Â鶹Éç

Tron: Legacy

Rhan o boster y ffilm

21 Rhagfyr 2010

PGTair seren allan o bump

  • Y Sêr: Garrett Hedlund, Jeff Bridges, Olivia Wilde, Michael Sheen.
  • Cyfarwyddo: Joseph Kosinski.
  • Sgrifennu: Adam Horowitz ac Edward Kitsis.
  • Hyd: 127 munud

Sheen yn dangos sut mae gwneud

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Beth yw pizzazz yn Gymraeg, dwedwch? Cynnwrf? Bywiogrwydd? Beth bynnag fo'r term , y Cymro Michael Sheen ydy unig aelod o gast Tron: Legacy i gyfrannu gwefr i'r ddameg ddigidol hynod ddiflas hon.

Serch ei chyllideb anferthol ac addewidion o effeithiau arbennig nas gwelwyd erioed o'r blaen mae'r dilyniant i ffilm a oedd ar flaen y gad ym 1982 yn sobor o hen ffasiwn ac yn cywasgu elfennau gorau rhai o glasuron cyfoes y sinema, gan gynnwys Star Wars, The Matrix a Blade Runner.

O weld y ffilm gynta'n ddiweddar , rhaid dweud fod y Tron wreiddiol wedi dyddio'n rhyfeddol o dda, diolch i effeithiau lo-fi sy'n dal yn drawiadol.

Ynddi, chwaraeodd Jeff Bridges hacker o'r enw Kevin Flynn, oedd mor benderfynol o balu i berfeddion Encom - y raglen gyfrifiadurol yr oedd yn gyfrifol am ei chreu ond a gafodd ei dwyn gan y CEO newydd, Ed Dillinger - nes iddo gael ei sugno i mewn i'r system a dod ynl seren ei gemau cyfrifiadurol ei hun, cyn brwydro ar y cyd â'r anarchydd, Tron, yn erbyn Brawd Mawr y rhwydwaith i gael dychwelyd adre.

Ar ddechrau'r ffilm newydd, sefydlir bod Flynn wedi dychwelyd adre i fod yn gadeirydd Encom ac, erbyn 1989, mae'n dad i fachgen bach o'r enw Sam ac wrthi'n datblygu rhwydweithiau newydd.

Ond wedyn daw'r cyhoeddiad ei fod wedi diflannu a does gan neb syniad beth ddigwyddodd iddo.

Galw am help

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Sam Flynn (Garrett Hedlund) yn ddyn ifanc sydd ar goll yn llwyr heb ronyn o ddiddordeb yng ngweithgareddau'r cwmni â etifeddodd nes i gydweithiwr i'w dad ddod ato i ddweud ei fod wedi derbyn neges gan Flynn yn gofyn am help.

Ac yntau'n ysu i ddarganfod ei dad, does gan Sam ddim dewis ond cael ei rwydo gan y rhithfyd i sicrhau aduniad anghonfensiynol.

Mae'r hyn sy'n dilyn mor debyg i batrwm y ffilm gyntaf fel bod rhaid gofyn pam ar wyneb y ddaear wnaeth y cynhyrchwyr feddwl bod angen dilyniant o gwbl.

Profais yr un rhwystredigaeth yn union gyda Wall Street; Money Never Sleeps yn ddiweddar - diweddariad dienaid arall o'r Wythdegau sy'n dibynnu ar gimic gyffelyb i ddenu'r tyrfaoedd cyn eu diflasu'n llwyr â jargon diystyr oedd yn gwbl absennol yn y gwreiddiol.

I fod yn deg â Tron mae ynddi elfennau digon difyr, gan gynnwys cerddoriaeth drydanol Daft Punk a phresenoldeb hoffus "Bad Blake" ei hun, Jeff Bridges - yma'n chwarae dau gymeriad; y Kevin Flynn oedrannus sydd bellach yn feistr Zen barfog ac yn groesbeilliad o'r Dude ac Obi-Wan Kenobi, a'i »å´Ç±è±è±ô±ð²µÃ¤²Ô²µ±ð°ù, Clu a greodd pan oedd yn iau ac sy'n benderfynol o ehangu ei ymerodraeth unbenaethol i'r byd go iawn.

Cynllunio trawiadol

Ceir hefyd gynllunio celfyddydol trawiadol iawn mewn mannau gan gynnwys cuddfan überchwaethus Flynn sy'n rhagori gryn dipyn ar Batcave Bruce Wayne, diolch i ddodrefn gan Philippe Starck, Charles Eames a Mies van der Rohe.

Ond mae'n dipyn o beth i gadair ddrudfawr ddenu mwy o sylw na'r "seren" honedig ei hun, Garrett Hedlund. Druan bach, mae ganddo bopeth o'i blaid; ieuenctid, cyhyrau a phâr hyfryd o lygaid gleision - ond dim owns o garisma, sy'n golygu nad oes gan y cymeriad "Sam Flynn" obaith mwnci canfod lle yn oriel yr anfarwolion gwyddonias gyda Neo, Deckard a Luke Skywalker yn gwmni iddo.

Rhy chydig o Sheen

Mae'n drueni hefyd na sylweddolwyd mewn pryd mai Michael Sheen sy'n cipio'r ffilm dan drwyn yr hen Garrett, a hynny mewn golygfa sy'n para llai na phum munud.

Byddai wedi bod yn braf iawn pe bai'r sgript wedi cyflwyno Castor - arian byw o gymeriad, sy'n rheolwr clwb nos dylanwadol a chanddo gysylltiadau defnyddiol - yn gynt o lawer yn y ffilm ddiflas hon, a rhoi tipyn mwy iddo'i wneud.

Yn ogystal â rhagori mewn cynyrchiadau cwyrci ac annibynnol mae'r "actor cymeriad" o Bort Talbot yn prysur ddatblygu fel y dyn i ddod â bach o sglein i'r cerbydau mwyaf uchelgeisiol.

Efallai na chlywn ni'r enw Garrett Hedlund fyth eto ond mae pawb bellach yn gyfarwydd â Mr Sheen!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.