麻豆社

Funny People

Rhan o boster y ffilm

01 Medi 2009

15Dwy seren

  • Y S锚r: Adam Sandler; Seth Rogen, Leslie Mann, Eric Bana, Jason Schwartzman.
  • Cyfarwyddo: Judd Apatow.
  • Sgwennu: Judd Apatow.
  • Hyd: 146 munud

Chwerthin? Go brin

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Rydych chi'n gwybod bod math arbennig o ffilm wedi cyrraedd rhyw bwynt dirlawn pan fo cynhyrchiad yn cyfeirio ato'i hun - a thrwy hynny yn melltithio pob ymgais arall ddaw yn ei sgil.

Ar un pwynt yn Funny People ceir mesur o lwyddiant y prif gymeriad - diddanwr poblogaidd o'r enw George Simmons - pan ddywed ei asiant wrtho ei fod wedi cael cynnig prif ran mewn "Bromance" gyda Paul Rudd.

A phwy yw Paul Rudd, medde chi?

Wel, mae e'n actor gweddol amlwg, ond yn bwysicach, mae'n un o in-crowd y funud, sef y criw o ddynion ifanc sy'n cyfrannu'n gyson i ffilmiau Judd Apatow.

A phwy yw Judd Apatow? Pensaer genre y Comedi Brawdgarol, neu'r Bromantic Comedy - steil o ffilm a fu'n teyrnasu yn Hollywood ers rhai blynyddoedd bellach - a chyfarwyddwr Funny People.

Ar sail y ffilm ddiweddara hon, does dim dwywaith amdani; mae'n hen bryd i'r byd ffilm Americanaidd brofi coup d'茅tat.

Cyrraedd yr uchelfannau

Mae Funny People yn canolbwyntio'n bennaf ar hanes George Simmons - actor a diddanwr ddechreuodd ym myd di-drugaredd comedi stand-up Los Angeles, ond sydd bellach yn un o s锚r mwya'r byd. Portreadir dyn sengl, canol oed, sydd wedi cyrraedd yr uchelfannau, gan fyw bywyd moethus ac yn mwynhau'r sylw ddaw gyda hynny.

Yn neng munud cynta'r ffilm, fodd bynnag, clywn fod gan George afiechyd terfynol, ac ar 么l derbyn ei ffawd, mae e'n penderfynu dychwelyd i un o'i hen glybiau comedi am un her olaf.

Yn dilyn set anobeithiol a 'marw' ar lwyfan mae'n cynnig swydd i un o'r diddanwyr eraill, Ira Wright (Seth Rogen), yn gyfuniad o gynorthwy-ydd a sgwennwr deunydd newydd iddo.

Dros y misoedd nesa, ceisia George wynebu ei farwolaeth ei hun trwy wneud iawn am gamgymeriadau'r gorffennol, gan gynnwys ymddiheuro i'w gyn gariad, Laura, sydd bellach yn wraig i Clarke (Eric Bana), a mam i ddwy ferch fach.

Tro anffodus

Yn anffodus, ar 么l sefydlu'r stori yma, penderfynir cyflwyno tro anffodus yn y gynffon sy'n ein harwain i dir hynod amheus ac ychwanegu awr at ffilm sy'n siomedig o ddiflas.

Er mai ffilm gomedi am fyd cystadleuol comedi stand-yp yw hon gallaf gyfrif ar un llaw sawl gwaith y gwnes i chwerthin yn uchel.

A rhag ichi feddwl bod gen i safonau comedi amhosib o uchel y peth mwyaf trawiadol yn y sinema orlawn lle gwelais i hi oedd y tawelwch llethol gydol y ffilm!

Roedd ar ei mwyaf gonest pan yn canolbwyntio ar y cyfeillgarwch rhwng Ira a'i ffrindiau (sy'n cynnwys perfformiadau hoffus gan Jason Schwartzman a Jonah Koening), sydd i gyd yn ddiddanwyr ifanc ar wahanol risiau byd adloniant LA.

Trueni felly i Apatow geisio croesbeillio'r elfen hon - sydd ag iddi ymdeimlad o ffilm annibynnol - gyda vanity-project i'w hen ffrind, Adam Sandler.

Hollol fflat

Mewn egwyddor, dylai presenoldeb Sandler ychwanegu elfen o hygrededd at y ffilm, gan i Funny People gynnwys enghreifftiau niferus o'r diddanwr ar waith dros y blynyddoedd, yn ogystal 芒 pastiches difyr o'i blockbusters mwyaf dienaid.

Yn anffodus, y gwrthwyneb sy'n wir, gan fod schtick Sandler - sy'n cynnwys synau swreal ac arddull farwaidd ar lwyfan- yn syrthio'n hollol fflat y tu allan i'r Unol Daleithiau.

Mae'n anodd credu iddo ennill lle ar Saturday Night Live - y rhaglen sefydlodd yrfaoedd Steve Martin, Bill Murray, Robin Williams a Will Ferrell - ac y caiff ei ystyried yn feistr ar ei grefft yn America, ond dyna ni, dyw pawb ddim yn gwirioni 'run fath.

Mae'n amlwg fod Judd Apatow wedi ymdrechu'n galed i gyfuno'i atgofion ef o'r frawdoliaeth rhwng diddanwyr ei ieuenctid gyda chynghorion sylfaenol ar sut i fod yn berson da ond diolch i bresenoldeb gwenwynig Sandler, calon bwdr sydd i'r foeswers hon.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.