- Y Sêr: Benedict Cummerbatch, Tom Burke, JJ Feild, Adam Robertson a Nia Roberts.
- Cyfarwyddo: Hattie Dalton.
- Sgrifennu: Vaughan Sivell.
- Hyd: 92 munud
Ffilm dra Seisnig ar draeth Cymreig
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Amseru yw popeth medden nhw ac yn ffodus iawn i dîm cynhyrchu Third Star profodd seren y ffilm fechan hon am aduniad ffrindie ar un o draethau harddaf Cymru lwyddiant aruthrol pan ddarlledwyd y gyfres newydd Sherlock Holmes dros yr Haf.
Disgleiriodd Benedict Cummerbatch fel y ditectif anghonfensiynol a chanddo groen lliw llaeth a llygaid glas golau, a gwneir defnydd pellach o'i edrychiad arallfydol yma wrth iddo chwarae James, dyn ifanc sy'n marw o ganser ond sy'n dymuno treulio un gwyliau ola' gyda'i ffrindiau gorau ar draeth Barafundle yn Ne Sir Benfro.
Wrth i'r pedwar ffrind bore oes aduno ar gyfer y wibdaith hon , daw'n amlwg fod ganddynt oll eu cyfrinachau a'u rhesymau am esgeuluso'u cyfeillgarwch, a bob yn dipyn - rhwng y tynnu coes a'r rhannu gofidiau - datgelir gwirioneddau a gelyniaethu, nes bod rhaid wynebu un gorchwyl olaf cyn ei throi hi am adre.
Stori gyfarwydd
Stori go gyfarwydd sy'n sail i'r cyfan ond mae'r penderfyniad i'w gosod yn ganolbwynt ym mywydau criw o ddynion yn eu hugeiniau hwyr - a'r rheiny'n ddynion dosbarth canol deallus - yn ei gwneud hi'n ffilm wahanol i'r cynyrchiadau cyfnod arferol, a'r dehongliadau o "fywyd go iawn" ar ystadau cyngor Lloegr, ac yn rhywbeth yr oedd y sgwennwr gynhyrchydd Vaughan Sivell, sy'n wreddiol o fro Barafundle, yn "gwrthod ymddiheuro" am ei wneud.
Yn wir, rhaid pwyselisio mai ffilm Seisnig iawn ydy Third Star yn y bôn.
Does dim un o'r prif actorion yn Gymry, ac eithrio Nia Roberts mewn rhan fechan iawn fel chwaer James.
Yn sicr, ni chlywir acen Gymreig heb sôn am weld yr un arwydd o'r iaith Gymraeg, sy'n adlewyrchiad o'r rhanbarth ddaearyddol sydd i'w chanfod i'r de o Landsker Sir Benfro, sef y "Little England beyond Wales".
Yn seren
Wedi dweud hyn oll, mae Cymru, a'i harfordir de orllewinol i'w gweld ym mhob rhan o'r ffilm hon ac, yn wahanol i ffilm erchyll fel Abraham's Point a wastraffodd y rhan fwyaf o'i hamser ger yr M4 cyn treulio'i phum munud olaf ar draeth epig Rhosili, does dim amheuaeth mai Bae Barafundle yw seren Third Star.
Wrth i'r ffrindiau ffeindio'u ffordd at y traeth gwyllt, maen nhw'n colli pob synnwyr o amser a chonfensiynau cymdeithasol ac fe grëir delwedd o fydysawd sydd yn baralel i'w bywydau bob dydd, wrth iddynt daro ar ambell gymeriad go swreal, gan gynnwys diafol o fachgen ag adenydd angel, a thwriwr traethau athronyddol.
Mae cyffyrddiadau bychain fel hyn, yn ogystal â gwaith camera a goleuo trawiadol, a thrac sain dymunol, yn helpu i wneud Third Star yn ffilm well na'r arfer o blith y cynyrchiadau gaiff eu hariannu gan Gronfa ED Creadigol Cymru, a derbyniodd glod mawr wrth gau Gŵyl Ffilm Caeredin yn gynharach eleni.
Dim cystal ag mae hi'n feddwl
Ond dyw'r ffilm ddim cweit mor arbennig ag y mae hi'n dychmygu ei bod ac ar adegau mae hi'n gwyro i gyfeiriad TV Movie gor sentimental. Ei chryfder yw ei phortread credadwy o gyfeillgarwch rhwng dynion ifanc sy'n ddefaid colledig.
Mae hi hefyd, yn amlwg, yn cynrychioli llythyr serch at fro genedigol y sgwennwr Vaughan Sivell ac mae'n wych gweld rhan wahanol o Gymru yn serennu ar sgrin.
Pan welais ei phremier Cymreig yn nghanolfan Chapter Caerdydd, cafwyd ymateb da iawn iddi a chymeradwyaeth wresog. Y gobaith yw ei rhyddhau hi'n genedlaethol cyn diwedd y flwyddyn.