Â鶹Éç

Resistance

Michael Sheen

28 Tachwedd 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o'r addasiad ffilm o nofel Owen Sheers, Resistance

PGPedair seren allan o bump

  • Y Sêr: Andrea Riseborough, Tom Wlaschiha, Sharon Morgan, Iwan Rheon a Michael Sheen .
  • Cyfarwyddo: Amit Gupta.
  • Sgrifennu: Addasiad Owen Sheers ac Amit Gupta o'r nofel gan Owen Sheers.
  • Hyd: 91 munud

Eiliadau bach ingol profiadau mawrion

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Yn 2007 cyhoeddodd Owen Sheers chwip o nofel gynta yn cynnig archwiliad o hanes amgen yr Ail Ryfel Byd pe bai'r Almaen wedi trechu'r Cynghreiriaid ar achlysur glaniad D-Day ym 1944.

Gyda Llundain dan warchae, a'r Almaenwyr wedi meddiannu rhannau sylweddol o Brydain, canolbwyntiodd Resistance ar effaith presenoldeb uned o filwyr Almaenig ar drigolion cymuned amaethyddol fechan Dyffryn Olchon, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn y de.

Yn dilyn derbyniad ffafriol tu hwnt i'r gyfrol, aeth Owen Sheers ati i addasu'i nofel rymus a hynod afaelgar hon ar gyfer y sgrîn fawr a diolch i gymorth ariannol gan Asiantaeth Ffilm Cymru, y cwmni dosbarthu o Munich, Square One, a chronfa MEDIA yn Ewrop, y mae'r ffilm orffenedig i'w gweld mewn sinemâu ledled y wlad - ac mae hi'n sicr yn un gwerth ei gweld.

Mae'r stori'n cychwyn gyda gwraig fferm ifanc, Sarah Lewis (Andrea Riseborough), yn deffro mewn dryswch un bore o ganfod nad yw Tom ei gŵr wrth ei hochor yn y gwely.

Wrth grwydro'r caeau yn gweiddi ei enw, darganfydda fod gŵr ei chymdoges Maggie Jones (Sharon Morgan) hefyd wedi diflannu ac ymhen dim daw yn amlwg bod gwŷr holl ferched y cwm wedi eu gadael, yn dawel ac yn ddi-rybudd.

Ond pam? Ac am ba hyd?

Byddin gudd

Pan ddaw uned o filwyr Almaenig i'r dyffryn ar orchwyl gyfrinachol, daw'r merched i ddeall bod cysylltiad rhwng hyn a diflaniad y dynion, a'u bod wedi ymuno â byddin gudd y gwrthsafiad Prydienig.

Serch realiti rhyfel, rhaid i'r merched fwrw mlaen â'r gwaith fferm a cheisio'u gorau i fyw o ddydd i ddydd dan lygaid barcud yr Almaenwyr, sydd â rheswm arbennig i fod yno.

Ond pan ddaw storom eira i lethu'r cwm, rhaid cydweithio â'r gelyn i fyw - a goroesi.

Y mae'r brif stori yn dilyn ymdrechion y Sarah styfnig i fwrw mlaen â'i bywyd a deffroad y Capten Wolfram Albrecht o drwmgwsg terfysg, wrth i'r dyffryn diarffordd brofi'n lle i'w enaid gael llonydd.

Yn naturiol, ar adeg mor amwys daw teimladau cymysg i chwarae'u rhan a chaiff pob un cymeriad ei herio gan ddryswch rhyfel a'u gorfodi i gynnal eu gwrthsafiad personol eu hunain.

Ac eithrio ychydig eiliadau ar ddechrau a diwedd y ffilm, ni chaiff y gynulleidfa weld dynion dewr y Gwrthsafiad na deall yn union beth yw eu ffawd - ond fe gawn fewnwelediad i'r mudiad cyfrin trwy gyfrwng y cymeriad Tommy Atkins (Michael Sheen), ysbïwr gyda'r gwasanaethau cudd, wrth iddo hyfforddi mab fferm lleol, George (Iwan Rheon), i fod o gymorth i'r guerillas gwledig hyn.

Deallwn hefyd oblygiadau'r fath sefyllfa wrth i Atkins bwysleisio canlyniadau enbyd gwrthsefyll - a chydweithio â'r gelyn.

Fel y nofel, mae'r ffilm yn cynnig myfyrdod dwys ar natur rhyfel a rhyddid yr unigolyn, sy'n golygu bod Resistance yn ffilm ryfel hynod o leddf a llonydd. Ac eithrio ambell ôl-fflachiad i faes y gad, does dim un olygfa yn dangos cyffro brwydro - y mae'r cynnwrf i gyd o dan yr wyneb a rhaid canmol pob elfen o'r cynhyrchiad tawel hwn am ddal sylw'r gwyliwr tan yr eiliad olaf un.

