Ar eu pen eu hunain byddai'r dyfyniadau niferus sydd ynddi yn gwneud hon yn gyfrol gwerth chweil wrth i'r awdur roi ffenest siop i linellau sy'n geinion llenyddiaeth Gymraeg.
Mae'r dyfyniadau wedi eu lapio, fel yr awgryma'r teitl, mewn astudiaeth eglurhaol gan Alan Llwyd o gamp y gynghanedd.
Mae'r dyfyniadau o weithiau meistri'r gynghanedd yn anhepgor, wrth gwrs, ac yn un ag egwyddor Alan Llwyd mai'r ffordd i gyrraedd y safon uchaf fel bardd cynganeddol yw trwy 'astudio y meistri'.
Er mai Crefft y Gynghanedd yw'r teitl eglura ar y ddalen gyntaf mai bwriad y llyfr mewn gwirionedd yw "astudio Celfyddyd y Gynghanedd, gan mai'r nod yn y pen draw yw troi'r grefft yn gelfyddyd".
Siwr iawn, nid ef yw'r cyntaf i ddweud nad yw'r grefft ar ei phen ei hun yn ddigon nac ensynion bod sawl cynghanedd gywir ymhell o fod yn farddoniaeth.
"Y sail yw'r grefft, y sylfaen yn unig," meddai gan fynd ymlaen i ddweud bod y bardd cynganeddol yn wynebu dwy her - meistroli gramadeg y Gymraeg ei hun yn gyntaf a meistroli hefyd reolau astrus cerdd dafod ac wedyn dod a'r ddeubeth ynghyd i greu celfyddyd.
"Mae gan y bardd o gynganeddwr a'r cynganeddwr o fardd anferth o dasg o'i flaen. Mae'n rhaid iddo feistroli dwy iaith. Mae'r naill iaith, y Gymraeg, yn meddu ar set o reolau, sef ei gramadeg hi ei hun - ei chystrawen, ei threigladau, rhediad ei berfau, ac yn y blaen - ond mae'r llall, y gynghanedd, yn meddu ar ddwy set o reolau, sef rheolau'r Gymraeg a'i rheolau hi ei hun, rheolau Cerdd Dant," meddai.
Y gamp, yr athrylith, wrth gwrs, yw llwyddo i gyfuno dau fath o'r hyn a eilw Alan Llwyd yn " berffeithrwydd" technegol i greu barddoniaeth.
"Gyda'r bardd yn gorfod ufuddhau i'r fath gruglwyth o reolau y mae'n wyrth ei fod yn gallu traethu unrhyw fath o synnwyr drwy gyfrwng y gynghanedd heb sôn am godi'r cyfan i lefel uchel o gelfyddyd . . . troi'r setiau oer a chlinigol hyn o reolau yn artistwaith byw, dwys, bythgofiadwy."
Ac wrth gwrs mae'n beirdd gorau yn gallu gwneud hynny ac Alan Llwyd yn dyfynnu wyth englyn coffa R Williams Parry i Hedd Wyn fel enghraifft o hynny ar waith:
Y bardd trwm dan bridd tramor - y dwylaw
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid na all agor!
Englynion, meddai Alan Llwyd, sydd wedi eu sylweddoli "trwy feistrolaeth, trwy ddawn ac athrylith, a thrwy hir-ymarfer yn sicr, ond hefyd trwy ddulliau ac elfennau eraill, sef techneg , dychymyg artistig a theimlad neu angerdd."
Ac aiff ati i resymoli ein dealltwriaeth o faint y campwaith, englyn wrth englyn. Ac wedi tanlinellu'r technegau daw i'w gasgliad terfynol hanfodol bwysig:
"Ac fe geir yn yr englynion hyn un peth arall, na ellir ei ddiffinio na'i egluro, sef angerdd teimlad, tosturi mawr, a rhyw ymwybyddiaeth ddofn o ddagrau pethau, ac o dragwyddoldeb natur ochr yn ochr â byrhoedledd a breuder dyn . . ." ac yn y blaen.
Hyn oll a ddysgwn, a dydy ni ond wedi cyrraedd tudalen 18 allan o dros drichant!
Y mae cymaint mwy i ddod yn ddyfyniadau, yn ymdriniaethau ac yn ddadansoddi - yn bedair pennod ar ddeg i gyd yn ymdrin a thechnegau fel cyfrodeddu a cydfrodio sy'n dangos asiad mor glos - ac anodd - o ystyr a mynegiant yw'r gynghanedd.
Mae pennod i bwysigrwydd undod a thrafodir perthynas crefft ac awen, miwsig y gynghanedd a'r cyfan yn dirwyn i ben gyda phennod am vers libre cynganeddol.
Gellid maddau i rywun am ystyried Crefft y Gynghanedd fel gwerslyfr trymaidd cyn troi iddo ond gan i Alan Llwyd ddilyn ei gyngor "Astudiwch y Meistri" ei hun a thynnu i mewn i'w drafodaeth weithiau'r meistri hynny o bob cyfnod mae'n gyfrol sy'n berthnasol ac yn un hawdd cael eich hudo ganddi.
Ac, a defnyddio'r hen ystrydeb honno, yn gyfrol i droi iddi eto ac eto.
Nid yw ychwaith yn gyfrol i'w darllen, o reidrwydd, o un bennod i'r llall ond yn un y gellir neidio o gae i gae fel mae teitlau'r penodau yn eich denu. Dyna â wnes i a chael mwynhad a sbardun i feddwl a chyfle i edrych ac ystyried yn fwy ystyrlon linellau cyfarwydd yn union fel dod i adnabod hen ffrindiau yn well.
Yn fwy na hynny, hyd yn oed, mae yma hefyd y wefr o ddod o hyd i rhyw ddweud ysgytwol am y tro cyntaf.
Wnaiff hi ddim ein gwneud ni'i gyd yn feirdd nac yn gynganeddwr ond yn sicr gall ein gwneud yn well darllenwyr. Bydd hefyd yn sbardun i'r rhai sydd eisoes yn ymhél â'r grefft a'r gelfyddyd o gael troi ymhlith meistri a wnaeth argraff ar un sy'n dipyn o feistr ei hun.