Cael fy 'sgubo nôl i fyd Enid Blyton
Mae'n dalcen caled - denu hogia ifanc at lyfrau a'r arfer o ddarllen; felly, wrth i glawr Addewid Mawr ddatgan mewn llythrennau bras fod "Rodi ar fin wynebu her fwyaf ei fywyd," ymddengys fod her anos yn wynebu awduron y gyfrol hon a rhai tebyg iddi, i danio dychymyg darllenwyr rhwng wyth a 12 oed.
Rodi yw Rodi Jones, neu Rodrigo Jones â bod yn fanwl gywir - mae o'n hanner Brasiliad, dych chi'n gweld! - a fo 'di seren tîm pêl-droed Ysgol Gynradd Dyffryn; a'r her sy'n ei wynebu yw ennill lle ym mhrif academi bêl-droed Prydain, sef Academi Iwan.
A fydd Rodi'n llwyddo i greu argraff ffafriol ar sgowtiaid yr ysgol arbennig honno tybed, 'ta gorfod bodloni ar fod y chwaraewr mwya disglair tîm ei ysgol uwchradd leol, Cwm Gwyrdd, fydd ei dynged?
Wel, mae tair cyfrol arall i ddilyn yn y gyfres, felly be 'dych chi'n feddwl?
Bosib iawn fod Rodi'n llwyddo; ond, a yw'r cyhoeddwyr wedi llwyddo yn ei ymgais 'i lenwi bwlch yn y farchnad am nofelau gafaelgar am bêl-droed'?
Yn llwyddo?
Gan mai hon yw'r gyntaf mewn cyfres, efallai 'i bod hi'n annheg ( a mi a'r gyfres) cynnig beirniadaeth ar y pwynt yma; serch hynny, bydded hi'n ddarn o jigso mwy ai peidio, ar ôl darllen, y cwestiwn roeddwn i'n dychwelyd ato dro ar ôl tro, oedd: "Ydi Addewid Mawr yn llwyddo i sefyll ar ei phen ei hun fel stori neu nofel afaelgar?"
A'r ateb bob tro oedd - Na.
Y broblem fwya' yw fod stori Addewid Mawr yn cael ei hadrodd gan fachgen deg oed ond yn darllen fel un â ysgrifennwyd gan wraig yn ei chwe degau!
Gan fod tair cyfrol arall yn y gyfres i ddilyn hynt a helynt disgyblion yr Academi, roedd hwn yn gyfle i roi lliw a chnawd i gymeriad Rodi ond, 'y nheimlad i yw i'r awdures, Cindy Jefferies, wedi methu â gwneud hynny
Er enghraifft, er y cawn wybod ei fod o'n bêl-droediwr campus nid ydym yn dysgu dim ynglŷn â'r rheswm sut na pham. Does dim sôn amdano'n cefnogi'r un tîm na'r posibilrwydd fod ei dad wedi mynd a fo i wylio gemau.
Er bod yr hogyn wedi mopio'i ben efo'r gêm, dydi Rodi a'i gyfaill ddim yn mynd ar gyfyl siop bapur i brynu cardiau Match Attax neu sticeri Panini nac yn glynu posteri o arwyr posib fel Steven Gerrard neu Ryan Giggs ar wal ei stafell wely...ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Felly, mae'n anodd deall sut yn union y magodd ffasiwn flas ar chwarae pêl-droed -sy'n rhan eitha pwysig o'r stori, decin i.
Mae'r ffaith iddi hepgor manylion fel y rhain yn codi amheuon a yw Cindy Jefferies yn anghyfforddus â byd ei phrif gymeriad.
Llacrwydd
Ceir enghraifft arall o'r llacrwydd hyn wrth i un o'r disgyblion hŷn dywys Rodi a darpar ddisgyblion eraill o amgylch yr Academi a dweud fod y sylfaenydd, Iwan Masters, yn "adnabyddus i chi i gyd mae'n siŵr" ond yn hytrach na chreu CV trawiadol i Mr Masters - deud 'i fod wedi serennu yn rhai o dimau mawr Ewrop yn 'i ddydd neu 'i fod wedi ennill hyn a hyn o gapiau dros ei wlad -dyw'r awdur ddim yn trafferthu i egluro sut iddo fod yn "un o'r rhai oedd yn cael ei dalu fwyaf yn y gêm bryd hynny..."
Efallai nad oeddwn i'n disgwyl campwaith o lenyddiaeth aruchel ond roeddwn i yn gobeithio y byddai'r awdur yn strêt â'i darllenwyr.
Pan ddaeth hi'n amser portreadu bywyd a gweithgareddau'r criw yn yr Academi, cefais siom wrth ddarllen am gynnal brwydr gobennydd ganol nos a threfnu sesiwn cyfeiriannu o amgylch yr ysgol, a chwarae ping-pong ... roedd bob peth braidd yn neis, dych chi'n gweld.
Lle mae'r creulondeb chwareus hwnnw neu'r tensiwn a'r ofn â geir yn straeon Dahl a Rowling pan fo' plant a byd od oedolion yn gwrthdaro?
Ar un pwynt, mae sôn am ysbrydion cyn chwaraewyr yn meddiannu eisteddle'r cae chwarae ... ond, yn hytrach na'n argyhoeddi fod hyn i gyd yn afaelgar, teimlais y cyfan yn fy 'sgubo i'n ôl i fyd Enid Blyton.
Fel yr awgrymais ar y dechrau, mae'n dalcen caled- denu a chynnal diddordeb hogia ifanc mewn llyfrau ac i lwyddo mae gofyn i awduron sefyll ar yr un cae a'u darllenwyr.
Yn 'y nhyb i, mae Addewid Mawr yn methu'r prawf sylfaenol hwn.