Â鶹Éç

Betty Williams - O Ben Bryn i DÅ·'r Cyffredin

Betty Williams ar glawr ei llyfr

29 Mawrth 2010

  • Adolygiad John Stevenson o gofiant Betty Williams, O Ben Bryn i DÅ·'r Cyffredin. Gwasg y Bwthyn. £7.95.

"Oes ganddo fo 'winadd?" mae'n debyg oedd cwestiwn cynaf Betty Williams wrth y fydwarig ar enedigaeth ei mab cyntaf, Raymond.

Cyflwr meddygol yn nheulu Betty Williams oedd yn gyfrifol am y cwestiwn.

Ond tybed a'i dyna gwestiwn ei mam hi pan anwyd Betty Williams ei hun?

Clawr y llyfr

Fel mae bywyd cyhoeddus Betty Williams wedi dangos, yn wleidyddol, oes mae ganddi hi ewinedd digon miniog yn ogystal a dannedd sy'n gallu brathu.

Dyma lyfr am daith merch gyffredin o Ddyffryn Nantlle yr holl ffordd i'r Senedd Fawr yn San Steffan.

Mae yma benodau cynnes am y dyddiau cynnar, am y gwaith o fagu plentyn gydag anhwylder ac am deithiau tramor a chael cysgu yng ngwely Nicolai Caucescu: y teyrn fu'n llywodraethau yn Romania.

Wrth gwrs, doedd o ddim ynddo ar y pryd!

Eu trin yn nawddoglyd

Am flynyddoedd, cafodd merched o fewn y Blaid Lafur - y pleidiau i gyd o ran hynny - eu trin fel y rhai oedd yno i ferwi'r dŵr a thorri brechdan. Yr adeg honno yr oedd y syniad o gael merch yn aelod seneddol yn gwbwl anathema

Do, cafodd Betty Williams a merched eraill fel Ann Clwyd eu trin yn ddigon nawddoglyd wrth geisio cyrraedd San Steffan.

Ond gwae unrhyw un fyddai'n ddigon gwirion i amau dyfal barhad y ferch o Dalysarn

Do, mi gollodd ei sedd ar Gyngor Gwynedd i wrthwynebydd o Blaid Cymru ond yna cafodd ei hethol dros Lafur, wedi'r trydydd ymdrech, yn AS Conwy yn 1997 a chadw'r sedd hyd heddiw.

Ond er mai 1997 oedd dyddiad ei hethol gyntaf a'i theyrngarwch i'r Blaid Lafur yn ymestyn ymhell cyn hynny, mae Betty Williams, fel sy'n amlwg yn y gyfrol hwylus hon, yn gwrthod cael ei labelu fel un o'r Blair Babes a phrawf o hynny yw iddi bleidleisio ar adegau yn erbyn ei phlaid ei hun.

Ym mer ei hesgyrn

Ond - ac mae hyn hefyd yn bwysig - elfen arall sy'n dod yn amlwg wrth ddarllen y gyfrol hon yw fod "Llafur" ym mer esgyrn y ferch hon o Dalysarn.

Wrth gwrs, o gofio ei chefndir byddai'n rhyfeddod iddi fod fel arall a hithau wedi'i gwreiddio mor ddwfn yn ardal y chwareli a'i thad a'i thaid yn gweithio yn y diwydiant llechi.

Mae teyrngarwch yn air allweddol iddi wrth gydnabod ei dyled i Lywodraethau Llafur.

"Fe'm ganwyd yn 1944 cyn y gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Roedd fy rhieni yn talu un swllt ar bymtheg am frechiad - tipyn go lew o dolc yng nghyflog prin y chwarelwr," meddai.

Dechreuodd weithio dros Lafur y gynnar wedi gadael yr ysgol.

"O fewn dwy flynedd i'r diwrnod y croesais Stryd y Castell yng Nghaernarfon, i gynnig gwasanaeth i'r Blaid Lafur, roeddwn wedi ffurfio cangen sosialwyr ifanc gref iawn yn yr etholaeth," meddai.

Gwnaeth ddiwrnod da o waith yn aelod o Gyngor Dosbarth Arfon ac yna ar Gyngor Sir Gwynedd lle'r oedd ar delerau personol da ag arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Orwig.

Byddai wedi bod yn hynod ddiddorol darllen rhywfaint o hanes yr ymrafael rhwng y ddwy blaid yn y cyfnod wedi i Ddafydd Wigley ddisodli Llafur yn Arfon yn etholiad seneddol 1974.

Wedi'r cyfan, mae Betty Wiliams o'r genhedlaeth Lafur honno sy'n casáu Plaid Cymru â chas perffaith.

Fel gwleidydd ei buddugoliaeth fawr, bersonol, hi oedd cipio Conwy.

Bu Conwy yn sedd Geidwadol er 1970 ac mae'r ffaith i Mrs Williams ei chipio yn bluen yn ei chap - a'i chadw wedyn.

Y meinciau cefn

Gydol ei chyfnod yn y Senedd bu ar y meinciau cefn ac un o'r pethau mwyaf trawiadol am y gyfrol hon yw iddi fod yn fodlon iawn ei byd yno. Erbyn hyn, mae gwleidyddion o'r fath yn adar prin iawn yn fodlon bod yno nid er mwyn uchelgais bersonol ond er mwyn gwneud diwrnod o waith ar ran etholwyr.

Bod yn llais i bobol heb lais neu â llais rhy dawel i'w glywed ac arwydd o'r parch tuag ati o fewn yr etholaeth yw iddi lwyddo ym mhob etholiad er 1997 i gynyddu canran Llafur o'r bleidlais.

"Credaf," meddai, "mai gwaith caled ac nid swing i Lafur oedd yn gyfrifol am hynny."

Bu'r brentisiaeth wleidyddol yn un ddifyr; llywodraeth leol yn fagwrfa gan gychwyn mewn cyfnod pan oedd y Blaid Lafur yn dal yn rym nerthol mewn cymaint o'r Gymru Gymraeg.

Dechrau ar Gyngor Gwyrfai a hynny yn y dyddiau pan oedd yr unigryw R H Owen, Robin Pengwaith, yn rheoli a chyfle i Betty Williams ddysgu wrth draed y Gamaliel o Lanberis.

Ymlaen wedyn i fod yn aelod o Gyngor Arfon a hen Gyngor Sir Gwynedd.

"Ar lefel llywodraeth leol, roeddwn wedi mynd cyn uched ag y gallwn i gynrychioli pobol," meddai mewn brawddeg sy'n dweud cyfrolau.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.