Yn gaboledig

Y mae'r actio gan bawb yn gaboledig ac er mai is gymeriad Michael Sheen sy'n debyg o ddenu nifer, y mae perfformiadau'r actorion llai cyfarwydd yn syfrdanol o dda.

Yn achos Andrea Riseborough, castiwyd actores sydd ar fin dod yn enwog iawn am ei rhan fel yr Americanes Wallis Simpson, yn W.E. gan Madonna ond sydd yn berffaith fel y Sarah dawedog a phenderfynol, sydd yn hudo Albrecht o'u cyfarfyddiad cyntaf.

Y mae Tom Wlaschiha hefyd yn darbwyllo'n llwyr fel yr Almaenwr deallus sy'n ailafael yn ei ddynoliaeth - ond tra'i fod yn gweld yn glir bod 'y byd a fu' ar ben am byth, mae'n ddall i'r gwir go iawn.

Llwydda'r actor i sicrhau fod y gynulleidfa yn uniaethu gymaint ag ef â gyda hanes trist George (a chwaraeir gan Iwan Rheon - Misfits, The Passion, Spring Awakening); y llanc o oed gwas a greddf gŵr, sy'n bennaf gyfrifol am darfu ar baradwys ffŵl Albrecht.

O ffilm â chyllideb isel, mae iddi safonau cynhyrchu uchel iawn ac mae'r cyfuniad o'r gerddoriaeth seml ond dirdynnol gan Mark Bradshaw, y cyfarwyddo celfyddydol gan Michael Fleischer a Rosanna Westwood a'r gwaith camera ysgubol gan John Pardue, yn golygu ei bod hi'n ffilm brydferth tu hwnt i'w gwylio, ac yn hysbyseb hyfryd i gornel o Gymru sy'n ddiarth iawn i nifer.

Mae hi hefyd yn ffilm bwyllog iawn sydd ag iddi rythm llawer mwy hamddenol nag arddull golygu cyflym y rhan fwyaf o ffilmiau cyfoes o Hollywood, ac mewn gwirionedd, mae hi gryn dipyn arafach na'r nofel wreiddiol a oedd - gyda'i natur 'be nesa?' - yn amhosib i'w rhoi o'r neilltu.

Sesiwn holi

Mewn sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Jon Gower yn dilyn dangosiad yn sinema Chapter, Caerdydd, dywedodd Owen Sheers iddo benderfynu peidio ag ailddarllen y nofel cyn mynd ati i sgwennu'r sgript er mwyn canfod calon y stori i'w chyfleu trwy gyfrwng hollol wahanol.

Yn anochel, felly, bu'n rhaid hepgor sawl is stori ar gyfer ffilm awr a hanner o hyd ond, ar y cyfan, mae'n addasiad cadarn sydd yn parchu'r stori wreiddiol, er yn gorffen ar nodyn fymryn yn wahanol a fydd yn siomi rhai ond yn plesio eraill.

Dywedodd Sheers hefyd iddo gael ei syfrdanu'n llwyr gan edrychiad y ffilm ar ei dangosiad cynta, nid yn unig am i sawl ffrâm ynddi efelychu arddull un o'i hoff artistiaid gwledig, Andrew Wyeth, ond am i'r cyfarwyddwr, Amit Gupta, fod yn ddigon eofn i ymddiried yn llwyr yn ei actorion ac yn is destun y stori - i adael i'r camera aros ar eu hwynebau- a'r tirlun - am gyfnodau anarferol o faith.

Mewn ffilm lle nad oes cymaint a hynny o eiriau, mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith ac yn gadael i'r gwyliwr brosesu trallod annaearol y cymeriadau, gan gynnwys un olygfa fechan wnaiff aros â mi am byth.

Os derbyniodd Sharon Morgan wobr BAFTA Cymru am ei dehongliad ysgubol o'r Martha gref ym Martha Jac a Sianco yn 2009, yna mae hi'n shoo-in am yr un wobr y flwyddyn nesa am ei phortread nid annhebyg o Maggie Jones, a'r olygfa syml ohoni mewn ffair geffylau yn dod i ddeall ffawd ei gŵr.

Mae ei hymateb ymarferol, ac yna mud - a gyflëir gyda'i chefn tuag atom - yn uchafbwynt grymus mewn ffilm llawn eiliadau bach ingol sy' ddim ofn datgelu pethau mawr bywyd.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.