麻豆社

Ioan Gruffudd yn 'The Kid'

Ioan Gruffudd

01 Gorffennaf 2010

Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Rupert Friend, Natasha McElhone, Bernard Hill, James Fox a Ioan Gruffudd.
  • Cyfarwyddo: Nick Moran.
  • Sgrifennu: Sgript Kevin Lewis, yn seiliedig ar ei hunangofiant, The Kid.
  • Hyd: 100 munud

Mwynhau hagrwch a chynni

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Dros y ddegawd diwethaf, gwelwyd twf sylweddol ym maes llenyddol y cofiant cythryblus neu'r Misery-Memoir, wrth i gyn ddioddefwyr ganfod therapi a llonyddwch trwy gyhoeddi eu hanes.

Dyna'n union wnaeth Kevin Lewis, dyn ifanc o Croydon yn 2004 ar 么l dychwelyd o'r dibyn y canfu ei hun yn sefyll wrtho yn dilyn dros ddegawd o ddioddefaint.

Mae'r ffilm, The Kid, yn addasiad o'r cofiant hwnnw ac yn gynhyrchiad sy'n aflonyddu o'r cychwyn cynta.

Cawn ein cyflwyno i arwr y stori, Kevin (Rupert Friend), pan gaiff ei daflu'n ddiseremoni o gefn lori a'i adael yn bentwr o blastars a gwaed o flaen t欧 cownsil bl锚r.

Rhywsut, llwydda i lusgo'i hun i'w stafell wely ac estyn am hen Walkman a chlustffonau a guddiwyd yn ei fatres ffiaidd a chwarae corws y Lachrymosa wrth iddo olchi gyda photelaid o wisgi rhad ddwsinau o dabledi lawr ei gorn gwddw.

I'r Saithdegau

Yn sydyn, cawn ein cludo n么l rhyw ddeng mlynedd i'r Saithdegau lle mae'r un bachgen yn eistedd ar yr un gwely, wedi'i gloi yn ei ystafell, ac yn tynnu lluniau lloerig ar y waliau tra bo'i frawd a'i ddwy chwaer yn chwarae yn yr heulwen tu allan.

Down i ddeall yn fuan fod ei anghenfil o fam, Gloria (Natasha McElhone), yn ei drin fel anifail - yn ei geryddu a'i guro'n ddyddiol am y pethau lleiaf.

Mae ei dad, wedyn, yn alcoholig heb waith ac yn rhy wan i'w amddiffyn.

Mae yntau hefyd yn troi ar Kevin dan orfodaeth ei wraig wallgo.

Trwy drugaredd, daw'r gwasanaethau cymdeithasol i wybod a'i roi mewn cartre plant dan ofal yr Uncle David caredig (Bernard Hill) lle caiff Kevin ychydig fisoedd o heddwch a dysgu bwyta 芒 chyllell a fforc a mwynhau parti pen blwydd am y tro cynta erioed.

Oherwydd gwendidau yng nghyfundrefn y cyfnod llwydda ei fam i'w gael yn 么l adref a pharhau 芒'r artaith am flynyddoedd eto nes i'w athro Saesneg - Sgowsar sylwgar o'r enw Colin Smith (Ioan Gruffudd) - fynnu ei fod yn cael mynd at deulu maeth.

Ar i fyny

O hynny mlaen, ymddengys bod bywyd Kevin ar i fyny, diolch i arweiniad ei Dad maeth, Alan (James Fox), sy'n ei hyfforddi i fod yn baffiwr a'i gyflwyno i gymeriadau a chyfleoedd yn Llundain ar ddechrau'r Wythdegau.

Ond pan gaiff Alan ei daro gan angau, daw Kevin unwaith eto'n ddibynnol ar gymeriadau amheus sy'n manteisio arno ac yn elwa ar ei anwybodaeth ariannol a'i dalent fel bocsiwr.

Mae'r ffilm yn ein harwain i ofyn, fwy nag unwaith, am ba hyd y gall bachgen mor addfwyn a bregus ddiodde'r fath anlwc, ac artaith?

Ar brydiau, mae The Kid yn gynhyrchiad anodd iawn ei wylio. Yn wir, cyn y dangosiad yn ystod G诺yl Ffilm Ryngwladol Caeredin, rhybuddiodd un o'r actorion y gynulleidfa i ddisgwyl ffilm dywyll sy'n troi'n dywyllach.

Ond pwysleisiwyd hefyd y dylid aros tan y diwedd er mwyn gweld mai cyfiawnder a gobaith yw'r brif neges.

Efallai i'r disgrifiadau uchod eich dieithrio'n llwyr rhag mynd i weld ffasiwn ffilm ond y gwir ydy, serch ei thywyllwch dirfodaethol mae yna ysgafnder a goleuni hefyd - diolch yn bennaf i berfformiadau tyner a hynod hoffus gan y tri actor sy'n chwarae rhan Kevin ar adegau gwahanol o'i fywyd; William Finn Miller, Augustus Prew a Rupert Friend.

Yn ogystal, mae perfformiad Natasha McElhone fel y fam, er yn ddychrynllyd, yn gwbl drydanol. Prin y gellid adnabod yr actores brydferth dan yr haenau hagr ond, serch hynny, mae'r ffilm yn gwrthod ei phortreadu fel gwrach yn unig a phwysleisir iddi hithau hefyd brofi magwraeth hunllefus fel rhan o system "ofal" y cyfnod.

Dangos cymeriad

A chwarae teg i'r hen Ioan - mewn rhan fechan, eto fyth, mae'n dangos mwy o gymeriad nag a welwyd ganddo ers tro byd, gan hepgor yr RP rhwystredig, ac ymarfer acen Lerpwl hynod gredadwy sy'n cyfrannu at berfformiad hyderus ond hamddenol, fel athro ysbrydoledig sy'n ysbrydoliaeth pur i'r cyw lenor.

Mae The Kid yn ffilm sydd yn gwisgo cymeriad ei chyfnod - ddiwedd y Saithdegau a dechrau'r Wythdegau - o ddifrif ac er ei chyllid cymharol isel mae pob manylyn yn ei le o ran y gerddoriaeth, y dillad a'r awyrgylch gyffredinol.

Mae hi hefyd yn ffilm annisgwyl o wleidyddol wrth iddi danlinellu cysylltiad uniongyrchol rhwng dioddefaint parhaol Kevin a gweledigaeth wrth-gymdeithasol llywodraeth Geidwadol y cyfnod.

Rwy'n ei chael yn rhyfedd dweud imi fwynhau'r fath ffilm ond diolch yn bennaf i gyfarwyddo cadarn Nick Moran a'r neges bwerus, mae The Kid yn debyg o ddenu cynulleidfa sylweddol pan gaiff ei rhyddhau yn yr hydref.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.