Â鶹Éç

King Coal

10 Medi 2009

Ewch yn ôl ddeugain mlynedd a mwy ac fe fydd rhai yn cofio ffilmiau byrion a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cael eu dangos mewn sinemâu.

Dangos gwahanol agweddau o waith glowyr fyddai'r Mining Review a gynhyrchwyd yn fisol gan y Bwrdd o 1948 tan ddiwedd y Saithdegau.

Bwriad y pytiau hyn oedd rhoi darlun i bobl o fywyd y glowyr ac yr oedden nhw'n dipyn o boen i rai fel fi fyddai'n ysu am i'r 'Ffilm Mawr' gychwyn.

Erbyn heddiw, fodd bynnag, ar sail eu hynafrwydd mae'r ffilmiau tri munud hynny yn bethau hynod o ddiddorol a difyr ac ymhlith yr eitemau mewn sioe o'r enw King Coal y mae y Sefydliad ffilm Prydeinig (BFI) yn mynd a hi o gwmpas y wlad.

Ffilm gartŵn

Daw'r enw King Coal o deitl ffilm gartŵn tri munud a gomisiynwyd gan y Bwrdd Glo yn 1948 i annog cynhyrchu mwy o lo i ddigoni chwant diwydiant Prydain am ynni.

Parodi o'r "Old King Cole" a oedd yn "merry old soul" yn y rhigwm ydi King Coal wrth gwrs ac fe'i gwelir yn codi o'i deyrnas danddaearol i sicrhau fod digon o lowyr ar gael i gynhyrchu digon o lo i ferwi sosbenni ceginau'r wlad, i gynhesu'r tai, i gadw trenau ar y rêls ac i yrru diwydiant.

King Coal

Mae'n ffilm eitha clyfar yn ei ffordd ac yn tanlinellu pwysigrwydd glo i'r economi ar y pryd. Hebddo byddai popeth ar stop.

Yr oedd hynny, wrth gwrs ar adeg pan oedd y diwydiant glo yn cael ei ddisgrifio fel "The basic industry of Britain".

Hyd yn oed, yn 1964 yr oedd yn dal i gael ei ystyried fel "our most vital basic industry ac yn cynnig "a lifetime career" i lanciau ifanc.

Pedwar can mlynedd

Yn wir, yn 1979 hyd yn oed - dim ond pum mlynedd cyn cychwyn y streic fawr angheuol yn erbyn cynlluniau Mrs Thatcher - yr oedd y diwydiant glo yn cael ei weld fel cyflogwr o bwys "not only in the next 40 years but the next 400!"

Ym Mhrestatyn y bum i'n gweld King Coal dim ond tafliad carreg o hen lofa ddiflanedig, fel holl lofeydd Cymru, y Parlwr Du ac, wrth gwrs, roedd y sinema yn orlawn.

Wel nag oedd, hyd yn oed mewn ardal felly dyrnaid bach iawn ohonom oedd yno i wylio'r rhaglen o 15 neu fwy o ffilmiau i gyd yn amrywio mewn hyd o ddau funud i ddeuddeng munud gyda llefarydd o'r BFI yno i egluro mai rhan o gynllun tair blynedd a elwir This Working Life yw hwn gyda ffilmiau am y diwydiant adeiladu llongau a'r diwydiant dur i ddilyn.

Cyffredin ac anghyffredin

Maen nhw'n dweud mai dynion cyffredin yn cael eu bwrw i ganol amgylchiadau anghyffredin sy'n gwneud stori dda.

Apêl yr hen ffilmiau hyn yw eu bod yn dangos dynion cyffredin yn gwneud gwaith anghyffredin ac mae dieithrwch eu bywyd yn eangu eu hapêl erbyn heddiw. Gymainmt mae'r byd wedi newid.

Ac er bod y rhain yn canolbwyntio'n gyfan gwbl i bob pwrpas ar feysydd glo gogledd Lloegr erys yr apêl er, wrth gwrs, byddai mwy o ddeunydd o Gymru wedi plesio'n well.

Arweinwyr gwleidyddol

Mae ffilm nodedig o ddiwrnod gala glowyr Durham 1962 gyda gwleidyddion amlwg fel Hugh Gaitskell, arweinydd y Blaid Lafur, yn areithio ac yn diolch am gael cynnwys ei wyneb ar un o faneri trawiadol y gorymdeithwyr. Yno hefyd yr oedd George Brown a gwleidydd ifanc o'r enw Anthony Wedgewood Benn yn areithio'n danbaid dros degwch cymdeithasol!

Y streic olaf

Mewn ffilmiau eraill dangosir glowyr ar wyliau - mewn gwersyll Butlins ac yn Blackpool.

O gyfnod diweddarach, ffyrnicach, mae gwragedd a mamau yn siarad am eu rhan hwy yn cefnogi 'eu dynion' yn streic fawr 1984-85 yn ymuno â llinellau piced ac yn bwydo teuluoedd yr oedd Mrs Thatcher am lwgu'r penteuluoedd yn ôl i waith - y mwyaf dirdynnol o'r holl ffilmiau ac yn atgof o frwydr olaf y meysydd glo cyn eu cau.

"Fe fyddan nhw'n bwyta gwair cyn gofyn i'w dynion ddychwelyd i'r gwaith," meddai un wraig yng nghanol y son am lwgu a baban heb gael potel ers deuddydd!

Darlun ffafriol

Gwir mai darlun ffafriol y Bwrdd Glo o'r diwydiant yw cynnwys y rhan fwyaf o'r ffilmiau eraill cynharach a hwythau wedi eu gwneud yn benodol i ddenu pobl i'r diwydiant. Eu hapêl heddiw yw'r olwg y maent yn ei roi ar gyfnod caletach - a diniweitiach yn ei ffordd - sydd wedi darfod.

A chawn gip yn A Day in the Life of a Coal Miner (1910) o amodau gwaith dan ddaear a golwg ryfeddol ar ran merched yng ngwaith y pwll yn didoli glo, gwthio tryciau ac yn y blaen.

Yn ogystal a King CoalPortrait of a Miner sy'n cynnwys mwy o ddeunydd na'r dangosiad a welais i.

Hoffwn feddwl y byddai hyn oll yn sbardun i rywun yng Nghymru ddiogelu a rhannu yn yr un modd yr hanes o ddiwydiant glo ein gwlad ninnau sydd ar ffilm - gan mai'r unig gyfeiriad bron at Gymru yn y dangosiad oedd canu baled ddolefus The Best Doorboy am fachgen a ofalai am y drysau awyru yn un o byllau'r Rhondda.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.