Â鶹Éç

Public Enemies (2009)

Cristian Bale - y dyn FBI

15Pedair   seren

  • Y Sêr: Johnny Depp, Christian Bale, Marion Cotillard.
  • Cyfarwyddo: Michael Mann.
  • Sgwennu: Addasiad Ronan Bennett, Michael Mann ac Ann Biderman o Public Enemies: America's Greatest Crime Wave and the Birth of the FBI, 1933-34 gan Bryan Burroughs.
  • Hyd: 140 munud

Dilyn Dillinger

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ym 1989 darlledwyd ffilm deledu LA Takedown gan y sgwennwr gyfarwyddwr Michael Mann - fersiwn gynnar iawn o hanes ffuglennol y lleidr deallus Neil McCauley a'r heddwas obsesiynol Vincent Hanna a ddatblygwyd ymhellach ganddo yn y ffilm Heat (1995), gyda Robert DeNiro ac Al Pacino.

Dyma un o ffilmiau Cops 'n Robbers gorau'r sinema gyfoes a does dim dwywaith fod y diolch am hynny i ddiddordeb angerddol yr Auteur Americanaidd Mann yn y berthynas symbiotig rhwng yr heliwr a'i brae.

Ymgyrch fawr

Bron i bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, felly, wele gynhyrchiad nid annhebyg - gan yr un cyfarwyddwr - am ymgyrch fawr yr FBI newydd-anedig, dan arweiniad J Edgar Hoover, i ddod â chyfres o ladradau banc i ben gan y dihangwr dihafal John Dillinger.

Am flwyddyn gyfan rhwng 1933 a 1934 John Dillinger oedd Public Enemy No 1 a llwyddodd i ddianc dro ar ôl tro rhag y G-Men di-brofiad, diolch i gyfuniad o ffactorau fel cydweithrediad gangsters eraill fel Baby Face Nelson a Pretty Boy Floyd; gwarchodaeth y Chicago Mob a'i ddealltwriaeth cynnar o'r cyfryngau ac angen y cyhoedd i weld y banciau'n talu am anghyfiawnderau'r Dirwasgiad Mawr.

Egni a thensiwn

Diolch i gyfres o olygfeydd lawn egni a thensiwn, dilynwn Dillinger (Johnny Depp) o un ddihangfa garchar i'r llall a chyfres o ladradau a shoot-outs cyffrous ar hyd taleithiau canoldir yr Unol Daleithiau, yng nghwmni ei griw teyrngar, sy'n cynnwys Harry Pierpoint (David Wenham), Homer Van Meter (Stephen Dorff) a'i lefftenant ffyddlon, John "Red" Hamilton (Jason Clarke).

Profwn y gwahaniaeth rhwng ei arddull ddynol - parchus bron - o ddwyn arian y banciau yn hytrach na'r cwsmeriaid eu hunain, a steil annisgybledig o dreisgar ei gydweithwyr achlysurol Pretty Boy Floyd (Channing Tatum) a Baby Face Nelson (Stephen Graham, a welwyd ddwetha' ar y cae chwarae fel Billy Bremner yn The Damned United).

Rhannwn hefyd yn rhuthr y rhamant rhwng Dillinger a'i moll ef - Evelyn "Billie" Frechette (Marion Cotillard), sy'n ychwanegu haenen sylweddol o dynerwch i gynhyrchiad sy'n moliannu'r machismo.

Heb os, dyma bortread hynod ganmoliaethus o droseddwr eiconig a werthwyd gan y cyfryngau fel Robin Hood ei ddydd - ond mae'n deg nodi nad teyrnged i'w glyfrwch a'i garisma ef yn unig a geir yn Public Enemies gan ei bod hefyd yn ddathliad o enedigaeth fregus ac yna gamau bychain ond allweddol yr asiantaeth gyfreithiol a lwyddodd - yn y pen draw- i roi taw ar ei droseddau.

Cadno cyfrwys

Cynrhychiolir yr ymgyrch honno gan arweiniad di-gyfaddawd yr asiant Melvin Purvis (Christian Bale), wrth iddo dderbyn bod angen cymorth Texas Rangers profiadol i gipio'r cadno cyfrwys unwaith ac am byth.

Yr hyn sydd braidd yn anffodus am yr ornest yma rhwng Dillinger a Purvis yw'r ffaith bod ormod o lawer o gymeriadau o'u cwmpas heb eu datblygu'n ddigonol sydd nid yn unig yn tynnu sylw'r gwyliwr ond sydd hefyd yn cymhlethu'r stori'n ddiangen - sy'n golygu na ddown i adnabod na chydymdeimlo â'r rhan fwyaf ohonynt.

Mewn gwirionedd, mae hyn yr un mor wir am y portread di-bersonoliaeth o'r asiant Purvis a chwaraeir mor ddifrifol ddwys ag arfer gan Christian Bale.

Trueni am hynny oherwydd gwyddom ar sail llwyddiant Heat y gall Michael Mann lunio astudiaeth gytbwys o'r heddwas a'r troseddwr, wnaeth ein rhwystro rhag ochri ag un cymeriad yn fwy na'r llall.

Cynigodd Heat hefyd rannau sylweddol i aelodau'r ddau griw gwrthgyferbyniol a chafwyd llawer mwy o deimlad o golled yn dilyn eu marwolaethau hwy o gymharu â thranc y gangsters a dirprwyon hynod anghofiadwy'r FBI.

Yn gyflym

Serch hynny, mae Public Enemies yn ffilm sy'n symud yn gyflym ac mae iddi goblyn o stori dda.

Mae hefyd yn edrych ac yn swnio'n wych, diolch i gerddoriaeth adleisiol - sy'n crisialu'r cyfnod yn dilyn y Jazz Age i'r dim, cynllunio celfyddydol rhagorol a goleuo trawiadol iawn.

Stori un dyn sydd yma yn sylfaenol a John Dillinger yw hwnnw ac mae Johnny Depp yn disgleirio fel y troseddwr ag iddo steil unigryw.

Feddyliais i erioed am Depp fel leading man traddodiadol o'r blaen , er iddo greu argraff droeon mewn rhannau cwyrci, fel Edward Scissorhands, Capten Jack Sparrow, Ed Wood a Willy Wonka .

Yma, mae'n dod ag elfen chwareus, yn ogystal â charismataidd, i ddyn oedd yn atyniadol i bawb. Ceir hefyd eiliadau tawel, ond allweddol, lle gwelwn actor mawr ar waith.

Tua diwedd y ffilm, dilynwn Dillinger wrth iddo grwydro'n dawel trwy swyddfa'r asiantaeth sy'n ceisio'i ddal, heibio'r desgiau a'r waliau sydd wedi'u gorchuddio â gwaith ymchwil trylwyr amdano; mae'n un o nifer fawr o olygfeydd trydanol yr wyf yn eich annog i fynd i'w profi - a'u mwynhau.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.