- Y Sêr: Paul Bettany, Jenifer Connelly, Martha West, Jeremy Northam.
- Cyfarwyddo: Jon Amiel.
- Sgrifennu: Addasiad John Collee o'r llyfr Annie's Box gan Randal Keynes.
- Hyd: 108 munud
Gwewyr ar yr aelwyd ac yn y wlad
Adolygiad Glyn Evans
Dyw'r ffilm hon a wnaed i gyd daro â chanrif a hanner cyhoeddi On the Origin of Species gan Charles Darwin ddim beth fyddech chi'n ei ddisgwyl.
Does yna ddim ymweliad dramatig â'r Galapagos; does yna ddim mordaith hir ac yn fwy na dim, does yna ddim Darwin barfog mewn het ddu.
Na, erbyn cyfnod y ffilm mae'r fordaith ddadlennol drosodd a wyneb Darwin - sydd gartref yng Nghaint yn rhoi ei ddamcaniaeth fawr ac ysgytwol ar bapur - yn ifanc ac wedi ei eillio fel pen ôl babi.
Mae hi'n Bumdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dim ond fflachiadau atgofus, ysbeidiol, o'r daith ddadlennol a gawn wrth i'r ffilm ganolbwyntio ar y berthynas ysig rhwng Darwin (Paul Bettany) a'i wraig, Emma Wedgwood, (Jennifer Connelly - gwraig Bettany) yn dilyn marwolaeth eu merch, Annie (Martha West), ac yntau yng nghanol trybestod gosod ei ddamcaniaeth ysgytwol a chwyldroadol ar bapur.
Gwraig grefyddol
A'r gwewyr personol i Darwin gymaint gwaeth oherwydd bod Emma yn wraig dra chrefyddol gadarn yn ei ffydd sy'n gweld damcaniaethau ei gŵr yn fygythiad i'w chred yn y Duw y mae hi mor ffyddlon iddo.
Nid yn unig ar lawr gwlad ond ar ei aelwyd hefyd y mae Darwin yn cael ei ergydio gan gyhuddiadau o danseilio'r Creawdwr.
"Rwyt ti'n gosod gwyddoniaeth yn erbyn Duw, ddyn," meddai ficer lleol (Jeremy Northam) sy'n gyfaill teuluol.
Ac, "Yr wyt ti wedi lladd Duw," meddai cyfaill rhwystredig arall, Thomas Huxley (Toby Jones).
A'r hyn sy'n dwysau'r gwewyr ac yn cynyddu'r tyndra dramatig yw'r ffaith nad yw Darwin ei hun yn berson anghrefyddol. Nid rhyw Richard Dawkins o anffyddiwr ydi o a'i fryd ar danseilio cred a dinistrio Duw ydi o ond gwyddonydd a sylweddolodd ryfeddod mawr ein cread.
Annie ei ferch
Yn ganolog i'r stori hefyd y mae Annie, yr hoffusaf o'i blant yng ngolwg Darwin, a fu farw'n ddeg oed mewn twymyn a achoswyd, yn ei feddwl ef, gan ei esgeulustod ei hun.
Mae golygfeydd eithriadol o dyner a theimladwy rhwng tad a merch yn ystod y ffilm a rhai dirdynnol rhwng gŵr a gwraig.
Ac yn y pen draw gwelwn mai Annie - yn fwy nag Emma - yw'r allwedd i'w benderfyniad i gyhoeddi ei ddamcaniaeth i'r byd. Mae'r golygfeydd ohono yn adrodd straeon o'i deithiau iddi yn arbennig o ddwys.
"Dweda'r rhan lle mae hi'n mynd yn sâl ac yn marw. Dwi'n ei hoffi achos mae'n gwneud imi wylo," meddai wrth ofyn iddo adrodd yr hanes am Jenny, orang-utan y bu'n ei hastudio.
Golygfa arall hynod iawn yw'r un o'r parsel o syniadau chwyldroadol, wedi ei lapio mewn papur llwyd, yn cael ei daflu'n ddiseremoni i gefn car a cheffyl y postmon i'w cludo'n herciog i'r cyhoeddwyr!
Dwys ac ysgytiol
Telyneg ydi Creation; yn ddwys ac yn ysgytiol ei theimladrwydd. Yn ffilm tair ffunen fe allech chi ddweud a ninnau'n dystion i fywyd Darwin ac Emma yn chwalu ac yn cyfuno wedyn a dyw'r ffaith ein bod yn gwybod diwedd y stori ddim yn gwneud hwn yn llai o gwbl o brofiad theatraidd.
Ac o sôn am gyffwrdd â theimladau yr oeddwn fodd bynnag yn amheus o'r syniad o gyfosod tynged Jenny yr orang-utan y bu Darwin yn ei hastudio yn Sw Llundain ochr yn ochr a munudau olaf Annie ei ferch.
Mae'n arwyddocaol mai ychydig o sylw a gafodd Creation ers ei 'rhyddhau' yn Toronto er gwaethaf yr holl sylw a gafodd canrif a hanner cyhoeddi campwaith Darwin. Ac eto, nid mor annisgwyl a hithau'n gyfnod pan yw'r Creawdiaid crefyddol yn tynnu eu hewinedd o'r blew i herio Darwiniaeth, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.
Dal yr un fath
Byddai rhywun yn meddwl felly fod hon yr union adeg i ddangos ffilm o'r fath ond mae'n arwyddocaol fod yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio ar y posteri fel "y syniad mwyaf yn hanes meddwl" yn troi cymaint o droliau heddiw ag oedden nhw ganrif a hanner yn ôl.
Yn y ffilm dywed Darwin, "Fe geisiai gadw Duw allan o'r peth - er, rwy'n siŵr y bydd yn ei weld fel ymosodiad personol." Ac yn yr unfed ganrif ar hugain felly'n union y mae rhai yn dal i'w gweld hi wrth iddyn nhw fethu ag asio gwyddoniaeth i'w crefydd.