12 Mawrth 2010
Lowri Haf Cooke yn adolygu'r ffilm a enillodd Oscar yr actor gorau i Jeff Bridges 2010
- Y Sêr: Jeff Bridges, Maggie Gyllenhaal, Colin Farrell a Robert Duvall.
- Cyfarwyddo: Scott Cooper Marshall.
- Sgrifennu: Addasiad Sgript Scott Cooper o nofel Thomas Cobb. Cerddoriaeth: T-Bone Burnett a Stephen Bruton.
- Hyd: 112 munud
Derbyn ei haeddiant
Adolygiad Lowri Haf Cooke
O'r diwedd, bron i ddeugain mlynedd ar ôl derbyn ei enwebiad Oscar cyntaf, mae Jeff Bridges wedi ennill y wobr sy'n cadarnhau ei statws fel actor gorau ei genhedlaeth - a hynny am chwarae cymeriad go gyfarwydd.
Bad Blake yw'r gwrth-arwr gaiff ei bortreadu gan Bridges yn Crazy Heart; canwr gwlad oedrannus sydd wedi hen ffarwelio â'i gyfnod euraidd ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn teithio pellteroedd maith er mwyn chwarae mewn bariau diddim i eneidiau colledig eraill.
Byw'r ystrydeb
Yn yfwr trwm, mae Bad yn byw ar amynedd a thrugaredd yr ychydig sy'n ei gofio pan oedd ar ei anterth ac yn gwrthod yn lân â derbyn cyngor ei reolwr i ddechrau sgwennu unwaith yn rhagor, er mwyn ennill cytundeb anferth gyda'i ²ú°ù´Ç³Ù鲵é Tommy Sweet - seren ddisgleiriaf sîn arwynebol Nashville erbyn hyn
. Mae e'n byw'r ystrydeb a'i ganeuon yn cofnodi'r bywyd caled greodd iddo'i hun dan yr argraff mai dyna sy'n gwneud canwr gwlad go iawn.
Ond pan ddaw y newyddiadurwraig ifanc Jean Craddock (Maggie Gyllenhaal) i'w holi ar gyfer portread mewn papur lleol, caiff Bad ei drywanu gan wirioneddau mawr a sylweddoli am y tro cyntaf pa mor wag yw gwadu byw.
Oes na obaith o achubiaeth i'r hen ddyn drwg ynteu ydy hi'n rhy hwyr iddo wneud yn iawn am gamgymeriadau'r gorffennol?
Heb fod yn gwbl wreiddiol
Nid stori cwbl wreiddiol mo Crazy Heart ac y mae iddi ambell i gyffyrddiad go gawslyd, gyda rhannau sylweddol o'r cynhyrchiad yn dwyn i gof The Wrestler - ffilm a greodd argraff fawr y llynedd, diolch i berfformiad trydanol Mickey Rourke.
Fodd bynnag, yr hyn sydd yn ganmoladwy yw'r gerddoriaeth ffantastig gan T-Bone Burnett a'r diweddar Stephen Bruton a pherfformiadau cynorthwyol caboledig gan Maggie Gyllenhaal, Colin Farrell a Robert Duvall, fel angylion amrywiol "Bad" Blake.
Mae'r ffilm yn ennill marciau ychwanegol am dro annisgwyl o onest yn y stori a phrif gân y tu hwnt o deimladwy, The Weary Kind gan Ryan Bingham a gipiodd Oscar am gân wreiddiol orau 2010. Enillydd haeddiannol iawn.
Yn naturiol, mae'r clôd mwyaf yn mynd i Bad Blake ei hun ac afraid dweud fod Jeff Bridges yn cynnig perfformiad gwych fel actor ac fel cerddor.
Cyson wych
Ac mae'n deg nodi hefyd ei fod ymhlith yr ychydig actorion sydd wedi cyflwyno perfformiadau cyson wych gydol ei yrfa - mewn ffilmiau fel The Last Picture Show, Starman, The Fisher King, The Big Lebowski, a - fy ffefryn personol i - The Fabulous Baker Boys.
Yn actor cynnil mae'n grefftus, didwyll a diymhongar hefyd ac wedi chwarae cymeriadau amrywiol ar hyd ei yrfa gan lwyddo'n gynnar iawn i oresgyn cyhuddiadau o ffafriaeth fel mab i'r actorion Lloyd a Dorothy Dean Bridges.
Gwir fod Bad Blake yn gymeriad sinematig lled gyfarwydd y gwelsom ei debyg droeon o'r blaen ond Jeff Bridges sy'n sicrhau ein cydymdeimlad o eiliadau cynta'r ffilm, ac ef a'i berfformiad ysgubol yw gwir galon Crazy Heart.