yn erbyn neb llai na deiliad y Cwpan, De Affrica, a hynny ar Fedi 11 ac rwy'n methu'n deg ag aros ac eisoes yn ysu am gael dechrau llenwi'r bylchau gyda sg么r pob g锚m ar y siart sydd yn dod gyda'r llyfr!

Gan ddechrau gyda buddugoliaeth i Gymru, gobeithio!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.