25 Chwefror 2010
Ar y ddalen hon mae Gareth Miles yn sôn am gyfeillgarwch a dyfodd rhyngddo â Howard Marks y smyglwr cyffuriau a garcharwyd yn yr Unol Daleithiau
Ar fin cyrraedd y sinemâu mae Mr Nice - ffilm yn olrhain bywyd y smyglwr marijuana Howard Marks.
Chwaraeir rhan Marks gan Rhys Ifans a rhan ei ail wraig, Judy, gan Chloë Sevigny a'i wraig gyntaf gan Elsa Pataky.
Ond cyn hynny bydd ei lyfr Cymraeg cyntaf - Cymru Howard Marks yn y gyfres Stori Sydyn - yn cael ei gyhoeddi yn ymwneud a'r Gymru yr oedd Marks unwaith am ddianc ohoni a'r Gymru y mae'n awr am fod yn rhan ohoni.
Awdur a dramodydd o Gymro a ddaeth i adnabod Howard Marks drwy lythyr yw Gareth Miles - a'i gyfarfod hefyd wedi i Marks gael ei ryddhau o garchar.
Yma, mae Gareth Miles yn sôn am y berthynas a dyfodd rhyngddynt.
Marks ond nid Marcsydd
Llythyr yn y Sunday Telegraph ysgogodd ein gohebiaeth.
Roedd y papur hwnnw wedi cyhoeddi erthygl dan y pennawd Marks's Missing Millions a honnai fod y marsiandwr marijuana wedi cuddio dros $20 miliwn yn rhywle er mwyn sicrhau na fyddai'n ddiymgeledd pan gâi ei ryddhau o garchar yn America.
O'i gell yn y Federal Penetentiary, Terre Haute, Indiana gwadodd y Cymro o Fynydd Cynffig hynny gyda ffraethineb a barodd imi sgrifennu ato yn Gymraeg, i ddymuno'n dda iddo ac fe'i anrhegais â chopi o fy nofel ddiweddaraf i basio'r amser.
Daeth ateb cyfeillgar o fewn ychydig wythnosau. Roedd y paragraff cyntaf yn Gymraeg a'r gweddill yn Saesneg ac ymddiheurai Howard nad oedd ei Gymraeg ysgrifenedig yn ddigon rhywiog iddo allu dweud dim o bwys wrthyf ond diolchodd am y llyfr gan addo ei ddarllen petawn i garediced ag anfon geiriadur Cymraeg-Saesneg ato.
Anogodd fi i sgrifennu ato pryd bynnag y teimlwn fel gwneud hynny.
Cynrychiolydd swyddogol
Wn i ddim ble mae llythyrau Howard erbyn hyn. Efallai eu bod yn dal ym meddiant rhai o rafins pentref Ffynnon Taf y cymdeithaswn yn achlysurol â hwy yn nawdegau'r ganrif ddiwethaf.
Alcohol a nicotîn oedd yr unig gyffuriau y gwelais i hwy'n eu defnyddio ond rwy'n amau eu bod yn gyfarwydd â rhai eraill.
Beth bynnag, pan glywsant fy mod yn gohebu â Howard Marks dyrchafwyd fi o fod yn fêt i'w mêt, Bob Jones y Comiwnydd, i statws Cynrychiolydd Swyddogol Y Brenin Alltud ar Ddaear Cymru.
Astudient epistolau Howard â sêl a manylder rhyfeddol. Tybiaf mai tebyg oedd adwaith y Colosiaid, y Thesaloniaid, y Corinthiaid a'r Galatiaid pan dderbynient lithoedd yr Apostol Paul.
Heb chwerwedd
Sgrifennai Howard yn ddiddorol ac heb arlliw o chwerwedd na hunan dosturi am gyfyngiadau a pheryglon bywyd yn y 'Pen', dinas gaeth y dylasai canran uchel o'i phoblogaeth fod mewn ysbytai seiciatryddol.
Roedd amryw yn haeddu bod dan glo; e.e., rhai o gangsteriaid blaenaf America.
Ystyriai'r rheini fod Howard Marks yn yr un busnes â hwy heb fod yn gystadleuydd ac estynnwyd iddo freiniau a diogelwch aelodaeth o'r 'Teulu'.
