Â鶹Éç

Carey Mulligan - Actores Orau

Carey Mulligan

22 Chwefror 2010

Merch gyda chysylltiadau â Llandeilo enillodd Wobr Bafta yr actores orau 2010.

Cafodd Carey Mulligan 24 oed ei gwobr am ei rhan yn y ffilm An Education am ferch ifanc yn syrthio mewn cariad â dyn llawer iawn hŷn na hi ei hun.

Sylfaenwyd y ffilm ar stori wir un o newyddiadurwyr amlycaf Lloegr, Lynn Barber, a sgrifennodd lyfr am yr hyn a ddigwyddodd.

Dywedodd Carey Mulligan: "Feddyliais i ddim mewn miliwn o flynyddoedd y gallai hyn ddigwydd."

O bosib mai'r gorau y gallai fod wedi gobeithio amdano oedd gwobr yr actor newydd gorau yn hytrach na'r wobr fawr hon ond, wedi dweud hynny, yn ystod y dyddiau cyn y noson yr oedd sawl un yn barod i ddarogan y gallai fynd a hi.

Gyda hi yn y seremonni wobrwyo yr oedd ei thad a'i mam a'i brawd.

Yn cael ei holi ar y Post Cyntaf ar Â鶹Éç Radio Cymru dywedodd modryb Carey ei bod yn ferch a'i thraed yn sicr ar y ddaear.

Dywedodd hefyd iddi fethu a chael mynediad i goleg drama wedi gadael yr ysgol ac i hynny ei gwneud yn fwy penderfynol fyth o lwyddo yn y maes.

Gellir gwrando ar Y Post Cyntaf ar iPlayer.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.