Â鶹Éç

Grace Roberts - Adenydd Glöyn Byw

Rhan o glawr y llyfr

20 Awst 2010

  • Adolygiad Lowri Roberts o Adenydd Glöyn Byw nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2010 gan gan Grace Roberts. Gomer. £8.99.

Disgrifiwyd Daniel Owen gan yr Athro Dafydd Johnston fel "yr awdur cyntaf i wireddu potensial y nofel yn y Gymraeg".

Un o gryfderau'r teiliwr o'r Wyddgrug meddid oedd "ei allu i greu cymeriadau cofiadwy, yn arbennig trwy ddeialog fywiog, i ddatgelu eu natur foesol, gyda choegni deifiol yn aml, ac i ddarlunio pobl yn ymwneud â'i gilydd mewn cymuned gredadwy".

Dyna hefyd ragoriaethau Grace Roberts - enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2010 yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.

Clawr y llyfr

Un o ofynion y gystadleuaeth hon yw bod y nofel fuddugol yn meddu ar "linyn storïol cryf" ac yn hynny o beth mae Adenydd Glöyn Byw yn taro'r hoelen ar ei phen.

Hanes nain, mam a merch sydd yma. Â'r tair yn byw o dan yr un to yn ffermdy Cae Aeron, yn naturiol mae na groesdynnu a checru yn dilyn. Yn ganolog i'r cyfan y mae rhyw - neu yn hytrach - agweddau gwahanol genedlaethau at ryw.

Yn edifar

Ystyriwch y nain - Megan.
A hithau'n dynesu at ei deg a thrigain mae'n edifar y llwybr a ddilynodd mewn bywyd - y modd y cafodd ei thagu gan gulni ei thad a moesoldeb a rhagfarnau'r oes y'i codwyd. Y 'petai' a'r 'petasai' sy'n ei phoeni hi.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Megan, ceir yr wyres - Eira Mai.

Yn gwbl groes i'w nain mae Eira Mai, sy'n ddisgybl chweched dosbarth, yn byw bywyd i'r eithaf. Lle roedd ei nain yn ansicr a mewnblyg mae'r wyres yn hunanfeddiannol a thra hyderus ond eto'n annwyl iawn.

O'i chwmpas hi y try prif linyn storïol y nofel. Pan ddaw athro drama ifanc, golygus, i'r ysgol mae Eira yn syrthio dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag e. A dyna ddechrau ar stori serch helbulus sydd hefyd yn esgor ar nifer o isblotiau difyr.

Y fam sengl

Yn ganolog i fywydau'r nain a'r ferch y mae Rhiannon, y fam sengl ddeugain oed. Er nad yw ei chymeriad cyn gryfed â'r ddwy arall, mae ei rôl yn gwbl allweddol wrth bontio rhwng y ddwy genhedlaeth a'u gwahanol safbwyntiau.

Prif ragoriaethau'r nofel hon yn ddi-os yw'r modd y mae Grace Roberts yn creu cymeriadau byw a hoffus. Ymwneud pobl â'i gilydd sy'n cynnal y nofel - hynny, yn ogystal â dogn dda o hiwmor. Ystyriwch yr olygfa rhwng Megan â'i ffrind bore oes, Lilian wedi i'r ddwy fod yn hel meddyliau wrth yfed gwin;

'Wsti be, Lilian? Ffrind agosa medd-dod ydi'r felan.' 'Diawl! Ia?'
'Ia. A ffrind agosa henaint. Y felan...anobaith...ofn...A dwi'n difaru f'enaid y funud yma.'
'Finna hefyd, Meg. 'Dan ni wedi meddwi'n bosal.'
'Ddim hynny, Lil. 'Dan ni'n uffernol o hen, Lil. Difaru dwi, ar ddiwadd f'oes...na faswn i wedi...PECHU MWY!'

Dawn arbennig

Yn sicr mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu deialog fyrlymus a rhwydd a chlust dda am sgyrsiau a thafodieithoedd, yn enwedig pan siarada Eira Mai â'i chyfoedion:

'Y Dipsy Donkeys yn gigio nos fory, yndi?' gofynnodd.
'Ydi. Parti preifat ydi o; rhywun yn ddeunaw oed. Dwi'm yn gwbod pwy.'
'Dale Davies', meddai Meic. 'Oedd o yn blwyddyn ni. Yn dosbarth pontio.'
'Ia?' gofynnodd Eira'n syn. 'Mae o yn self-defence.'

Ar yr wyneb mae'n nofel hawdd iawn i'w darllen ac yn un sy'n ymdebygu i opera sebon ar brydiau. Yn sicr mae'n nofel y bydd pobl yn mwynhau ei bodio.

Damcaniaeth wyddonol

Ond yn gymysg â helbulon carwriaethol y prif gymeriadau mae'r awdur wedi cyflwyno damcaniaeth wyddonol i'r cawl - chaos theory a'r butterfly effect, sydd wrth gwrs yn esbonio teitl y nofel.

Yr hyn a awgrymir yw bod un newid bach - symud ysgafn glöyn byw, dyweder - yn gallu arwain at ganlyniadau tra gwahanol.

Yn hynny o beth mae'r glöyn byw i'w glywed fel islais drwy'r nofel ac yn fygythiad real i fywydau nifer o'r cymeriadau. Ys dywed Megan wrth ei hwyres, "Bendith y nefoedd i ti, cadw di draw oddi wrth löynnod byw!"

A ddaru Eira Mai wrando ar gyngor ei nain? Darllenwch drosoch eich hunan!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.