Diolchodd y cyn academydd o Brifysgol Caergrawnt i'w gymwynaswyr trwy wella eu sgiliau darllen a sgrifennu.
Ymwrthododd Howard yn llwyr â marijuana tra bu yng ngharchar Terre Haute; buasai prawf wrin negyddol wedi tanseilio ei apêl am ostyngiad yn hyd ei garchariad i lai na phum mlynedd ar hugain, fel bod hynny'n rhoi'r hawl iddo wneud cais am drosglwyddiad i garchar yn y Deyrnas Unedig.
Trwy rym ewyllys, dycnwch a deallusrwydd llwyddodd yn y ddeubeth a diweddodd ei garchariad yn HMP Albany, Ynys Wyth, lle treuliasai John Jenkins, MAC, ddeng mlynedd.
Er mawr glod iddynt, ni wnaeth yr un o'r ddau fradychu neb er mwyn ysgafnhau ei gosb ei hun.
Parti mawr
Cynhaliwyd parti mewn clwb Pwylaidd crand yn Belgravia, Llundain i ddathlu rhyddhau Howard o garchar Albany yn 1995.
Rwy'n siŵr fod cannoedd ohonom yno. Perthynai carfan i ü²ú±ð°ù-crachach Oxbridge a'r Home Counties, carfan arall i ü²Ô³Ù±ð°ù-gwerin cymoedd De Cymru ac roedd haid fawr, amrywiaethol na fedrwn ddyfalu o ble y daethant.
Dyna'r unig dro imi gyfarfod â Howard Marks. Cefais ef yn glên, yn gwrtais ac yn diymhongar, yn union fel ag yr ymarweddai yn ei lythyrau.
Yn 1990 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch Romeo a straeon eraill, cyfrol o'm gwaith sy'n cynnwys pedair stori gysylltiedig sy'n efelychiadau modern o Bedair Cainc y Mabinogi.
Cyfuniad o Manawydan Fab Llyr a Howard Marks yw prif gymeriad y stori M ond wn i ddim, bellach, faint ohoni sy'n ffaith a faint sy'n ffuglen. Rwy'n meddwl, serch hynny, fod y paragraff canlynol yn cyfleu canfyddiad llawer a adwaenai Howard:
"Llwydda hudoliaeth M orau mewn sefyllfa un-i-un,' tystioddd cyfaill a'i bradychodd. 'Mae'n wrandawr dihafal sy'n peri i'r sawl sy'n ei gwmni deimlo wrth siarad fod pob gair a lefara o'r pwys mwyaf. Mae gan M wyneb hydwyth, teimladwy sy'n ddrych i bobl weld eu hunain ynddo fel y dymunant gael eu gweld. Yng nhgwmni M, teimla'r rhan fwyaf o bobl yn ffraeth ac yn ddeallus; teimla pobl ddwys yn ddoeth iawn; teimla rhai a chanddynt broblemau difrifol yn llai unig..."
Y diwedd
Roeddwn wedi bwriadu parhau i ohebu â Howard Marks er mwyn dilyn ei hynt ac yntau â'i draed yn rhydd. Wnes i ddim am imi ddarllen iddo fod, ar un adeg, yn gyd berchennog puteindy yng Ngwlad Thai ac iddo gyfiawnhau hynny trwy haeru fod pob un o'r merched yno o'i gwirfodd ac o'i dewis ei hun.
Gwyddai gystal â neb mai'r unig ddewis i filiynau o wragedd, merched, bechgyn a phlant yn y Trydydd Byd bryd hynny, fel ag y mae hi heddiw, oedd gwerthu eu cyrff neu lwgu.
Y diwydiant rhyw yw'r un mwyaf diraddiol, treisgar a gorthrymus ar wyneb y ddaear.
Honnodd Howard hefyd na fyddai'n hidio petai ei ferched ei hun yn dewis bod yn buteiniaid. Ni allwn goelio hynny.
Dichon fod Marks yn rebel ond nid Marcsydd mono.
- Cyhoeddir 'Cymru Howard Marks' gan Y Lolfa.