Â鶹Éç

The Town

Golygfa o'r ffilm

04 Hydref 2010

15Pedair seren allan o bump

  • Y Sêr: Ben Affleck, Rebecca Hall, Jon Hamm, Chris Cooper, Pete Postlethwaite a Jeremy Renner.
  • Cyfarwyddo: Ben Affleck.
  • Sgrifennu: Addasiad sgript Ben Affleck, Peter Craig ac Aaron Stockard o'r nofel Prince of Thieves gan Chuck Hogan.
  • Hyd: 125 munud

Boston Ben Affleck

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Fuoch chi 'rioed yn Boston? Mae'n ddinas wych sy'n fy atgoffa i gryn dipyn o Gaerdydd. Efallai nad ydy hi mor fflash â'r Metropolis cyfagos, Efrog Newydd, ond mae hi'n llawn parciau a phrifysgolion a stadiwm chwaraeon canolog sy'n denu cefnogwyr angerddol tîm pêl fâs y Red Socks.

Ac fel nifer o drigolion Caerdydd, mae gan y Bostonians acen drawiadol sy'n pwysleisio 'a' go gras sy'n deillio o ddylanwad mewnfudwyr Gwyddelig i borthladd y ddinas dros ganrif yn ôl.

Un o feibion balchaf 'Bean Town' yw Ben Affleck ac er gwaethaf slymp go hegar ar droad y ganrif - pan arweiniodd ei berthynas â J-Lo ef i serennu mewn tyrcwn truenus fel Gigli a Jersey Girl - mae ei lwyddiannau mwyaf yn deillio o'i gariad angerddol at ddinas ei fagwraeth.

Ennill Oscar

Os y cofiwch, enillodd Affleck a'i ffrind penna Matt Damon Oscar yr un yn gynnar iawn yn eu gyrfaoedd Hollywood am gyd-sgwennu sgript Good Will Hunting, am athrylith mathemateg ym Mhrifysgol Harvard ym maestref gyfagos Cambridge.

Wedyn, y llynedd, derbyniodd glod aruthrol am gyfarwyddo'i frawd, Casey, mewn addasiad rhagorol o nofel afaelgar gan yr awdur o Boston, Dennis Lehane, Gone, Baby, Gone.

Eleni, mae Affleck yn cyfarwyddo'i hun a nifer o actorion amlwg eraill mewn addasiad o'r nofel Prince of Thieves gan Chuck Hogan sy'n dilyn criw o ladron o ardal Charleston y ddinas.

Ac os ydych chi - fel fi- yn gwirioni ar ffilmiau gangster modern, fel teyrnged Scorsese i isfyd Gwyddelig Boston yn The Departed, fe wnewch chi ddwli ar The Town.

'Heist' mewn banc

Ar ddechrau'r ffilm, cawn ein hyrddio i ganol heist mewn banc yn Boston dan arweiniad lleidr profiadol, Doug MacRay.

Mae ei griw clos wedi hen arfer â'r ddrama ond, yn naturiol, mae'r gweithwyr ofnus yn amaturiaid yn y gêm hon, a diolch i banics blêr , caiff rheolwraig bert, Claire Keesey (Rebecca Hall), ei herwgipio a'i gadael ar lannau Afon Charles, yn fyw ac yn iach ond wedi'i dychryn i'r byw.

Rai dyddiau'n ddiweddarach, i geisio gwneud iawn am y blerwch, ceisia Doug gysylltu â hi er mwyn sicrhau na fydd trafferth bellach.

Yn ddiarwybod i Claire, mae'r dieithryn tal, tywyll a thrawiadol mae hi'n ei gyfarfod yn ei golchdy lleol yn meddu ar gyfrinach sy'n well ganddo'i chadw unwaith iddo syrthio amdani ac, o hynny mlaen, daw'n amlwg fod ganddo reswm arbennig i adael yr isfyd treisgar a mynd amdani fel dinesydd dilychwin.

Ond nid pawb sydd am ei weld yn newid er gwell. Yn wir, cawn weld sut y cafodd cyn chwaraewr hoci iâ fel Doug ei sugno i geubwll o gyffuriau a thor-cyfraith, diolch i fam afradlon, tad truenus a milltir sgwâr sy'n ymffrostio'r nifer fwyaf o ladron banc yn America.

Nac anghofier, wrth gwrs, i bob lleidr llwyddiannus mae heliwr o heddwas ac mae Jon Hamm (Don Draper yn Mad Men) yn cael cryn dipyn o hwyl arni fel swyddog FBI sydd wedi cael llond bol o'r "Irish Omerta" ac sy'n benderfynol o sicrhau dedfryd hirfaith i griw MacRay.

Yn gampus

Yn sicr, mae'r ffilm hon yn debyg iawn mewn mannau i'r clasur cyfoes Heat gan Michael Mann - gydag Affleck yn portreadu croesbeilliad o gymeriadau Robert De Niro a Val Kilmer yn honno.

Ond nid drwg o beth mo hynny gan fod y cyfarwyddo, y sgript a'r perfformiadau yn gampus gan actorion cynorthwyol fel Rebecca Hall, Pete Postlethwaite, Chris Cooper a Jeremy Renner (The Hurt Locker) yn dod â ffresni sylweddol i stori gyfarwydd - ac mae'r lleoliad, a'r acenion, yn sicr yn ychwanegu cryn dipyn at gymeriad y ffilm hon.

Fel yn Gone, Baby Gone y llynedd, mae Affleck y cyfarwyddwr yn llwyddo i gynnal tensiwn trwy gydol y ffilm ac fel actor yn ein hatgoffa bod talent aruthrol yn llechu y tu hwnt i'r arwyneb atyniadol.

Ac i'r rheini ohonoch sy'n hoffi dôs o ramant gyda'ch antur, y newyddion da yw bod y wefr drydanol hollbwysig yn hollbresennol rhwng Doug MacRay a'i townie annwyl Claire Keesey.

Rhywbeth o Gymru

Mae'n ddifyr gweld dinas fel Boston yn chwarae rhan mor amlwg mewn ffilm fel hon. Yn wir, ers troad y mileniwm, cafodd Boston ei phortreadu fel canolbwynt sinematig i bob math o gnafon carismatig ac fe fyddai'n wych gweld dinas neu dre yng Nghymru yn cael ei gweld mewn stori gangster dda, yn enwedig ers i Frawdoliaeth Y Pris chwythu'i phlwc.

Neu, yn well byth, beth am biopic o gangster Cymreig go iawn - Llewelyn Morris Humphries, neu Murray 'The Hump'- aelod triw o griw Al Capone, gafodd ei fagu yn Chicago gan rieni o Garno?

Afraid dweud fod ffilm fel The Town yn cynnwys ieithwedd gwrs a llond trol o drais, felly os ydych chi o ran natur braidd yn fregus, gwell fyddai i chi hepgor y ffilm hon.

Ond os am leoliad lliwgar, a stori dda, chewch chi mo'ch siomi wrth bicio i'r Dre.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.