Â鶹Éç

L'arnacoeur (Heartbreaker)

09 Gorffennaf 2010

15Pedair seren allan o bump

  • Y Sêr: Romain Duris, Vanessa Paradis, Andrew Lincoln, Julie Ferrier, Francois Damiens.
  • Cyfarwyddo: Pascal Chaumeil.
  • Sgrifennu: Laureunt Zeitoun, Jeremy Doneur, Yohan Gromb .
  • Hyd: 105 munud

Yr hwn a dyr fy nghalon i . . .

Adolygiad Lowri Haf Cooke

I blith y blocbysters, bob haf, daw un ffilm ffuantus, ramantus, i hudo pawb.

Oce, falle nid pawb, ond i'r rhai hynny - fel fi - sy'n ddigon dewr i gyfadde ichi fwynhau Four Weddings and a Funeral ym 1994, There's Something About Mary ym 1998, a 500 Days of Summer y llynedd, mae trysor trachwantus ar eich cyfer - a stori serch sy'n ddigon sinigaidd i swyno'r slebog lleia sapllyd!

Ffrancwr ffantastig.

Romain Duris sy'n chwarae'r Romeo diweddara - Ffrancwr ffantastig sy'n dwyn Adam Grenier o'r gyfres Entourage i gof wrth chwarae Alex Lippi; torrwr calonnau proffesiynol gaiff ei gyflogi gan deuluoedd merched anhapus, i'w darbwyllo i ddympio'u dyweddi diddim a symud 'mlaen yn hyderus gyda'u bywydau carwriaethol.

Pwysleisir o'r cychwyn fod gan Alex a'i griw - sy'n cynnwys Mélanie ei chwaer a'i gŵr, Marc - reolau cadarn, sy'n golygu nad awn nhw byth i ymhél â pherthynas gariadus gan mai eu rhan hwy yw adfywio'r ferch - a'i hachub o sefyllfa anobeithiol.

Yn dilyn montage difyr yn dangos ein Romeo yn rhamantu cyfres o ferched yn dra llwyddiannus, cawn ein cyflwyno i Juliette (Vanessa Paradis), arbenigwraig ar winoedd sydd yn priodi â Jonathan (Andrew Lincoln) ymhen deng niwrnod.

Wedi'i hen ddieithrio oddi wrth ei thad, y giangstar Van der Becq (Jacquez Frantz,) mae yntau'n benderfynol o ennill maddeuant Juliette, a'i rhwystro rhag gwneud camgymeriad mawr, gan gyflogi Alex i chwarae gwarchodwr iddi tra'i bod yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr ym Monaco.

Dros ei phen a'i chlustiau

Y broblem ydy, ymddengys bod y Juliette gadarn dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'i chymar - sefyllfa sy'n mynd yn groes i egwyddorion ein gwrth garwyr ond, diolch i ddyledion dychrynllyd, does dim dewis ond mynd amdani a gobeithio'r gwaetha.

Mae'n wir bod y braslun brysiog hwn yn rhoi'r argraff mai antur cwbl anfoesol sy'n gosod sylfaen swreal i'r stori serch dan sylw ond hoffwn bwysleisio fod Alex a'i griw yn llwyddo i ddarganfod amheuon am deimladau Juliette tuag at ei darpar ŵr digon di-fflach.

Ond wedi dweud hynny, dydy'r cynhyrchiad ddim yn mynd i bellafion byd i bortreadu Jonathan fel cnaf llwyr - mae'n amlwg bod ei statws fel Sais yn ddigon o reswm i'r Ffrancwyr ei ystyried yn gymar annerbyniol!

Serch hynny, mae'r cyfarwyddwr Pascal Chaumeil - sydd â chefndir yn cynorthwyo'rauteur Luc Besson ar ffilmiau fel Léon, The Fifth Element a Joan of Arc -yn llwyddo i lywio rhamant sy'n adleisio rhai o Screwball Comedies y 1940au.

Fuaswn i ddim yn breuddwydio cymharu dawn gomic Vanessa Paradis ag arwres y genre, Katharine Hepburn, ond mae iddi harddwch hynod a'r froideur Ffrengig sy'n cydbwyso'n berffaith ag ysgafnder eofn yr arwr hoffus.

Trac sain

Gyda chefnogaeth gref gan Julie Ferrier a Francois Damiens fel dau Giwpid stiwpid sy'n cynorthwyo Alex yn ei ymdrechion i ennill calon Juliette, mae gan y ffilm drac sain llwyddiannus ac mae'n gyforiog o olygfeydd tu hwnt o ddigri, sydd oll yn hanfodion ar gyfer hit hafaidd.

I'r rheiny sy'n ffoli ar ffasiwn, mae Heartbreaker hefyd yn baradwys o ±Ê°ùê³Ù-à-±Ê´Ç°ù³Ù±ð°ù, diolch i gynrychiolaeth rhestr faith o gynllunwyr dillad Ffrengig, yn cynnwys Hermès, Chanel a Céline.

Yn ogystal, mae'r ffilm yn meddu ar arf bwerus tu hwnt, sef teyrnged drydanol i un o'r cynyrchiadau mwyaf rhamantus erioed. Heb feiddio sbwylio'r sypreis, dwi'n rhagweld y bydd gwersi dawnsio yn boblogaidd iawn ymhlith chyplau dros y misoedd nesa!

Wrth i bencampwriaeth Cwpan y Byd ddirwyn i ben, mae'r ffilm hon yn benderfynol o ail gyflwyno bach o serch i'ch soffas, felly llusgwch eich slebog i'r sinema agosaf, a gadewch i Romain a Juliette eich tywys i'r seithfed nef!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.