- Y Sêr:; Katherine Heigl, Gerard Butler.
- Cyfarwyddo: Robert Luketic.
- Sgwennu: Nicole Eastman, Karen McCullagh Lutz, Kirsten Smith.
- Hyd: 101 munud
Rhyfel y rhywiau yn haeddu gwell na hyn
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Mae gen i broblem fawr gyda Katherine Heigl - seren rom-com ddiweddaraf haf 2009, The Ugly Truth.
Mae'n amlwg fod gan yr actores safonau, ac yn fodlon dweud ei dweud mewn cyfres o gyfweliadau cylchgrawn am y diffyg enbyd o rannau safonol i ferched yn Hollywood.
Yn edifer
Os gofiwch chi, dyma'r actores ddywedodd ei bod yn difaru'i henaid iddi gymryd rhan yn Knocked-Up - cynhyrchiad hynod lwyddiannus wnaeth sefydlu genre newydd y "bromantic comedy" - am i'r ffilm bortreadu merched fel cecrennod cwbl di-hiwmor.
Yna, yn gynharach eleni, gwrthododd Heigl dderbyn enwebiad Emmy yng nghategori'r Actores Orau am ei gwaith ar y gyfres deledu boblogaidd Grey's Anatomy am nad oedd y sgriptiau yn rhai digon da, meddai!
Mae'r math yma o onestrwydd cyhoeddus yn anghyffredin tu hwnt ac un ai'n arwydd o chwaeth a dewrder dihafal neu o ffolineb llwyr.
Ar sail ei phenderfyniad i dderbyn nid yn unig y brif ran yn The Ugly Truth ond hefyd ei chynhyrchu alla i ond dod i'r casgliad ei bod yn honco bost!
Y stori
Cyn imi gael harten wrth barhau i fytheirio gwell rhoi crynodeb o'r ffilm dan sylw.
Mae Abby Richter (Katherine Heigl) yn gynhyrchydd ar raglen deledu foreol yn ninas Sacramento lle mae'n llwyddo bob dydd i oresgyn problemau o bob math - egos ei chyflwynwyr, a phwysau oddi fry am ffigurau gwylio gwell - ond yn dychwelyd fin nos i'w chartref unig at ei chath, ei llyfrau self-help, a'i bag gwau.
Druan fach â hi!
Mae'r ferch drawiadol a deallus hon dan bwysau cymdeithasol i ffeindio'r Un ac yn amlwg mor niwrotig, heb ronyn o hunan weledigaeth yn perthyn iddi, nad yw hi'n deall bod datguddio rhestr o gwestiynau wedi'u paratoi o flaen llaw er mwyn medru cyfathrebu â'i dêt am y noson yn golygu dychwelyd yn waglaw i'w chartre unig, at ei chath, y llyfrau self-help, a'i bag gwau. O diar, diar, mi. Sut ar wyneb daear mae datrys y sefyllfa enbydus hon?
Wel, rhowch gymeradwyaeth wresog i Mike Chadway, cyflwynydd y rhaglen deledu hwyr-y-nos The Ugly Truth, sy'n rhannu'r gwir plaen am sut mae bachu dyn, a llwyddo i gadw ei ddiddordeb parhaol.
Diolch yn bennaf i'w arddull gignoeth o rannu cynghorion, mae Mike yn ennill slot ar y rhaglen foreol ac yn llwyddo i ennyn atgasedd ei gynhyrchydd newydd am wrth-ddweud popeth sy'n daer iddi.
Diolch i synnwyr sgi-wiff Hollywood, daw'r ddau yma i gyfaddawd yn go gyflym; os llwydda Abby i ddenu sylw'i chymydog golygus wrth ddilyn y cynghorion o oes yr arth a'r blaidd, fe gytuna Mike i ddychwelyd i'w ogof hwyr-y-nos. Tybed beth fydd canlyniad yr arbrawf anobeithiol?
Diweddglo anochel
Nawr cyn i mi'ch siomi chi'n llwyr wrth ddatgelu diweddglo anochel y join-the-dots-fest dan sylw, fe hoffwn i bwysleisio bod fflachiadau digon llachar i'w canfod yn The Ugly Truth.
Mae iddi elfennau cwyrci, os nad cwbl wreiddiol, fel perfformiadau John Michael Higgins (For Your Consideration) a Cheryl Hines (Curb Your Enthusiasm) fel Richard a Judy y rhaglen deledu foreol.
Mae hefyd yn braf gweld yr actor o'r Alban, Gerard Butler, yn mynd amdani go iawn fel y cynghorydd o Oes y Cerrig, ac yn chwarae'r "Gêm" gyda gwên lydan.
Yr hyn sydd yn drueni yw bod rhaid cyflwyno'i nai wyth oed i sicrhau aelodau apoplectig y gynulleidfa fod na Beta-Boy o fewn yr Alpha-Male.
Eiliadau doniolaf
A serch popeth, dydy Katherine Heigl ddim yn gwbl annioddefol fel y newyddiadurwraig niwrotig- yn wir, mae hi'n amlwg ar ei gorau pan yn cael hwyl am ben ei chymeriad ystrydebol - ond piti mawr i'r ffilm ddwyn eiliadau doniolaf When Harry Met Sally am yr eilfen o slapstic, sydd yma'n ymylu ar smyt.
Yr hyn sydd fwyaf siomedig am y ffilm hon yw pa mor fisoginistaidd yw hi a hynny dan gochl "hiwmor benywaidd blaengar".
Does na ddim byd clyfar gadael i'r ferch regi mwy na'r dyn ac mae'n ofid mawr nodi mai tair merch sydd yn gyfrifol am y sgript.
Mae fel petai'r tair yn nodi llwyddiant ysgubol brom-coms fel Knocked-Up a The Hangover - sydd, yn eu hanfod, yn ffilmiau syml sy'n cynnwys gwirioneddau brawdgarol - a cheisio'u croesbeillio â fformiwla wirioneddol wenwynig He's Just Not That Into You.
Yn fy marn i, oni bai bod y sgript yn dangos parch at y ddau gymeriad, does dim pwrpas ceisio ail sgwennu rheolau fformiwla gyfarwydd y "Battle of the Sexes".
Efallai'n wir, fod dynion o'r blaned Mawrth - a merched o Wener - ond yn sylfaenol, mae cynulleidfaoedd sinema â'u traed yn sownd ar y ddaear, a'r gwir plaen yw ein bod yn haeddu llawer gwell ffilm na The Ugly Truth.