Â鶹Éç

Julie & Julia (2009)

21 Medi 2009

12Tair seren - a hanner

  • Y Sêr: Meryl Streep ac Amy Adams.
  • Cyfarwyddo: Nora Ephron.
  • Sgwennu: Addasiad Nora Ephron o'r llyfr Julie and Julia: 365 Days, 524 Recipes, 1 Tiny Apartment Kitchen gan Julie Powell.
  • Hyd: 123 munud

Gormod o bwdin

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ym 1983 cyhoeddwyd un o'r llyfrau gorau i gyfuno ryseitiau bwyd gyda chynghorion bywyd, Heartburn gan Nora Ephron - nofel am gyflwynydd rhaglen goginio sy'n wynebu ysgariad.

Cofnod rhannol hunangofiannol oedd y gyfrol honno o chwalfa priodas yr awdures a'r newyddiadurwr Carl Bernstein, ac aeth Ephron ymlaen i droi'r nofel yn ffilm gyda Meryl Streep a Jack Nicholson, cyn darganfod llwyddiant pellach yn sgrifennu When Harry Met Sally a sgrifennu achyfarwyddo Sleepless in Seattle ymysg eraill.

Herio'i hun

Hawdd deall, felly, sut y bu i foodie amlwg fel Ephron gael ei hudo gan fenter sgwenwraig ifanc o'r enw Julie Powell a heriodd ei hun i goginio 524 o ryseitiau'r 'Beibl' coginio Mastering the Art of French Cooking gan Julia Child mewn blwyddyn, a chofnodi'r canlyniadau mewn blog.

Penderfynodd y gyfarwyddwraig blethu hanes y ddwy gogyddes sy'n golygu bod y ffilm Julie & Julia yn gyfuniad o hanes gyrfa Julia Child a blwyddyn gastronomaidd Julie Powell.

Rhaid dweud ei bod yn ffilm ag iddi flas arbennig.

Os nad ydych yn gyfarwydd ag enw Julia Child , mae'n werth nodi yn gyntaf fod yr Americanwyr yn ei hystyried fel Delia Smith yr Unol Daleithiau - ond ei bod yn debycach o lawer, o ran oedran a chymeriad, i gyfuniad o Elizabeth David a Fanny Cradock.

Cymeriad a hanner

Roedd hi'n gymeriad a hanner a chanddi bersonoliaeth - a ffordd o siarad - drawiadol iawn ac fe gyrhaeddodd ei deugain cyn priodi â chyn ysbïwr o'r Unol Daleithiau a aeth yn lysgennad i Baris.

Roedd yn briodas hapus iawn, ond dechreuodd Julia fynychu gwersi coginio'r ysgol Le Cordon Bleu fydenwog i osgoi diflastod bywyd gwraig tÅ·.

Yna, ym 1961, cyflwynodd hi a dwy gyfeilles Ffrengig y llyfr ryseitiau cyntaf o'i fath ar gyfer gwragedd Americanaidd ac yn dilyn ymddangosiadau niferus ar y teledu dros y blynyddoedd, datblygodd y gawres o gogyddes (chwe troedfedd a dwy fodfedd o daldra!) yn eicon diwylliannol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif - i'r graddau y gellid ymweld â'i chegin yn amgueddfa'r Smithsonian yn Washington DC.

Calon y cymeriad

Dim rhyfedd mai at ei hen ffrind Meryl Streep y trodd Ephron wrth chwilio am actores fyddai'n medru llenwi sodlau uchel Julia Child ac i honno gyflwyno tour de force o berfformiad trwy lwyddo i ddarganfod calon cymeriad y byddai actores lai wedi gwneud smonach llwyr ohoni.

A sôn am actores lai, mae gen i ofn fod rhannau'r ffilm sydd yn dychwelyd yn blagus o gyson at fenter fodern Julie Powell o geisio ail-greu pob un o ryseitiau Child - heb wenwyno'r gath na'i gŵr dioddefus yn y broses - yn siomedig o ddiflas.

Hanes difyrrach

Ydy, mae'n ddifyr ei gweld hi'n taclo creadigaethau hynod fel wyau mewn aspic a phastai hwyaden heb yr esgyrn, a hynny yn wyneb tensiynau priodasol diolch i'r blogio di-baid.

Ond y teimlad ges i wrth i Julie Powell brofi'i deugeinfed argyfwng oedd fod yma ormod o bwdin, a mod i'n awchu am gael dychwelyd at hanes llawer difyrrach Julia Child.

Mae Amy Adams yn actores gomig hynod hoffus - ac mae'n deg nodi iddi lwyddo wrth fynd benben â Meryl yn y ddrama Doubt yn gynharach eleni - ond dydy cymeriad cwynfanllyd Julie Powell ddim patch ar Julia Child ac er mai hi sy'n gyfrifol am ailgyflwyno enw Child i genhedlaeth newydd o gourmands, byddai Julie& Julia yn ffilm lawer iawn cryfach pe bai Ephron wedi hepgor y rhan fwyaf o'i golygfeydd hi - a newid y teitl i Just Julia!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.