Â鶹Éç

Tamara Drew

Helynt mewn canolfan sgrifennu

13 Medi 2010

15Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Gemma Arterton, Tamsin Greig; Roger Allam, Dominic Cooper, Luke Evans;.
  • Cyfarwyddo: Stephen Frears.
  • Sgrifennu: Addasiad Moira Buffini o addasiad stribed lluniau Posy Simmonds o nofel Thomas Hardy, Far From the Madding Crowd.
  • Hyd: 130 munud

fgh

Adolygiad Glyn Evans

Fis Mai eleni, ac yntau ond newydd ddychwelyd o Wyl Ffilmiau Cannes lle'r aeth y ffilm hon i lawr yn dda iawn yn ôl y sôn, yr oedd y Cymro Luke Evans yn cael ei glodfori fel un arall o'n hactorion oedd ar fin dod !"yn un o wybnebau mwyaf cyfarwydd Hollywood" .

Ei enw yn cael di grybwyll ar yr un gwynt â Matthew Rhys, Ioan Gruffudd a hyd yn oed Anthony Hopkins ei arwr mawr meddai ac actor yr hoffai actio gydag ef rhyw ddiwrnod.

Cymerodd 'llwyddiant dros nos' ddeng mlynedd i amlygu ei hun i'r actor o Aberbargoed a ymddangosodd yn 21 oed ar Crossroads yn llawn uchelgais i symud ymlaen i ganu yn y West End .

Rhannau ar y llwyfan yn Llundain a ddaeth ag ef i sylw cyfarwywyr ffilm a sicrhau iddo rannau maes o law yn Clash of the Titans, Sex & Drugs & Rock & Roll, Robin Hood ac yn awr Tamara Drewe.

Yn llanc prydweddol, sy'n amlwg yn elwa ar yr amser y mae'n ei dreulio yn y gym, sy'n chwarae rhan yr handi man - chwedl Ifas y tryc - Andy Cobb sydd mewn cariad â Tamara .

Cymeriad a ddisgrifiwyd ganddo mewn un cyfweliad fel "really nice guy" a dyn delfrydol. Rhywbeth a fyddai wedi bod yn siom i sawl actor, siŵr o fod, gan nad ydi'r cymeriadau hynny fel rheol ddim yn rhyw gofiadwy iawn.

Ac felly Cobb, gwaetha'r modd - ond o leiaf wnaeth ei chwarae ddim drwg i yrfa Luke a fydd i'w weld cyn bo hir yn chwarae rhan Vivaldi gyferbyn â Jessica Biel.

Luke Evans

Mae hefyd yn ymuno ag Orlando Bloom, Matthew Macfayden, Christopher Waltx a James Corden yn The Three Musketeers.

Bu rhywfaint o edrych ymlaen at Tamara Drewe a ymddangosopdd yn wreiddiol fel stori stribed gartŵn yn y Guardian pan Posy Simmonds a ailwisgodd ar nofel Thomas Hardy, Far From the Madding Crowd, mewn gwisg fodern a'i lleoli mewn encil ysgrifenwyr yng nghefn gwlad hyfryd Dorset.

Yn ferch o'r ardal mae Tamara (Gemma Arterton) yn dychwelyd gartref i werthu'r hen gartref yn dilyn marwolaeth ei mam gan greu pob math o gynnwrf a hithau, a adawodd yn ferch eithaf diolwg gyda thrwyn oedd yn broblem, yn awr yn golofnydd hynod brydweddol ar yr Independent a'i thrwyn oedd gymaint o hunllef wedi ei ail-wneud.

Ond er mai enw Tamara sydd wrth y ffilm yr actores Tamsin Greig sydd biau'r ffilm hon mewn gwirionedd. Hi yw Beth, gwraig nofelydd poblogaidd hynod hunandybus a hynod anffyddlon i'w wraig gyda merched ieuanc - fel Tamara .

Cymeriad seimllyd, achafi, sy'n cael; ei chwarae gydag afiaith gan Roger Allam, perfformiad mawr arall y ffilm.

Mae ei gymeriad caracatwraidd yn wrthgyferbyniad difyr ac effeithiol i gymeriad aml-haenog Tamsin Greig .

Yn sicr, ar gyfer y rhai sy'n gyfarwydd â nofel Hardy does dim diben mynd i fanylion am y stori ac i'r rhai fydd yn dod at y stori o'r newydd ni fyddai gor fanylu ond yn amharu ar eu mwyniant.

Y geiriau 'comedi' a 'dychan' sy'n cael eu defnyddio i'w defnyddio ond y mae elfennau dwysach hefyd sy'n cyrraedd uchafbwynt eithriadol o dreisiol - ond mewn rhyw ddull 'ffwrdd-a-hi' nad yw'n tarro deuddeg i'm meddwl i.

"Oedd hwnna'n dda," oedd un cwestiwn wedi gweld a hynny'n tanlinellu'r ffaith bod rhywbeth o'i le er gwaethaf stori digon gafaelgar a#'r rhywbeth hwnnw i'w wneud a holl naws ac awyrgylch y cynhyrchiad gan awgrymu tybed a oedd y cyfarwyddwr yn ansicr yn ei feddwl sut ffilm yn union oedd o am i hon fod.

Yn gyffredinol, fodd bynnag, amrywio o'r ffafriol i'r canmoliaethus wnaeth sylwadau'r beirniaid er gwaethaf ambell i lef yn llefain mewn anialwch a hynny'n hwb bellach i yrfa ffrwydrol Gemma Arterton!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.