- Y Sêr: Joseph Gordon-Levitt, Zooey Deschanel.
- Cyfarwyddo: Marc Webb.
- Sgwennu: Scott Neustadter a Michael H Weber.
- Hyd: 95 munud
Diwedd cariad
Adolygiad Lowri Haf Cooke
O'r diwedd! Yn dilyn haf siomedig o hesb o ran rom-coms safonol, dyma ffilm ramantaidd sydd â throad digon diddorol i'w ystyried yn stori serch wahanol iawn i'r arfer.
Yn wir, gellid ystyried (500) Days of Summeranti-rom-com, oherwydd yn yr achos yma fe wyddwn ni o'r cychwyn fod y rhamant dan sylw wedi dod i ben.
Nid dyma'r tro cynta i gynhyrchiad ganolbwyntio ar ddiwedd perthynas, wrth gwrs. Yn achos addasiad Neil Jordan o nofel fawr Graham Greene, The End of The Affair, cafwyd stori dditectif o fath wrth i'r arwr pruddglwyfus Bendrix (Ralph Fiennes) geisio'i orau i ddarganfod pam yn union y gorffennodd Sarah (Julianne Moore) eu rhamant yn gwbl ddisymwth.
Yna, archwiliodd The Break-Up, gyda Jennifer Anniston a Vince Vaughn, artaith gorfod cyd-fyw â chyn gariad ar ôl i'r berthynas chwalu.
Mewn gwirionedd, mae (500) Days of Summer yn debycach o ran natur i Annie Hal l- awdl fawr Woody Allen i'w gyn-gariad Diane Keaton - neu Eternal Sunshine of the Spotless Mind gan Michel Gondry - sef ffilmiau sy'n cymeryd golwg cwyrci a chwerw felys ar y profiad bydysawdol hwn.
Dyddiau serch
Yn fras, mae'r ffilm yn dilyn y pum can niwrnod a dreuliodd dyn ifanc o'r enw Tom yn ymserchu â - a galaru am - ferch ei freuddwydion, sef Summer- cyd-weithwraig mewn swyddfa gardiau cyfarch yn LA.
Yn groes i gonfensiwn, fodd bynnag, nid cofnod cronolegol sydd yma ond, yn hytrach, mae'r ffilm yn mynd a dod yn ôl a blaen rhwng rhai dyddiau penodol a thrwy hynny, buan iawn y down i ddeall fod Tom â'i ben a'i glustiau mewn cariad â'r ddelfryd o fod mewn cariad, gan na chawn ni weld unrhyw agwedd negyddol o'r ferch berffaith hon nes iddo ddechrau gwella o'i glwyf.
Yn hynny o beth, mae'r ffilm yn adlewyrchiad gweddol deg o'r profiad o ymserchu â rhywun sy ddim cweit yn teimlo 'run fath ac yn cyfuno elfennau digri iawn gydag eiliadau sy'n ddigon anghyfforddus yn wir.
Fideos cerdd
Mae'n werth nodi mai creu fideos cerddoriaeth boblogaidd yw cefndir y cyfarwyddwr, Marc Webb, ac mae hynny'n eglur gydol y cynhyrchiad slic hwn sy'n sboncio rhwng gwahanol arddulliau.
Ceir, er enghraifft, un olygfa gwbl ysbrydoledig sy'n cynnwys elfennau o animeiddio a montage eironig mewn arddull fideo pop cawslyd, i gofio'r cyfnod cynharaf o ewfforia sy'n wrthgyferbyniad pur â'r pastiche o ffilm fer ddu a gwyn ddirfodol à la Ingmar Bergman a geir tua diwedd y cynhyrchiad, sy'n cyfleu anobaith llwyr Tom i'r dim.
Fel corws
Mae'r cast cynorthwyol - sy'n cynnwys cyfeillion Tom a'i chwaer fach hynod ddoeth - yn ychwanegu dôs dda o hiwmor ac yn gweithredu fel corws Groegaidd wrth gynnig cynghorion difyr gaiff eu hanwybyddu'n llwyr ar bob cam o'r car-crash-romance dan sylw.
Yn sylfaenol, stori Tom a geir yn (500) Days of Summer, ac os oes na wendid, o gwbl y ffaith anochel na chawn ni gydymdeimlo'n llwyr â Summer yw hynny.
Mae'n amlwg bod y sgript yn seiliedig ar brofiad go iawn ei sgwenwyr ac, felly, y cyngor gorau i'r ddwy gyn gariad yn yr achos hynny fyddai cadw draw!
I bawb arall, mwynhewch a chydymdeimlwch â sefyllfa gyfarwydd inni gyd.