Â鶹Éç

The Iron Lady

Meryl Streep

16 Ionawr 2012

12Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Meryl Streep, Jim Broadent, Alexandra Roach. .
  • Cyfarwyddo: Phyllida Law.
  • Sgrifennu: Abbi Morgan.
  • Hyd: 105 munud

Gormod o feddalwch . . .

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ym 1979, crëwyd hanes ym Mhrydain pan gafodd dynes ei hethol yn Brif Weinidog.

Aeth y ddynes honno, Margaret Thatcher, ymlaen i ennill dau etholiad arall, ym 1983 a 1987 - rhywbeth na chyflawnodd yr un arweinydd arall yn ystod yr ugeinfed ganrif - gan sicrhau ei lle yn oriel yr anfarwolion, cyn cael ei bradychu gan weinidogion ei phlaid ei hun a'i herlid o 10 Downing Street ym 1990.

Gydol ei theyrnasiad, llwyddodd ei phenderfyniadau dadleuol -yn eu plith, dewis mynd i ryfel â'r Ariannin dros sofraniaeth y Falklands; gwrthod trafod â Gweriniaethwyr Iwerddon yn wyneb ymgyrchoedd ymprydio a bomio di-baid; cau'r pyllau glo, a chyhoeddi nad oedd ffasiwn beth â "chymdeithas" yn bod - i rannu'r 'Deyrnas Unedig' yn llwyr gan greu dwy garfan bendant; ei dilynwyr ffyddlon oedd yn frwd o'i phlaid a'r miliynau milwriaethus oedd am ei gwaed

Byddai unrhyw gynhyrchydd ffilm yn ffŵl i wrthod ariannu cynhyrchiad yn seiliedig ar yr hanes, yn enwedig o ddeall bod Meryl Streep - yr "actores orau erioed" a gafodd 1979 reit gofiadwy ei hun ar ôl cipio'i gwobr Oscar gyntaf am ei pherfformiad yn Kramer vs Kramer - yn awyddus i chwarae'r brif ran.

Mae'n biti garw felly na fynnodd cynhyrchwyr The Iron Lady ddilyn esiampl haearnaidd y ddynes ei hun a mynnu cynhyrchiad cryn dipyn mwy cadarn na'r ffilm oriog a gor sentimental hon.

Mae'r ffilm yn cychwyn gyda'r Thatcher oedrannus "bresennol" yn cipio peint o laeth oddi ar y silff yn ei siop gornel leol a straffaglu nol i'w chartref crand yn Llundain i baratoi brecwast iddi hi a'i gŵr, Denis.

Ymhen dim, darganfyddwn mai ffrwyth ei dychymyg yw'r dadlau dyddiol rhyngddi hi a Denis (Jim Broadbent), gan ei fod yn ei fedd ers wyth mlynedd . Ond, fel y ceisia'r ffilm brofi, daw cysur mawr wrth edrych yn ôl pan fo'r byd wedi hen symud ymlaen.

Yn dilyn y cyflwyniad hwn, cawn wibdaith yn ôl i ddeffroad gwleidyddol "merch y siop" yn Grantham, a'i hymdrechion i ennill ei lle ymhlith dynion y blaid Geidwadol a chipio sedd Finchley ym 1959, cyn carlamu mlaen i fod yn aelod blaenllaw o Gabinet Edward Heath, yr "ail-frandio" llwyddiannus cyn ennill yr arweinyddiaeth, hyd at montage estynedig o'i "heiliadau eiconig".

Yn awr ac yn y man, dychwelwn i'r presennol ac ymdrechion Carol (Olivia Colman) ei merch i'w hatgoffa o farwolaeth Denis ac absenoldeb Mark, y mab afradlon.

Ond diolch i'r pendilio parhaol hwn rhwng y gorffennol gloyw a'r presennol pŵl , datblyga The Iron Lady yn ffilm ddryslyd tu hwnt sy methu'n lân â phenderfynu sut i anfarwoli'r ddynes ei hun.

Ai Arwres yw hi ynteu Anghenfil? Nid dyma'r ffilm sy'n ateb y cwestiwn hwnnw.

Yn wir, mae'n gwestiwn mawr gen i a oedd awdur y sgript a'r gyfarwyddwraig ar yr un dudalen. Wrth i Abi Morgan (cyd awdur sgript Shame - allan Ionawr 13) geisio archwilio ongl mwy "dynol" i Thatcher, mae'n amlwg fod Phyllida Lloyd (a gyfarwyddodd Mamma Mia yn 2008) yn benderfynol o gyflwyno fersiwn mwy "dymunol" ar y sgrîn, sy'n golygu bod Thatcher y ffilm hon y nesaf peth at gymeriad comig a chynnes.

Yr hyn sydd yn gwbl ddi-gwestiwn am y ffilm, fodd bynnag, yw'r perfformiadau o'r radd flaenaf gan y ddwy actores Meryl Streep ac Alexandra Roach sy'n portreadu'r cyn Brif Weinidog ar wahanol adegau yn ei bywyd.

Os na chaiff Meryl ei henwebu am Oscar am yr ail dro ar bymtheg yn ei gyrfa am ei rhan yn y ffilm hon yna mi fyta i fy het. Mae ei hacen, ei hosgo a'i holl ymarweddiad mor berffaith nes golygu mai Magi, ac nid Meryl sy'n gwmni inni gydol y ffilm.

Aexandra Roach

Wynebodd y Gymraes, Alexandra Roach, her bur wahanol wrth dderbyn rhan Margaret Thatcher, née Roberts. A hithe newydd raddio o RADA bu'n rhaid i'r ferch o'r Betws ger Rhydaman ystyried teimladau ei theulu cyn derbyn y rhan, gan mai glöwr oedd ei thad-cu a'i thad yn heddwas ar adeg Streic y Glowyr, dair blynedd cyn ei geni hi ym 1987.

Llwydda i gynnig portread llawn cydymdeimlad o ferch ifanc weithgar a chanddi uchelgais iach ac ymarferol a dDiolch i'w pherfformiad hi mae hi gryn dipyn haws uniaethu â Magi'r Gymraes na Mrs Thatcher Meryl.

Yn anffodus, yr eiliad y dechreua'r gwyliwr uniaethu â Margaret a dod i ddeall rhywfaint ar gymeriad cymhleth y ferch ddisglair a ddaeth yn ddynes o sylwedd y mae'r ffilm yn newid ei thrywydd gan danseilio gwaith caboledig yr actoresau yn llwyr.

Does dim gobaith gadael y sinema heb yr un rhagfarnau ag oedd gennych cyn mynd mewn. Mae The Iron Lady yn ffilm anwastad ac arwynebol sy'n dathlu sentiment yn hytrach na syniadau.

A does dim dwywaith amdani; byddai Mrs Thatcher ei hun hefyd yn ei chasáu hi.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.