Adolygiad Ian Gill o Blwyddyn Gap. Golygyddion, Bethan Marlow a Laura Wyn. Gwasg Gwynedd. £8.95.
Pe bai David Attenborough yn troi ei gamerâu at rywogaeth 'y Cymry dosbarth canol', ac yn dilyn un o'r creaduriaid o'i blentyndod i'w lawn dwf, yna'r tebygrwydd yw y byddai'n gweld patrwm amlwg yn natblygiad cymdeithasol yr anifail - o arholiadau lefel 'A' i addysg prifysgol ac ymlaen at swydd a gyrfa.
Ond, fel y gwyddom o wylio'i gyfresi natur dros y blynyddoedd, mae Attenborough 'n awyddus i dynnu'n sylw at yr eithriadau sy' ym mhob llif naturiol; ac i'r perwyl hwn, efallai dylid gyrru copi o Blwyddyn Gap ato, i brocio'i ddychymyg.
Detholiad o brofiadau
Yr hyn gewch chi yn Blwyddyn Gap yw detholiad o brofiadau ac argraffiadau pymtheg o Gymry ifainc a benderfynodd gymryd hoe fach o'r daith arferol honno o'r ysgol i'r brifysgol i'r gweithle drwy godi pac a mynd i weld y byd.
Ambell un yn dewis mynd dramor i weithio (yn gyflogedig a/neu'n wirfoddol), tra bo' eraill yn mynd am y profiad o weld.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae'r arch bacbacwraig, Bethan Gwanas, yn cynnig cynghorion synhwyrol ynglŷn â materion ymarferol fel pres a phasport aballu mewn rhagair difyr, cyn mynd ymlaen i awgrymu mai un o'r hanfodion i deithiwr ydi ymdrechu i ddysgu'r iaith leol. .
Mae hynny'n ddigon teg, ond fel mae'n cyfrannwr o Sbaen yn darganfod, mae byd o wahaniaeth rhwng estoy echo polvo ac estoy echando polvo. .
Wna' i ddim manylu ond am wn i fod y camddealltwriaeth uchod yn un enghraifft o 'stori na fasech chi'n ei rhannu hefo pawb - Mam a Dad, Nain a Taid, Anti Bet ayyb' mae'r golygyddion- Bethan Marlow a Laura Wyn - yn cyfeirio atynt yn y cyflwyniad. .
Dim enw
Ond wrth gwrs, mae'r straeon yn cael eu rhannu hefo pawb sy'n bodio'r llyfr 'ma, a'r hyn sy'n gwneud y penderfyniad golygyddol i beidio rhoi enw awdur ar y straeon ymddangos yn fwy od, ydi'r ffaith fod y cyflwyniad yn cael ei ddilyn gan restr lawn o'r cyfranwyr a ble buon nhw; felly, does dim rhaid i Anti Bet na neb arall fod yn sleuth arbennig o graff i weithio allan pwy gafodd anffawd mewn toiled yn y Ffilapinau neu drafferthion yn croesi'r ffin o Periw i Bolifia. .
Hyd y gwn i, aeth 'r un o'r pererinion ar daith hefo'r bwriad penodol o gyfrannu at lyfr ar y diwedd; felly'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gyfrol mewn gwirionedd, yw pytiau dyddiadurol personol o fywyd tramor, yn hytrach na llawlyfr sy'n cynghori rhywun sut i deithio o A i B. .
Defnyddiol
Serch hynny, mae'r llyfr yn cynnig cyfeiriadur defnyddiol i unrhyw ddarllenydd sy'n magu blas ar ddilyn ôl troed y teithwyr ond sy'm yn siŵr iawn o sut i fynd o'i chwmpas hi. .
Does yna'n dwy waith amdani fod sawl cyfranwyr wedi gweld a phrofi pethau rhyfeddol - ac yn gwybod sut i greu darluniau trawiadol hefo geiriau. .
Gwnaeth y sylw, "Hanoi ydi'r unig ddinas lle mae hi'n saffach croesi'r ffordd efo dy lygaid wedi cau!" imi wenu ac yn enghraifft o sgwennwr yn dal ei afael ar y foment. .
Ceir esiampl debyg, ond cwbwl wahanol, yn y dyfyniad nesaf: .
"Os gallwch chi ddychmygu pob cyfandir yn y byd yn sownd yn ei gilydd ar un adeg, wel, Ethiopia ydi'r unig ddarn o dir sydd wedi aros yn ei unfan." .
Mae'n cyfleu llonyddwch cyntefig y tirwedd, yn dydi? Tra bo' disgrifiad ein cyfrannwr o weld ysgrifen Siapaneaidd ym maes awyr Nagoya "yn gawl o siapie gwyllt", yn crynhoi dieithrwch y wlad honno a'i diwylliant i'r dim. .
Wrth gwrs, ni all llyfr fel hyn beidio â sôn am hiraeth. Mae un cyfrannwr yn yr Himalaya "...filoedd o filltiroedd o adra, 4,000 medr i fyny o'r môr -ac alla i ddim stopio meddwl am Nain"; cyn ychwanegu, "'mod i 'di gweld pa mor bwysig ydi'r henoed. Dwi 'di gweld faint o barch maen nhw'n ei gael ar yr ochr yma i'r byd...".
I mi, mae sgrifennu teithiol llwyddiannus yn cynnig mwy na chyfres o ddisgrifiadau manwl o'r hyn mae'r awdur yn ei weld; mae'r stwff gorau'n dadlennu'r awdur hefyd - ceir nifer o gyfraniadau addawol yn y gyfrol hon. .
Anthem y dolffin
Mae un o'r straeon mwya' bisâr yn y llyfr yn mynd â ni i arfordir gorllewinol ynys De Seland Newydd a phrofiad teithiwr yn nofio hefo dolffiniaid.
Yn ôl arweinydd y trip, un ffordd o ddifyrru'r creaduriaid yn y dŵr oedd drwy ganu iddynt:
"Darganfyddais fod dolffiniaid Seland Newydd yn hoff iawn o Hen wlad fy Nhadau. Dechreuais drwy ganu Calon Lân ond doedd ganddyn nhw ddim diddordeb, ond pan ddechreuais ganu ein hanthem daeth pedwar neu bump i nofio o nghwmpas mewn cylchoedd. Yna, wedi i mi orffen yr anthem a dechrau canu Bing,Bong,Be, i ffwrdd â nhw eto." .
Ac i brofi nad ffliwc oedd y cyfan, dyma'i ffrind yn dechrau canu'r anthem: "a heb air o gelwydd, ymhen dim roedd wyth dolffin yn nofio o'i chwmpas!" .
Tybed â fydd esboniad o'r ffenomenon ryfedd hon yn cael ei gynnig yng ngyfres nesa' David Attenborough ?!