Ar yr olwg gynta, hawdd fyddai diystyrru CV Rhys Ifans mewn cymhariaeth ag actorion eraill o'i genhedlaeth.
Pwy, tybed, welodd Danny Deckchair? neu Janice Beard 45WPM a Rancid Aluminium?
Ond os ddarllenwch chi'r rhestr yn fanylach, fe sylweddolwch iddo actio gydag Anthony Hopkins yn August a Meryl Streep yn Dancing at Lughnasa cyn iddo droi'n ddeg ar hugain, a hynny'n fuan ar 么l graddio o'r Guildhall ym 1997.
Spike 'Notting hill'
I sawl un, cymeriad swreal Spike oedd y peth gorau am y Notting Hill nawddoglyd ddiwedd y Nawdegau.
I eraill, dyna beth oedd cymriad kamikaze, a'r ffordd orau o ddryllio gyrfa addawol gyda bwgan brain mewn tr么ns tyllog.
Sbwriel. Agorodd Spike ddrysau diddorol. Michel Gondry, Tim Robbins, Lasse Hallstr枚m, Kevin Spacey.
Ac wrth fynnu awgrymu i Richard Curtis - sgwennwr comed卯au sy'n siwtio'r Sefydliad - y gallai'r twpsyn hwn fod yn dwpsyn doniolach o fod yn dwpsyn Cymreig codwyd rhyw fymryn ar nenfwd wydr y Cymro oddi cartre.
Tydy rhywun ddim yn Cymreigio'i gymeriad, na'i gyfenw - a glynu'n benstiff at y penderfyniad hwnnw - er mwyn hwyluso'i yrfa actio y tu hwnt i Glawdd Offa.
A tydy rhywun ddim yn egluro'i deimladau at ei famiaith wrth newyddiadurwraig Lundeinaidd wrth ddweud mai Cymraeg ydy'r unig iaith y gallai siarad 芒 chi.
Ond nid rhywun mo Rhys.
"Tyfa i fyny", mae'n debyg, oedd ymateb swyddog gyrfaoedd Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, i'w or-hoffter o berfformio. Diolch byth na wnaeth o mo hynny.
Roedd wedi mopio ar y mympwy o fynd yn actor ers i Theatr Clwyd lanio fel llong ofod yn nhref yr Wyddgrug gan ddod yn gyrchfan gyson iddo ef a'i frawd Llyr, yn ogystal a'u rhieni, Eurwyn a Beti Wyn, gyda'r teulu cyfan yn aelodau brwd o Gwmni Theatr Rhuthun.
Cafodd y pedwar rannu llwyfan droeon a chafodd Rhys fodd i fyw yng nghwmi'i frawd yn y caper cwlt Twin Town; ffilm sy'n dal i ennill cynulleidfa ac yn denu dilynwyr i Dalacharn ar gyfer darlleniad byw gan y cast gwreiddiol yn yr 诺yl flynyddol.
Troediodd lwyfanau eraill- y National Theatre, y Royal Exchange, a'r Donmar Warehouse.
Ond nid Theatr Gen na National Theatre Wales - eto?
Soniodd unwaith mai agwedd gweithiwr ffatri sydd ganddo tuag at baratoi ar gyfer jobyn o waith. Cofio'i linellau a throi fyny ac osgoi trafodaethau toreithiog actorion eraill am artaith eu crefft.
Efallai bod hynny'n wir yn achos rhai cymeriadau ond pan fachodd ddwy ran fawr yn 2004 datgelodd fod yna method pan fo cymeriad yn haeddu mwythau.
Darllenodd gymhelliant Jed - stelciwr Daniel Craig yn addasiad Roger Michell o'r nofel Enduring Love gan Ian McEwan - fel crysh merch ysgol, gan ychwanegu d么s o bathos i'w bortread o gymeriad obsesiynol, od.
Ac ar 么l treulio oesoedd yn paratoi ar gyfer ei bortread o Peter Cook - yn nramateiddiad 麻豆社4 o fywyd y diddanwr yn Not Only But Always - syrthiodd pob darn i'w le pan ddarganfu Ifans yr union ystum - a oedd wedi ceisio'n ofer ei feistroli - pan welodd o Dot Cotton yn gafael yn ei sigaret ar y bocs.
Ffeithiau syml, dynol, sy'n profi ei fod yn dal yn ddyn a'i draed ar y ddaear, serch y proffil-paparazzi.
Enillodd BAFTA haeddiannol am bortreadu Cook broffil uwch iddo ac agor drysau eraill i arbrofi- a manteisio.
Er mai 'ymateb cymysg' gafodd cynyrchiadau fel Hannibal Rising, Chromophobia, a The Boat That Rockedgoroesodd Rhys yn rhyfeddol a disgleirio yn y ffilmiau salaf.
Do, fe dorrwyd ei galon gan annwylbeth anwadal. Deliodd 芒 hynny trwy ddychwelyd at ddiddordeb芒 groesbeilliodd ei gyfnod cynnar yn canu 芒'r Super Furries a'i berthynas clos ag Oasis, pan sefydlodd grwp roc seicadelig Y Peth.
Tawelwyd y beirniaid a phrofodd gryn gatharsis yng nghwmni ffrindiau ffyddlon ar lwyfannau o Glwb Golff Y Bala i'r Hoxton Bar & Grill.
A bu gwaith yn achubiaeth. Glaniodd ran fechan a wnaeth argraff fawr yn 2008, Huw, y ffarmwr unig sy'n gymysg oll i gyd yn ffilm fer Hugo Blick, Six Days One June fel rhan o gyfres o fonologau ar 麻豆社2.
Braf oedd cael clywed yr acen Gymraeg ogleddol ar deledu rhwydwaith am unwaith a brafiach fyth oedd clywed yr actor yn chwarae Ivan Shrank - ffrind gorau Ben Stiller yn Greenberg eleni - yn ei acen naturiol ei hun.
Perfformiad anghyffredin o addfwyn, ac aeddfed, gafwyd ganddo yn Greenberg - ffilm sy'n dathlu'r pleser rhyfeddol sydd i'w gael wrth dderbyn bywyd nas cynlluniwyd.
Yn wir, pa ffordd well o ddisgrifio bywyd actor?
A phwy a 诺yr nad yw'n ffan o ffawd ac yntau'n credu mewn Karma.
Ond yn 2009 enillodd Rhys brif ran y cafodd ei eni i'w chwarae; Howard Marx ym Mr Nice.
Fel ei berfformiad yn Not Only But Always bum mlynedd ynghynt, mae e'n ymgorffori'r Cymro carismataidd Howard Marks i'r dim, gydag acen gynnes y Garw a fflach ddireidus yn ei lygaid yn sicrhau bod y gwyliwr dan ei ddylanwad o'r cychwyn cynta.
Gyda chyfuniad difyr o berfformiadau eto i'w dangos ar y sgr卯n fawr - gan gynnwys Xenophilius Lovegood yn Harry Potter and The Deathly Hallows ac yng nghwmni Megan Fox, Mickey Rourke a Bill Murray yn Passion Play mae 2010 yn troi'n flwyddyn ddiddorol yn ei hanes.
Ac yntau wedi sefydlu'i hun yn actor cynorthwyol go gwyrci yn Hollywood daeth yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf fod Rhys Ifans yn llawer iawn mwy na dim ond 'cymeriad a hanner'.
A phan fo perl o ran yn y fantol, does dim dwywaith ei fod wedi profi'i hun yn seren o sylwedd. Hir oes i yrfa'r dalent aruthrol o Ruthun.
Lowri Haf Cooke.