Â鶹Éç

The September Issue

 Grace Coddington ac  Anna Wintour

05 Hydref 2009

12APum seren

  • Y Sêr: Anna Wintour, Grace Coddington, Siena Miller, Mario Testino, Andre Leon Talley.
  • Cyfarwyddo: R.J. Cutler.
  • Hyd: 86 munud

Y Gymraes yn nheyrnas Vogue

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Pur anaml fydda i'n rhoi sylw i DVD newydd, gan fod y rhan fwyaf o ffilmiau gwerth chweil yn cyrraedd y sinema yn gyntaf.

Yn achos The September Issue, fodd bynnag, ni chafodd y ffilm ddogfen ei rhyddhau o gwbl yng Nghymru, ond fis yn unig ers ei ±è³ó°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð mawreddog yn Efrog Newydd, mae hi ar gael i'w phrynu a'i gwylio gartref.

Mae hi'n un o'r ffilmiau dogfen difyrraf i mi ei gweld eleni ac yn werth rhoi sylw iddi gan fod y cynhyrchiad - sy'n dilyn y paratoadau ar gyfer rhifyn Vogue mwya'r flwyddyn, dan arweiniad y golygydd Machiaveliaidd, Anna Wintour, yn ein cyflwyno i Gymraes ddiddorol iawn.

Tensiwn, brâd a chomedi!

Yn gyntaf oll, hoffwn bwysleisio nad ffilm i fashonistas yn unig yw hon. Mae The September Issue yn cystadlu â gweithiau gorau Shakespeare diolch i olygfeydd llawn tensiwn, brâd, comedi a ffars, oll wedi'u gosod o fewn muriau llys La Wintour.

Mae'r ffilm yn canolbwyntio'n bennaf ar y chwe mis arweiniodd at rifyn Medi 2007 o'r Vogue Americanaidd, a'r holl waith ynglŷn â hynny o fynychu wythnosau ffasiwn Efrog Newydd, Paris, Llundain a Milan, hyd at ddewis prif themâu tymor yr hydref, penodi cynllunwyr a ffotograffwyr i wireddu'r weledigaeth, a chanlyn yr hysbysebwyr hollbwysig, sy'n cyfrannu at faint anferthol y rhifyn blynyddol.

Cynrychiolir amrywiaeth o bersonoliaethau cryfion, sy'n cystadlu am sylw - a bendith - y golygydd, o gynllunydd profiadol fel Stefano Pilati (Yves Saint Laurent) i un cwbl dibrofiad fel Thakoon; y ffotograffwyr byd-enwog Mario Testino a Patrick Demarchelier, a'r is-olygydd dylanwadol Andre Leon Talley, cawr croenddu sydd wrth ei fodd gwisgo clogyn.

Wyneb y rhifyn

Cawn hefyd weld sut y caiff yr actores Siena Miller ei phenodi'n wyneb y rhifyn dan sylw, sefyllfa sy'n cynnig mewnwelediad ddiddorol i'r tensiynau byw sy'n bodoli ymhlith staff y cylchgrawn ynglŷn â phwyslias Wintour ar ddyrchafu selebs uwchlaw'r ffasiwn.

Yn wir, mae'r golygfeydd sydd yn cyfeirio at Miller ymhlith y rhai doniolaf - a'r creulonaf.

Mae'n wyrth, yn wir, iddi fynychu'r ±è°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð o gwbl ond dyna ni, mae unrhyw gyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd gwerthfawr yn y gêm hon.

O ran portread y cynhyrchiad o Anna Wintour, y cyngor gorau yw anghofio perfformiad ysgubol Meryl Streep fel Miranda Priestly yn The Devil Wears Prada (2006) - cymeriad a ysbrydolwyd gan olygydd Vogue ac a addaswyd o nofel Laura Weisberger yn seiliedig ar ei phrofiad yn cynorthwyo Wintour am flwyddyn.

Mae "Nuclear Wintour" ei hun yn gymeriad sydd hyd yn oed yn fwy dychrynllyd o oeraidd yn y cnawd ond yr hyn sydd yn ddiddorol yw bod y ffilm yn dangos pam fod angen meddwl busnes chwim a phenderfynol ar arweinydd diwydiant sydd yn cynhyrchu biliynau o ddoleri yn flynyddol.

Mae'n amlwg o'r ffilm fod ganddi ddylanwad pellgyrhaeddol ym mhob agwedd o'r diwydiant anferthol hwn a'i bod yn gweithio'n ddiflino i gynnal ei safonau uchel ei hun.

Yn ferch i gyn olygydd yr Evening Standard, Charles Wintour, daw'n glir ei bod yn cymryd ei chyfrifoldeb fel capten llong Vogue o ddifri ac yn ymwrthod yn llwyr â'r rhagfarn gyffredinol mai ffwlbri ffuantus yw ffasiwn yn y bôn.

O Ynys Môn

Wintour, heb os, sydd yn cynrychioli ymennydd y cynhyrchiad ond does dim dwywaith pwy sy'n cynrychioli calon y ffilm - Grace Coddington, sef prif gynllunydd y cylchgrawn.

Ac o Fae Trearddur, Sir Fôn y daw hi yn wreiddiol. Gadawodd Gymru am Lundain yn 18 oed yn y Chwedegau ar ôl ennill cystadleuaeth modelu gyda Vogue cyn i ddamwain car ei harwain i yrfa lwyddiannus y tu ôl i'r camerâu.

Cai'r Gymraes drawiadol ei phortreadu fel cyfuniad o fam i bawb a brwydwraig ffyrnig - yn enwedig pan gaiff ei gwaith celfydd ei diddymu'n ddidostur gan y Wintour wrachaidd.

Yn wir, rhwng y ddwy y mae tensiwn mwyaf diddorol y cynhyrchiad - y naill a'i bob llym a sbectolau haul hollbresennol a'r llall a'i chyrls coch yn fframio wyneb cwbl ddi-golur.

A chaiff eu cefndiroedd a'u gweledigaethau gwahanol eu cyfosod yn ddestlus gydol y ffilm.

Mae'n glir, fodd bynnag, bod parch mawr rhwng y ddwy diva ac eiliad mwyaf teimladwy'r ffilm, i mi yn sicr, oedd y golygydd galon-galed yn cyfeirio at Grace y Gymraes fel athrylith wrth ei gwaith.

Prawf, yn wir, fod y 'cynhesu bydeang' wedi cyrraedd swyddfeydd gaeafol Vogue!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.