Â鶹Éç

Night at The Museum; Battle of the Smithsonian

Rhan o boster y ffilm

PGTair  seren a hanner! a hanner

  • Y Sêr: Ben Stiller, Amy Adams, Owen Wilson, Steve Coogan, Hank Azria , Robin Williams, Christopher Guest, Ricky Gervais
  • Cyfarwyddo: Shawn Levy.
  • Sgwennu: Robert Ben Garant a Thomas Lennon.
  • Hyd: 105 munud

Dwli ar y dwli!

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffenaf 2009, caiff Cymru ei chynrhychioli yng Ngŵyl Bywyd Gwerin amgueddfa'r Smithsonian yn Washington DC.

Mae'r arlwy, sy'n cynnwys perfformiadau gan 130 o enwau cyfarwydd o fyd cerdd, llên a barddoniaeth - ynghyd â nifer o feysydd eraill- yn addo cyfres o ddigwyddiadau difyr tu hwnt ac, efallai, y byddai'n syniad i'r rhai sy'n cymryd rhan fynd i weld y ffilm hon gyntaf er mwyn ymgyfarwyddo ag amgueddfa fwya'r byd.

Yn wir, un ganolfan yn unig ydy Canolfan y Smithsonian dros Fywyd Gwerin a Threftadaeth Ddiwyllianol, lle caiff yr ŵyl honno ei chynnal; mae canolfannau eraill hefyd ar hyd y National Mall rhwng y Capitol a chofadail Washington gan gynnwys amgueddfeydd hanes naturiol, awyr a gofod, a chelf Americanaidd, yn ogystal ag archifdy anferthol, gyda phob un ohonynt yn llwyddo i ddod â hanes yn fyw i blant o bob oed.

A dyna, yn llythrennol, raison d'être y ffilm gomedi antur Night at the Museum - Battle of the Smithsonian sy'n dilyn y ffilm gyntaf lle'r oedd Larry Daley (Ben Stiller) yn warchodwr nos yn Amgueddfa Hanes Naturiol Efrog Newydd ac yn gorfod cadw trefn ar arddangosfeydd o ddeinosoriaid, cyn-arlywyddion, cowbois ac Indiaid, Rhufeiniad, y Pharo Eifftaidd Ahkmenrah ac un mwnci capuchin direidus tu hwnt a ddeuai'n fyw wedi machlud haul dan ddylanwad coflech aur Ahkmenrah.

Dyn busnes

Bellach, er bod Larry'n ddyn busnes llwyddiannus ers sefydlu cwmni dyfeisiadau Daley Devices mae'n dal i ymweld â'i hen ffrindiau o bryd i'w gilydd.

Ac ar un ymweliad mae'n darganfod trwy ei gyn-reolwr, Dr McPhee (Ricky Gervais ar ffurf David Brent eto fyth) bod cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i ddigideiddio'r cyfan - a chludo'r arddangosfeydd "hen ffasiwn" i'w cadw yn archifdy tanddaearol y Smithsonian.

Yn ffodus i'r cymeriadau hyn oll pan fo'r goflech aur yn cyrraedd Washington DC caiff grym brawychus ei ryddhau, sef Kah Mun Rah (Hank Azria), hanner brawd Ahkmenrah, ac mae e'n awyddus i lywodraethu dros y cyfan, gyda'i gynorthwywyr dychrynllyd Ivan The Terrible, yr Ymerawdwr Napoeleon Bonaparte ac Al Capone.

Dim ond un dyn all ddod i'r adwy mae'n debyg, a Larry Daley yw hwnnw gyda chymorth llu o gymeriadau hanesyddol newydd sy'n cynnwys Amelia Earhart, Y Cadfridog Custer, a mwnci capuchin (arall) o'r enw Able.

Dwli difyr i'w fwynhau

Siomedig, yn amlach na pheidio yw dilyniant ffilm lwyddiannus - yn enwedig un mor uchelgeisiol â Night at the Museum - ond rhaid dweud imi fwynhau'r dwli difyr y tro hwn.

Mae Ben Stiller yn chwarae rhan y dyn cyffredin mewn amgylchiadau anghyffredin yn berffaith ac yn amlwg yn mwynhau'r cyfle o gael sgript fwy ffraeth nag arfer mewn blocbyster i blant.

Roedd lleoli'r cyfan yn y Smithsonian y tro hwn yn benderfyniad gwych o ystyried y cysyniad gwreiddiol o ddod â hanes yn fyw a'i luosogi â phosibiliadau di-ri.

Mae gormod o lawer o enghreifftiau i'w rhestru yma ond o gofio bod y Smithsonian yn diogelu enghreifftiau o ddiwylliant poblogaidd yn ogystal â gweithiau celf o bwys roedd hi'r un mor wefreiddiol clustfeinio ar gyfweliad swydd Oscar the Grouch a Darth Vader wrth iddynt geisio ymuno ag "Axis of Evil" Kar Mun Rah ag ydoedd i brofi golygfa gwbl ysbrydoledig yn Oriel Renwick yr amgueddfa sy'n gartref i weithiau gan Roy Lichtenstein, Jeff Koons, Edward Hopper a Jackson Pollock ymysg eraill.

Wna i ddim datgelu rhagor rhag difetha'r wefr o weld y gweithiau gwych hyn yn dod yn rhan annatod o antur Larry.

Clod i Amy

Braf iawn hefyd oedd gweld is-gymeriadau llwyddiannus y ffilm gyntaf yn cael rhannau mwy blaenllaw gan gynnwys act ddwbwl hynod ddifyr Owen Wilson a Steve Coogan fel modelau bychain o'r cowboi Jedadiah Smith a'r cadfridog Rhufeinig Octavius.

Brafiach fyth oedd gweld Amy Adams fel Amelia Earhart- yr anturiaethwraig hyderus sydd yn wing-woman llawn hwyl i'r Larry llawn-amheuon.

Ceir llu o jôcs soffistigedig ar draul eu hegin ramant, diolch i sylwadau'r Ffrancwr, Napoleon (Alain Chabat) a'r Arlywydd Lincoln (llais Hank Azria).

Hefyd, gwneir defnydd helaeth, a hynod gyffrous, o ganolfan awyr a gofod y Smithsonian.

Yn ogystal ag ennill clôd mewn rhannau dramatig diweddar, gan gynnwys mynd benben â Meryl Streep yn Doubt, mae Adams wedi profi ei bod hi'n actores gomedi gwbl naturiol ac yn ennill ei phlwy ymhlith y cewri comedi gwrywaidd sydd i'w gweld yma, diolch i'w pherfformiad egniol sy'n deyrnged i'r ddiweddar Katharine Hepburn.

Yn wir, mae Night at the Museum - Battle of the Smithsonian yn llawer mwy na blocbyster i blant a go brin bod angen dweud ei bod yn hysbyseb wych i'r Smithsonian a synnwn i ddim na fydd na lawer iawn mwy o bobol yn heidio i brofi'r arlwy Cymreig yno dros yr haf diolch i amseru perffaith y ffilm hon.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.